Trafnidiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Cludiant Bws Mini Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Gwasanaeth Cludiant Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro yn rhedeg 18 o gerbydau sy’n gallu cymryd cadeiriau olwyn, sy’n cludo pobl i ac o ganolfannau dydd a weithredir gan yr Awdurdod Lleol a Chanolfannau Gweithgareddau Cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn ledled Sir Benfro. Mae’r bysiau’n gwneud oddeutu 115,000 o deithiau cleient bob blwyddyn, y mae 17,000 ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn.
Mae’r holl deithwyr y mae’r gwasanaeth hwn yn eu cludo wedi eu hatgyfeirio gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae’r cerbydau hyn ar gael gyda’r hwyr, yn ystod y penwythnos a gwyliau cyhoeddus i grwpiau gwirfoddol sy’n gweithio gyda phobl hŷn/gydag anableddau. Mae’r cerbyd mwyaf yn gallu cludo hyd at 3 cadair olwyn gyda 13 o deithwyr. Codir tâl y filltir sy’n cynnwys tanwydd ac yswiriant ac mae’n rhaid i grwpiau ddod â’u gyrrwr (gyrwyr) eu hunain.
Un o amodau hurio cerbyd yw bod rhaid i’r gyrwyr gael hyfforddiant MiDAS, sef Cynllun Ymwybyddiaeth i Yrwyr Bws Mini. Mae angen saith niwrnod o rybudd i drefnu’r sesiwn hyfforddi hon.
Os oes diddordeb gyda chi yn y cynllun hyfforddi MiDAS neu eisiau hurio bws mini, mae croeso i chi alw:
Matthew Johns
Swyddog Trefnu Cludiant
Cyngor Sir Penfro
Uned Cludiant
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn. 01437 764551