Tir Halogedig
Trosolwg Tir Halogedig
Beth yw Tir Halogedig?
Fel arfer, mae tir wedi'i halogi o ganlyniad i'r diben(ion) y defnyddiwyd y tir iddo/iddynt o'r blaen neu efallai, yn llawer llai arferol, o ganlyniad i lygryddion sydd ynddo o ganlyniad i amgylchiadau daearyddol naturiol. Mewn rhai amgylchiadau arbennig, mae'n hysbys bod tir lle bu hanes o ddiwydiant wedi llygru dyfroedd rheoledig, rhyddhau nwyon a allai fod yn wenwynig neu'n ffrwydrol, gwneud niwed i adeiladau ac amharu ar iechyd pobl trwy dderbyn neu fod yn agored i fwyd / pridd halogedig.
Mae i'r geiriau 'Tir Halogedig' nawr ddiffiniad cyfreithiol penodol. Yn unol ag Adran 78A (2) o Ran 2A Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (DDA) y diffiniad o 'Dir Halogedig' yw;
"Tir y mae'r Awdurdod Lleol yn ystyried bod ei gyflwr, oherwydd sylweddau yn, ar neu o dan y tir, yn peri niwed sylweddol, neu y mae'n hollol ddichonol y gallai beri niwed o'r fath; neu ei fod yn llygru, neu ei bod yn debygol y gallai lygru, dyfroedd rheoledig."
Ystyr "niwed" yw niwed i iechyd organebau byw neu amharu rhyw fodd arall ar systemau ecolegol y maent yn rhan ohonynt ac, ar gyfer pobl, mae'n cynnwys niwed i'w heiddo.
Pam Ddylid Poeni am Dir Halogedig?
Gallai tir halogedig fod yn beryglus i rai a allai ddefnyddio'r tir ac effeithio ar lystyfiant, dwr ac ati. Gellir dod i gysylltiad gyda halogyddion trwy anadlu llwch neu nwyon, cyffwrdd â phridd, neu drwy fwyd wedi ei dyfu ar y tir. Mae trwytholchion (llygryddion hylifol sy'n draenio oddi ar y safle) yn gallu llygru dwr daear ac afonydd neu lynnoedd. Mae rhai halogyddion yn gallu bod yn ddifäol, ac mae rhai yn gallu creu perygl o ffrwydrad neu dân.
Pa mor Hir y mae Halogiad yn Para?
Pan yw halogydd wedi cyrraedd y pridd, mae'n gallu dadelfennu neu gael ei niwtraleiddio, ei olchi allan gan y glaw, anweddu neu aros yn y tir ac ymgrynhoi yn sylweddol. Pan yw halogyddion yn cynyddu, efallai na fydd hyn yn barhaol. Fodd bynnag, mae pridd yn gallu parhau i fod yn llygredig am gyfnod amhenodol - mae tir wedi'i halogi yn Lloegr y gellir ei olrhain i gyfnod y Rhufeiniaid.
A yw byw ar Dir Halogedig yn ddiogel?
Fel arfer, bach iawn yw'r peryglon sy'n gysylltiedig â byw ar safleoedd lle bu diwydiant. Yn amlach na pheidio, mae unrhyw effeithiau yn rhai ar werth yr eiddo oherwydd perygl a dybir yn hytrach nag effeithiau gwirioneddol ar iechyd y preswylwyr neu ar yr amgylchedd. Mae datblygiad trwy'r broses gynllunio hefyd yn debygol o leihau'r risg a achosir oherwydd ymchwilio ac adfer a all fod yn amod datblygu. Fodd bynnag, os ydych yn pryderu am broblemau posibl gallwch ofyn am gyngor gyda'r Swyddog Tir Halogedig yn y tîm rheoli llygredd.
Ty Rheoli Difwyniad
Ffôn: 01437 764551
E-bost: ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk