Tir Halogedig

Osgoi Llygredd o Danciau Olew Gwresogi

Mae gan lawer o gartrefi yn Sir Benfro danc olew i gyflenwi gwres canolog llosgi olew.

Mae olew yn wenwynig a gall achosi niwed i’ch iechyd ac i iechyd eich teulu, planhigion, anifeiliaid, bywyd gwyllt a’r amgylchedd. Gall olew deithio’n hir yn y ddaear ac mewn dŵr a gall halogi ffynonellau dŵr tanddaearol yn hawdd trwy drwytho’n ddwfn i mewn i’r tir. Gall dreiddio trwy’r pibelli cyflenwi dŵr a halogi cyflenwadau dŵr yfed. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr fod eich tanc a gwaith pibelli’r cyflenwad olew yn cael eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd ac yn gywir ac eich bod chi’n deall y canlyniadau i chi os bydd olew’n gollwng neu’n gorlifo o’ch system.

Mae’r rhan fwyaf o ollyngiadau’n cael eu hachosi gan danciau a gwaith pibelli diffygiol neu heb eu cynnal a’u cadw’n dda, wrth i’r rhan fwyaf o achosion o golledion gael eu hachosi gan ladradau neu pan fydd y tanc yn cael ei lenwi. Dylid trwsio gollyngiadau’n ddi-oed a dylid rhoi stop yn gyflym ar olew sy’n sarnu rhag iddo ledu a gwaethygu.

Os bydd damwain yn digwydd, gall y Tîm Rheoli Llygredd a Chyfoeth Naturiol Cymru gynnig cyngor a help i sicrhau bod y gwaith glanhau’n cael ei wneud yn brydlon ac i’r safon briodol. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gallu ymgymryd â’r gwaith glanhau na thalu am lanhau drosoch chi.

Efallai na fydd cwmnïau yswiriant yn talu os bydd gollyngiad yn mynd heb i neb sylwi neu ei anwybyddu dros amser. Mae’n bwysig archwilio’ch tanc a’ch pibelli’n gyson am ollyngiadau a monitro faint o olew a ddefnyddiwch. Gallai cynnydd mewn faint o olew a ddefnyddiwch neu ostyngiad sydyn yn faint o olew sydd yn eich tanciau olygu bod yna ollyngiad.

Gallai’r llyfryn isod helpu i osgoi cost sylweddol, anghyfleustra a risgiau i’ch iechyd a’r amgylchedd a achosir pan fydd olew gwresogi’n gollwng neu’n sarnu o’r tanc storio/pibelli. Esbonia’r llyfryn hwn y pethau y gellir eu gwneud i atal damweiniau fel olew’n gollwng neu’n sarnu, a’r camau y dylid eu cymryd os bydd damwain yn digwydd. 

Canllaw ar Danciau Olew Gwresogi Domestig

Ffôn: 01437 764551
E-bost: ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk

ID: 2474, adolygwyd 09/11/2023