Trafnidiaeth Ysgol
Cludiant Addysg - Cyflwyniad
Mae Cyngor Sir Penfro yn darparu gwasanaethau cludiant yn rhad ac am ddim i ddysgwyr, mewn rhai amgylchiadau, a gall hefyd arfer ei ddoethineb i ddarparu neu gynnig help tuag at gostau cludiant mewn amgylchiadau eraill. Mae'r tudalennau hyn yn darparu manylion ynghylch y trefniadau y penderfynwyd arnynt gan y Cyngor Sir, a fydd yn ymwneud â gwasanaethau cludiant ysgolion a cholegau, a cheir esboniad sut y sefydlir yr hawl iddynt. Cewch yma hefyd Godau Ymarfer sy'n cynnig cyngor sut y gellir ymgymryd â'r daith i'r ysgol neu'r coleg, ac oddi yno, yn ddiogel, ynghyd â gwybodaeth ddefnyddiol arall.
Mae'r Cyngor Sir yn ceisio darparu system gludiant sy'n cludo disgyblion yn ddiogel, yn gysurus ac yn effeithlon i'r ysgol, ac oddi yno. Ceisiant sicrhau bod disgyblion yn cyrraedd yn barod ac yn abl i gymryd mantais lawn o'r addysg sydd ar gael. Mae'r Cyngor yn cludo tua 5,500 o ddisgyblion cynradd, uwchradd a disgyblion ysgolion arbennig i'r ysgolion ac oddi yno bob dydd.
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn