Cludiant i'r Ysbyty
Yn ogystal â darparu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn trefnu a darparu cludiant i'r ysbyty ar gyfer cleifion sy'n feddygol anffit ac na allant deithio mewn unrhyw ffordd arall.
Pan fyddwch chi'n ffonio am gludiant bydd cyfres o gwestiynau syml yn cael eu gofyn ichi er mwyn penderfynu a ydych chi'n gymwys i gael cludiant ai peidio. Mae'r cymhwyster yn cael ei seilio ar feini prawf meddygol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol gan Lywodraeth Cymru. Os ydych chi'n gymwys i'w gael, bydd Cludiant mewn Ambiwlans yn cael ei drefnu ar eich cyfer. Os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf, yna bydd rhifau cyswllt eraill yn cael eu rhoi ichi ar gyfer sefydliadau a allai ddarparu cludiant ichi.
Efallai y bydd gan gleifion a'u hebryngwyr hawl i gael cymorth ariannol tuag at y costau teithio i'r ysbyty os ydynt yn cael budd-daliadau, neu'n byw ar incymau isel neu os taw pensiynwyr anabledd rhyfel ydynt.
For further information :
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru - 0300 1232 303 (Dydd Llun i Ddydd Gwener 8:00-18:00)