Tir Halogedig
Cofrestr Tir Halogedig
Mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol gadw cofrestr gyhoeddus, sy’n agored i’w harchwilio gan y cyhoedd, o’r gwaith adfer tir halogedig yn eu hardal. Gwneir y gofyniad hwn yn Adran 78R Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.
Bwriad y gofrestr hon yw ymddwyn fel cofnod llawn a pharhaol o’r holl gamau rheoleiddio a gymerwyd gan yr awdurdod gorfodi mewn perthynas ag adfer y tir.
Oes unrhyw dir Halogedig yn Sir Benfro?
Er bod gan Sir Benfro ardaloedd o dir sydd wedi’u heffeithio gan halogiad, dim ond un safle yn Sir Benfro sydd wedi’i ddyfarnu’n ffurfiol fel Tir Halogedig yn unol â’r diffiniad.
Cofnodion y Gofrestr
Cyfeirnod y Dyfarniad |
Enw / Cyfeiriad |
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol |
Dyddiad y Dyfarniad |
Statws |
---|---|---|---|---|
PCC/CL/01 | Y tir i gyfeiriad y de o’r dyffryn yn South Pembrokeshire Golf Course, Military Road, Pennar, SA72 6SE | 195262, 202970 | 13/09/2019 | Hysbysiad o’r Dyfarniad |
Gellir edrych ar ragor o fanylion yn rhad ac am ddim trwy gysylltu â’r Tîm Rheoli Llygredd. Cyfeiriwch ymholiadau at sylw’r Swyddog Tir Halogedig.
Ffôn: 01437 764551
E-bost: ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk