Tlodi Mislif

Grant Urddas Mislif

Beth yw'r Grant Urddas Mislif?

Ers 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i bob awdurdod lleol yng Nghymru drwy'r Grant Urddas Mislif i helpu i fynd i'r afael â thlodi mislif. Tlodi mislif yw'r anallu i gael mynediad at y cynhyrchion mislif sydd eu hangen arnoch oherwydd rhwystrau a phwysau ariannol. Nid yw hyn bob amser yn effeithio ar bobl ar incwm isel; gall hefyd effeithio ar y rhai sydd mewn gwaith neu'n derbyn budd-daliadau.

Yn Sir Benfro, mae'r cyllid hwn yn cefnogi cynhyrchion mislif am ddim trwy ysgolion cynradd ac uwchradd a phwyntiau mynediad cymunedol, fel llyfrgelloedd a chlybiau ieuenctid.

Os ydych chi neu rywun yn eich cartref yn cael trafferth cael mynediad at gynhyrchion mislif, mae cymorth ar gael.

Cysylltwch â'n Cysylltydd Cymunedol: Sarah Harvey ar 07971 598 121

 

Gwasanaeth Tanysgrifio Cynnyrch Mislif

Mae Sir Benfro yn cynnal gwasanaeth tanysgrifio cynnyrch mislif am ddim i gefnogi pobl gyda chost rheoli eu mislif, gan bostio cynhyrchion yn uniongyrchol i gartrefi ledled y sir. Mae hyn yn helpu i wneud cymorth yn hygyrch i bawb, ni waeth ble maen nhw'n byw.

Yn dilyn cynllun peilot hynod lwyddiannus, mae'r gwasanaeth bellach yn dosbarthu dros 400 o flychau tanysgrifio bob mis i gartrefi ledled y sir. Mae cynlluniau pellach yn cael eu datblygu i ehangu'r gwasanaeth yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan gynnwys cynhyrchion yn benodol ar gyfer y rhai sydd â llif trymach ac i'w defnyddio yn ystod y nos.

Os ydych chi neu rywun yn eich cartref yn cael trafferth cael mynediad at gynhyrchion mislif ac os hoffech drafod cael mynediad at y Gwasanaeth Tanysgrifio Cynnyrch Mislif, ffoniwch y Cysylltydd Cymunedol Sarah Harvey ar 07971 598 121.
Mae pobl ifanc hefyd yn gallu siarad â'u Gweithiwr Ieuenctid yn yr Ysgol.

 

Ffocws ar y Llif

Ffocws ar y Llif yw ein gwaith gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o urddas mislif ledled Sir Benfro. Mae hyn yn cynnwys:

  • Podlediad Ffocws ar y Llif. Cynnwys ffeithiol a sgyrsiau i wella dealltwriaeth a lleihau stigma ynghylch mislif, urddas mislif a'r corff.
  • Cyfryngau cymdeithasol. Diweddariadau ar y grant, canllawiau ar newyddion lleol sy'n gysylltiedig â'r mislif, yn ogystal â chyfeirio at ffynonellau gwybodaeth a chymorth dibynadwy am ddim sy'n ymwneud â chylchoedd mislif ac iechyd mislif.
  • Cylchgrawn Ffocws ar y Llif. Lle i rannu straeon ysbrydoledig a diweddariadau lleol ar ba gefnogaeth sydd ar gael a sut i gael mynediad ati

 

Grantiau Bach

Mae ein cynllun Grantiau Bach yn cefnogi sefydliadau elusennol lleol a grwpiau ieuenctid i gynnal prosiectau sy'n helpu i leihau tlodi mislif yn Sir Benfro. Noder nad oes cyllid ar gael i fusnesau preifat.
Gwahoddir cynigion am hyd at £3,000 ar adegau penodol o'r flwyddyn, gyda phob cais yn cael ei asesu gan Fanc Ieuenctid Sir Benfro - gan sicrhau bod gan bobl ifanc leol lais gweithredol yn y ffordd rydym yn llunio'r gefnogaeth a fwriadwyd ar eu cyfer.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r tîm yn: perioddignity@pembrokeshire.gov.uk

 

Dewis a Dethol Cynnyrch Mislif

Mae Sir Benfro yn cynnal nifer o stondinau Dewis a Dethol Cynnyrch Mislif, wedi'u lleoli ar draws ein hysgolion a'n lleoliadau cymunedol. Mae'r rhain yn caniatáu i bobl gael mynediad at amrywiaeth o gynnyrch mislif am ddim, gan gynnwys opsiynau untro ac ailddefnyddiadwy, mewn lle cyfleus a hygyrch heb ofni barnu na busnesa.

 

Fideo: Urddas Mislif yn Sir Benfro 

ID: 9302, revised 01/05/2026