Trafnidiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol

Tacsis a Cheir Llog Preifat

Mae nifer o gerbydau Hacnai, sef tacsis a cherbydau llog preifat, yn gweithredu yn Sir Benfro. Cyngor Sir Penfro sy'n trwyddedu pob cerbyd o'r fath.

Tacsis (Cerbyd Hacnai)

Gall cerbydau sydd wedi'u cofrestru'n 'Cerbyd Hacnai' (mewn geiriau eraill, tacsi) gludo hyd at 8 teithiwr yn ogystal â'r gyrrwr. Caiff tacsis eu trwyddedu gyda'r Cyngor Sir er mwyn cludo teithwyr am dâl neu wobr. Nid yw pobl yn gorfod eu harchebu ymlaen llaw ac fe allant aros ger rhengoedd tacsis neu fe all pobl alw mas amdanynt ar yr heol.

Ceir Llog Preifat

Gall cerbydau sydd wedi'u cofrestru'n 'Llog Preifat' gludo hyd at 8 teithiwr yn ogystal â'r gyrrwr. Caiff Ceir Llog Preifat eu trwyddedu gyda'r Cyngor Sir er mwyn cludo teithwyr am dâl neu wobr. Maent yn gorfod cael eu harchebu ymlaen llaw ac ni allant aros ger rhengoedd tacsis ac ni all pobl alw mas amdanynt ar yr heol.  

Cysylltiadau a Dolenni Defnyddiol:

Licensing Team
Diogelwch y Cyhoedd
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn: 01437 764551
E-bost: licensing@pembrokeshire.gov.uk

ID: 196, adolygwyd 01/02/2023