Trafnidiaeth Ysgol

Cludiant i’r Ysgol

Efallai y bydd eich plant yn gallu cael cludiant am ddim i'r ysgol, yn dibynnu ar ba mor bell y maent yn byw o’r ysgol ac unrhyw anghenion ychwanegol sydd ganddynt.

I fod yn gymwys i gael cludiant am ddim, rhaid i’ch plentyn:

  • Byw yn Sir Benfro
  • Bod o oed ysgol gorfodol
  • Yn mynd i’r ysgol dalgylch sydd wedi’i neilltuo gan y Cyngor i wasanaethu cyfeiriad cartref y disgybl, neu’r ysgol addas agosaf;
  • Byw o leiaf 2 filltir o’r ysgol os yw yn yr ysgol gynradd
  • Byw o leiaf 3 milltir o’r ysgol os yw yn yr ysgol uwchradd

Rydym yn eich cynghorir i e-bostio school.transport@pembrokeshire.gov.uk cyn penderfynu i ba ysgol i anfon eich plant er mwyn cael gwybod a fyddant yn gymwys i gael cludiant am ddim i’r ysgol.

Am rhagor o wybodaeth: Gwybodaeth Cludiant Ysgol a Ffurflenni Cais

neu cysylltwch a’r:

Uned Drafnidiaeth Integredig

Neuadd y Sir

Hwlffordd

Sir Benfro

SA61 1TP

Ffon: 01437 775222
Ebost: school.transport@pembrokeshire.gov.uk

ID: 7143, adolygwyd 27/03/2023