Tir Comin

Hysbysiadau Cyhoeddus

Deddf Tir Comin 2006

Adran 19 (2) (a)

Gwallau a wnaed gan yr awdurdod cofrestru

 

Hysbysir drwy hyn fod cais wedi’i wneud gan Cymdeithas Gychod Afon Nyfer a Harbwr Trefdraeth i Gyngor Sir Penfro fel Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin, ynglŷn â thir yn Y Parrog, Trefdraeth, Sir Benfro a ddisgrifir yn llawn isod.

Mae crynodeb o effaith y cais fel a ganlyn: i gywiro gwall a wnaed gan yr awdurdod cofrestru trwy gwneud neu adnewid cofnod yn y cofrestr.

Honnir gan yr Ymgeisydd fod y tir a liwiodd yn goch ar y plan a atodwyd i’r ymgais wedi cael ei eithrio’n anghywir gan yr Awdurdod Cofrestru Tir Comin o’r ymgais wreiddiol y tir cyfagos, sef CL022, Carningli ac Y Parrog.

Os caniateir y cais, yn llawn neu’n rhannol, bydd yr awdurdod cofrestru yn rhoi’r penderfyniad ar waith trwy ychwanegu’r tir ymgais i CL022.

Sylwadau:

 

  • Rhaid dyfynnu cyfeirnod y Cais CL022/CORR
  • Rhaid nodi enw a chyfeiriad post unrhyw berson sy’n gwneud y sylwadau, ynghyd â natur diddordeb y person hwnnw (os oes unrhyw) yn y tir a effeithir gan y cais, a gellir cynnwys cyfeiriad e-bost;
  • Rhaid i’r person sy’n gwneud y sylwadau eu harwyddo;
  • Rhaid nodi ar ba sail y gwneir y sylwadau
  • Rhaid eu hanfon at: Swyddog Cofrestru Tiroedd Comin, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Freemans Way, Hwlffordd SA61 1TP neu e-bostiwch: commonland@pembrokeshire.gov.uk

Ni ellir trin sylwadau’n gyfrinachol. Pan fo’r cais yn cael ei atgyfeirio at Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) bydd unrhyw sylwadau’n cael eu hanfon at PCAC.  

Y dyddiad y daw’r cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau i ben yw 24ain o Awst 2026.

Mae dogfennau sy’n berthnasol i’r cais ar gael am archwiliad yn y cyfeiriad uchod, fodd bynnag mae angen apwyntiad. Ffoniwch (01437) 775330 os gwelwch yn dda. Gellir cael golwg ar yr Hysbysiad a’r cynllun amgaëedig ar wefan Cyngor Sir Penfro, tudalen Tiroedd Comin.

Dyddiad: 13eg o Gorffennaf 2026.

Arwyddwyd: Rhian Young, Pennaeth Gyfraith a Llywodraeth

 

Disgrifiad o’r tir dan sylw:

.23 hectar o dir yn gyfagos i’r Parrog, yng nghymuned Trefdraeth. Canolwyd ar cyfeirnod Arolwg Ordnans: SN 052397, a wedi’i liwio’n goch ar y fap a atodwyd.

 

 

ID: 2377, adolygwyd 13/07/2026