Tir Halogedig

Sut mae Cyngor Sir Penfro yn mynd i'r afael a halogiad ar dir?

Mae'r Tîm Rheoli Llygredd yn cyflawni'r ddyletswydd statudol o dan Ran 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ond mae cryn dipyn o'r gwaith hefyd yn cynnwys delio â halogiad tir trwy'r broses gynllunio ynghyd ag ateb ymholiadau cyfreithiwr ac ymgynghorydd.

Ran 2A

Mae'r Cyngor wedi llunio 'Strategaeth Archwilio Tir Halogedig' sy'n rhoi manylion y modd y bydd yn ymdrin â thir yn yr ardal a allai fod wedi ei halogi. Mae'r strategaeth wedi ei llunio yn unol â dyletswydd statudol sy'n deillio o Ran 2A DDA 1990.  Cyhoeddwyd fersiwn ddiwygiedig y strategaeth ym mis Awst 2016. Dyma'r trydydd adolygiad a gyhoeddwyd gyntaf yn 2003 ac yna yn 2010. Mae strategaeth 2016 yn adlewyrchu'r diweddariadau yn y Canllawiau Statudol Tir Halogedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2012. Mae'r Canllawiau Statudol yn nodi y dylai'r archwilio fod yn "rhesymegol, yn drefnus ac yn effeithlon" a sicrhau y deuir o hyd i'r problemau mwy brys a difrifol yn gyntaf.

Mae'r Strategaeth yn egluro'r camau y bydd y Cyngor yn eu dilyn i ddarganfod unrhyw dir halogedig. Bydd y rhain yn cynnwys darganfod unrhyw ffynonellau a allay lygru; dod o hyd i dderbynyddion sensitive, un ai rai dynol neu amgylcheddol, ac asesu a oes, neu a yw'n debygol y bydd, perygl sylweddol o niwed. Dull o weithredu fesul camau sydd gan Gyngor Sir Penfro ar gyfer darganfod ac asesu tir halogedig.  Gellir crynhoi'r prif bwyntiau fel hyn.   

Bydd y Strategaeth yn cael ei hadolygu o bryd i'w gilydd er mwyn gweld y modd y mae'r gwaith yn mynd rhagddo yn unol â'r graddfeydd amser arfaethedig. Bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth o unrhyw ganllawiau newydd sydd wedi eu llunio er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn unol â'r arferion gorau cyfredol.

Cynllunio

Yn ogystal â'r gofynion rhagweithiol sydd yn Rhan IIA DDA 1990, adferwyd halogiad mewn tir yn sgil datblygiadau newydd ar safleoedd 'tir llwyd' trwy'r broses o reoli datblygiad. Mae Diogelu'r Cyhoedd yn cyflawni swyddogaeth o bwys o ran sicrhau datblygu diogel ar dir y mae halogiad yn effeithio arno, gan weithio'n agos gydag chynllunwyr, ymgynghorwyr a datblygwyr er mwyn sicrhau y gwneir y tir yn 'addas i'w ddefnyddio'.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yr Amgylchedd wedi llunio canllawiau ar gyfer perchnogion, ymgynghorwyr amgylcheddol a datblygwyr ar gyfer asesu a rheoli tir a allai halogiad fod wedi effeithio arno. Argymhellir y dylai datblygwyr gyfeirio at y nodyn cyfarwyddyd hwn er mwyn sicrhau archwiliad digonol o'r tir. Mae'r canllawiau hyn er mwyn rhoi gwybodaeth ynglŷn â'r math o wybodaeth sydd ei hangen ar yr Awdurdod Cynllunio Lleol er mwyn iddynt asesu cais am ganiatâd cynllunio ar safleoedd tir llwyd.

Ffôn: 01437 764551
E-bost: ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk

 

ID: 2470, adolygwyd 09/11/2023

Cofrestr Tir Halogedig

Mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol gadw cofrestr gyhoeddus, sy’n agored i’w harchwilio gan y cyhoedd, o’r gwaith adfer tir halogedig yn eu hardal. Gwneir y gofyniad hwn yn Adran 78R Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Bwriad y gofrestr hon yw ymddwyn fel cofnod llawn a pharhaol o’r holl gamau rheoleiddio a gymerwyd gan yr awdurdod gorfodi mewn perthynas ag adfer y tir.

Oes unrhyw dir Halogedig yn Sir Benfro?

Er bod gan Sir Benfro ardaloedd o dir sydd wedi’u heffeithio gan halogiad, dim ond un safle yn Sir Benfro sydd wedi’i ddyfarnu’n ffurfiol fel Tir Halogedig yn unol â’r diffiniad.

Cofnodion y Gofrestr

Cyfeirnod y Dyfarniad

Enw / Cyfeiriad

Cyfeirnod Grid Cenedlaethol

Dyddiad y Dyfarniad

Statws

PCC/CL/01 Y tir i gyfeiriad y de o’r dyffryn yn South Pembrokeshire Golf Course, Military Road, Pennar, SA72 6SE 195262, 202970 13/09/2019 Hysbysiad o’r Dyfarniad

 

Gellir edrych ar ragor o fanylion yn rhad ac am ddim trwy gysylltu â’r Tîm Rheoli Llygredd. Cyfeiriwch ymholiadau at sylw’r Swyddog Tir Halogedig.

Ffôn: 01437 764551
E-bost: ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk

 

 

ID: 2472, adolygwyd 09/11/2023

Osgoi Llygredd o Danciau Olew Gwresogi

Mae gan lawer o gartrefi yn Sir Benfro danc olew i gyflenwi gwres canolog llosgi olew.

Mae olew yn wenwynig a gall achosi niwed i’ch iechyd ac i iechyd eich teulu, planhigion, anifeiliaid, bywyd gwyllt a’r amgylchedd. Gall olew deithio’n hir yn y ddaear ac mewn dŵr a gall halogi ffynonellau dŵr tanddaearol yn hawdd trwy drwytho’n ddwfn i mewn i’r tir. Gall dreiddio trwy’r pibelli cyflenwi dŵr a halogi cyflenwadau dŵr yfed. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr fod eich tanc a gwaith pibelli’r cyflenwad olew yn cael eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd ac yn gywir ac eich bod chi’n deall y canlyniadau i chi os bydd olew’n gollwng neu’n gorlifo o’ch system.

Mae’r rhan fwyaf o ollyngiadau’n cael eu hachosi gan danciau a gwaith pibelli diffygiol neu heb eu cynnal a’u cadw’n dda, wrth i’r rhan fwyaf o achosion o golledion gael eu hachosi gan ladradau neu pan fydd y tanc yn cael ei lenwi. Dylid trwsio gollyngiadau’n ddi-oed a dylid rhoi stop yn gyflym ar olew sy’n sarnu rhag iddo ledu a gwaethygu.

Os bydd damwain yn digwydd, gall y Tîm Rheoli Llygredd a Chyfoeth Naturiol Cymru gynnig cyngor a help i sicrhau bod y gwaith glanhau’n cael ei wneud yn brydlon ac i’r safon briodol. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gallu ymgymryd â’r gwaith glanhau na thalu am lanhau drosoch chi.

Efallai na fydd cwmnïau yswiriant yn talu os bydd gollyngiad yn mynd heb i neb sylwi neu ei anwybyddu dros amser. Mae’n bwysig archwilio’ch tanc a’ch pibelli’n gyson am ollyngiadau a monitro faint o olew a ddefnyddiwch. Gallai cynnydd mewn faint o olew a ddefnyddiwch neu ostyngiad sydyn yn faint o olew sydd yn eich tanciau olygu bod yna ollyngiad.

Gallai’r llyfryn isod helpu i osgoi cost sylweddol, anghyfleustra a risgiau i’ch iechyd a’r amgylchedd a achosir pan fydd olew gwresogi’n gollwng neu’n sarnu o’r tanc storio/pibelli. Esbonia’r llyfryn hwn y pethau y gellir eu gwneud i atal damweiniau fel olew’n gollwng neu’n sarnu, a’r camau y dylid eu cymryd os bydd damwain yn digwydd. 

Canllaw ar Danciau Olew Gwresogi Domestig

Ffôn: 01437 764551
E-bost: ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk

ID: 2474, adolygwyd 09/11/2023

Sut mae Cyngor Sir Penfro yn mynd i'r afael a halogiad ar dir?

Os ydych chi'n prynu cartref neu adeilad masnachol ac yn amau halogiad tir, gofynnwch i'ch cyfreithiwr ymchwilio. Byddwch yn ymwybodol bod samplu a phrofi pridd a dŵr daear a dehongli'r canlyniadau yn ddrud ac mae'n well gadael i ymgynghorwyr proffesiynol.

Os ydych chi'n poeni y gallech chi fyw ar safle a allai fod wedi'i halogi neu sydd â diddordeb mewn prynu darn penodol o dir, gallwch gysylltu â'r Tîm Rheoli Llygredd i ddarganfod a oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth. Cyfeiriwch eich ymholiad i gael sylw'r Swyddog Tir Halogedig, yn ddelfrydol gyda chynllun neu fraslun o'r darn o dir dan sylw er mwyn osgoi dryswch ynghylch yn union ble mae'r safle.

Chwiliadau Amgylcheddol

Mae’r Tîm Rheoli Llygredd yn cynnig gwasanaeth Chwiliad Amgylcheddol sy’n darparu adroddiad o wybodaeth berthnasol a gedwir gan y tîm. Y ffi safonol am y Gwasanaeth Chwiliad Amgylcheddol hwn yw £83 a TAW am ymateb i ymholiad syml, sy’n cynyddu yn dibynnu ar faint o amser a dreuliwyd yn casglu’r wybodaeth ofynnol. Nodwch pa ddull talu rydych chi’n ei ffafrio wrth wneud cais am chwiliad (e.e. siec, dros y ffôn).

Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu adroddiad lliw llawn ar sail y wybodaeth a gafwyd o gofnodion y Cyngor ei hun a thrwy fynd trwy’r cofnodion yn ein cronfa ddata mewn perthynas â thir sydd ar y safle neu o fewn radiws o 250 metr o’r safle. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys:

  • Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 Rhan 2A archwiliad o’r gofrestr gyhoeddus.
  • Hanes diwydiannol o 4 epoc o fapiau ac arolygon defnydd tir, sy’n dyddio’n ôl i 1865.
  • Manylion safleoedd tirlenwi hanesyddol adnabyddus.
  • Manylion tir sydd â defnydd tir hanesyddol gyda’r posibilrwydd o halogi.
  • Rhestr o adroddiadau safle o fewn cyrraedd y cyhoedd sydd ym meddiant y Tîm hwn.
  • Digwyddiadau llygredd a gofnodwyd gan yr Awdurdod Lleol
  • Manylion tanciau petroliwm tanddaearol segur

Er mwyn darparu ymateb mor gynhwysfawr â phosibl, rydym bellach yn cynnig y canlynol fel chwiliadau dewisol (wedi’u cynnwys yn y ffi). Rhowch wybod os hoffech i ni gynnwys unrhyw un o’r rhain yn eich chwiliad:

  • Lleoliad cyflenwadau dŵr preifat o fewn 1km
  • Cofnodion petroliwm ar gyfer safleoedd trwyddedig – nifer, maint a chynnwys tanciau tanwydd presennol, adroddiadau o ollyngiadau / colledion
  • Manylion cwynion/hysbysiadau Niwsans Statudol sy’n dyddio’n ôl i 1996.
  • Rhestr o safleoedd o fewn 250m sydd â thrwyddedau gweithredol wedi’u cyhoeddi gan yr Awdurdod Lleol o dan Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (PPC) a Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Ni ddylai adroddiadau safonol gymryd mwy na 5 niwrnod gwaith o dderbyn y taliad i’w cyhoeddi. Os ystyrir bod yr adroddiad yn ‘ansafonol’, byddwn yn rhoi gwybod pryd fydd y cais yn debygol o gael ei gwblhau adeg ei gyflwyno.

Ffynonellau gwybodaeth eraill

Gallai gwybodaeth fod ar gael hefyd gan Adrannau Cynllunio a Rheoli Adeiladu’r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyflenwyr masnachol data amgylcheddol. Gallai “Cofnod o Gyflwr Tir” fod ar gael ar gyfer rhai rhandiroedd. Cofnod o wybodaeth ffeithiol am safle mewn fformat safonol yw hwn ac fel rheol, fe’i cedwir gan y tirfeddiannwr.

Ffôn: 01437 764551
E-bost: ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk

ID: 2473, adolygwyd 09/11/2023

Trosolwg Tir Halogedig

Beth yw Tir Halogedig?

Fel arfer, mae tir wedi'i halogi o ganlyniad i'r diben(ion) y defnyddiwyd y tir iddo/iddynt o'r blaen neu efallai, yn llawer llai arferol, o ganlyniad i lygryddion sydd ynddo o ganlyniad i amgylchiadau daearyddol naturiol. Mewn rhai amgylchiadau arbennig, mae'n hysbys bod tir lle bu hanes o ddiwydiant wedi llygru dyfroedd rheoledig, rhyddhau nwyon a allai fod yn wenwynig neu'n ffrwydrol, gwneud niwed i adeiladau ac amharu ar iechyd pobl trwy dderbyn neu fod yn agored i fwyd / pridd halogedig. 

Mae i'r geiriau 'Tir Halogedig' nawr ddiffiniad cyfreithiol penodol. Yn unol ag Adran 78A (2) o Ran 2A Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (DDA) y diffiniad o 'Dir Halogedig' yw; 

"Tir y mae'r Awdurdod Lleol yn ystyried bod ei gyflwr, oherwydd sylweddau yn, ar neu o dan y tir, yn peri niwed sylweddol, neu y mae'n hollol ddichonol y gallai beri niwed o'r fath; neu ei fod yn llygru, neu ei bod yn debygol y gallai lygru, dyfroedd rheoledig." 

Ystyr "niwed" yw niwed i iechyd organebau byw neu amharu rhyw fodd arall ar systemau ecolegol y maent yn rhan ohonynt ac, ar gyfer pobl, mae'n cynnwys niwed i'w heiddo.

Pam Ddylid Poeni am Dir Halogedig?

Gallai tir halogedig fod yn beryglus i rai a allai ddefnyddio'r tir ac effeithio ar lystyfiant, dwr ac ati.  Gellir dod i gysylltiad gyda halogyddion trwy anadlu llwch neu nwyon, cyffwrdd â phridd, neu drwy fwyd wedi ei dyfu ar y tir. Mae trwytholchion (llygryddion hylifol sy'n draenio oddi ar y safle) yn gallu llygru dwr daear ac afonydd neu lynnoedd.  Mae rhai halogyddion yn gallu bod yn ddifäol, ac mae rhai yn gallu creu perygl o ffrwydrad neu dân.

Pa mor Hir y mae Halogiad yn Para?

Pan yw halogydd wedi cyrraedd y pridd, mae'n gallu dadelfennu neu gael ei niwtraleiddio, ei olchi allan gan y glaw, anweddu neu aros yn y tir ac ymgrynhoi yn sylweddol. Pan yw halogyddion yn cynyddu, efallai na fydd hyn yn barhaol. Fodd bynnag, mae pridd yn gallu parhau i fod yn llygredig am gyfnod amhenodol - mae tir wedi'i halogi yn Lloegr y gellir ei olrhain i gyfnod y Rhufeiniaid.

A yw byw ar Dir Halogedig yn ddiogel?

Fel arfer, bach iawn yw'r peryglon sy'n gysylltiedig â byw ar safleoedd lle bu diwydiant. Yn amlach na pheidio, mae unrhyw effeithiau yn rhai ar werth yr eiddo oherwydd perygl a dybir yn hytrach nag effeithiau gwirioneddol ar iechyd y preswylwyr neu ar yr amgylchedd. Mae datblygiad trwy'r broses gynllunio hefyd yn debygol o leihau'r risg a achosir oherwydd ymchwilio ac adfer a all fod yn amod datblygu. Fodd bynnag, os ydych yn pryderu am broblemau posibl gallwch ofyn am gyngor gyda'r Swyddog Tir Halogedig yn y tîm rheoli llygredd. 

Ty Rheoli Difwyniad

Ffôn: 01437 764551
E-bost: ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk

ID: 2419, adolygwyd 09/11/2023