Trafnidiaeth Ysgol
Gwybodaeth Cludiant Ysgol a Ffurflenni Cais
Fe’ch cynghorir i wirio a ydyw eich plentyn yn gymwys i gael cludiant cyn i chi benderfynu i ba ysgol i anfon eich plentyn.
Cyn gwneud cais am Drafnidiaeth Ysgol ar gyfer eich plentyn/plant, sicrhewch eich bod wedi darllen Telerau ac Amodau’r gwasanaeth:
Ffurflen Gais Trafnidiaeth Ysgol (yn agor mewn tab newydd)
Telerau ac Amodau- Darllenwch Os Gwelwch Yn Dda
Noder: Mae'r wybodaeth hon yn gywir adeg ei chyhoeddi ond gall newid o ganlyniad i newidiadau yn y gyfraith neu bolisi'r Cyngor Sir.
Cyflwyniad
Mae’r datganiad hwn yn amlinellu polisi Cyngor Sir Penfro ar gyfer darparu cludiant rhwng y cartref a’r ysgol / coleg, ac mae’n cyd-fynd â gofynion statudol Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (y Mesur).
Dyletswyddau Cyfreithiol
Mae dyletswyddau cyfreithiol y Cyngor yn gysylltiedig â chludiant ysgol fel a ganlyn:
- Asesu anghenion teithio dysgwyr yn ardal eu hawdurdod;
- Darparu cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer dysgwyr o oed ysgol gorfodol sy’n mynychu’r ysgol gynradd sy’n byw 2 filltir neu ymhellach o’u hysgol addas agosaf;
- Darparu cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer dysgwyr o oed ysgol gorfodol sy’n mynychu’r ysgol sy’n byw 3 milltir neu ymhellach o’u hysgol addas agosaf;
- Asesu a diwallu anghenion plant ‘sy’n derbyn gofal’ yn ardal yr awdurdod;
- Hyrwyddo mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg;
- Hyrwyddo dulliau teithio cynaliadwy.
- Bydd cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol yn cael ei ddarparu yn unol â’r Mesur a pholisi’r Cyngor, fel yr amlinellir isod.
Derbyniadau i Ysgolion
Mae prosesau ymgeisio ar wahân ar waith ar gyfer derbyniadau i ysgolion a chludiant ysgol. Gall rhieni / gwarcheidwaid fynegi ffafriaeth ar gyfer lle mewn ysgol, a rhaid i’r awdurdod derbyn ddiwallu hynny oni bai y byddai gwneud hynny yn peryglu darparu addysg effeithlon neu ddefnydd effeithlon o adnoddau. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad yw cael lle mewn ysgol fel rhan o broses derbyniadau i ysgolion yn rhoi hawl awtomatig i gael cludiant rhad ac am ddim rhwng y cartref a’r ysgol, a rhaid i rieni wirio a oes hawl gan eu plentyn i gael cludiant cyn mynegi pa ysgol y maent yn ei ffafrio. Gellir gwirio cymhwysedd am gludiant ysgol trwy ddefnyddio’r adnodd chwilio Cymhwysedd Cludiant Ysgol ar wefan y Cyngor
Polisi cyffredinol ar ddarparu cludiant am ddim i’r ysgol
Cymhwysedd cludiant
Bydd disgyblion yn gymwys ar gyfer cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol os ydynt yn bodloni POB UN o’r meini prawf canlynol:
- Maen nhw’n byw yn Sir Benfro (h.y. caiff y Dreth Gyngor ar gyfer eu cyfeiriad cartref cofrestredig ei thalu i Gyngor Sir Penfro). Mae’r 'cyfeiriad cartref' fel y diffinnir yn y llyfryn blynyddol 'Derbyniadau i Ysgolion – Gwybodaeth i Rieni' a gyhoeddwyd gan y Cyngor, a 'rhiant' fel y diffinnir yn Adran 576 Deddf Addysg 1996.
- Maen nhw o oed ysgol gorfodol;
- Maen nhw’n mynd i’r ysgol yn y dalgylch sydd wedi’i neilltuo gan y Cyngor i wasanaethu cyfeiriad cartref y disgybl, neu’r ysgol addas agosaf;
- Mae plentyn o oed ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg gynradd yn byw dros ddwy filltir o’r ysgol addas agosaf, neu;
- Mae plentyn o oed ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg uwchradd yn byw dros dair milltir o’r ysgol addas agosaf
- gellir darparu cludiant hefyd ar gyfer disgyblion o oed ysgol gorfodol ar sail y canlynol:
- Diogelwch ar y Ffyrdd, os nad oes unrhyw lwybr cerdded ar gael i’r ysgol. Asesir y llwybr cerdded rhwng cyfeiriad y cartref a’r ysgol yn unol â chanllawiau’r Mesur ar Asesu risg llwybrau a gerddir i’r ysgol.
- Cyflwr meddygol. Bydd y Cyngor yn ystyried darparu cludiant yn y tymor byr ar gyfer disgyblion os oes angen cludiant ar blentyn am resymau meddygol.
- Dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol / Anableddau – os bodlonir rhai meini prawf. Nodir y rhain yn adran b) Diffiniadau
- Newid cyfeiriad yn ystod blwyddyn olaf cyrsiau TGAU neu Safon Uwch, er mwyn sicrhau parhad mewn addysg. Ni fydd darpariaeth o’r fath yn parhau i Flynyddoedd 12 ac 13 os yw disgyblion yn symud yn ystod Blwyddyn 11.
- Bwlio eithafol a pharhaus – os darperir tystiolaeth ategol yn rhoi manylion am y camau a gymerwyd i ddatrys y bwlio trwy weithdrefnau gwrthfwlio presennol yn yr ysgol, ynghyd ag adroddiad gan Swyddog Lles Addysg neu Wasanaeth Cynhwysiant yr Awdurdod Lleol neu ddatganiad gan yr ysgol i gadarnhau bod y bwlio wedi digwydd.
Diffiniadau
Preswylwyr Sir Benfro
telir y Dreth Gyngor ar gyfer y cyfeiriad cartref cofrestredig i Gyngor Sir Penfro. Mae’r 'cyfeiriad cartref' fel y diffinnir yn y llyfryn blynyddol 'Derbyniadau i Ysgolion – Gwybodaeth i Rieni' a gyhoeddwyd gan y Cyngor, a 'rhiant' fel y diffinnir yn Adran 576 Deddf Addysg 1996.
Oed ysgol gorfodol
bydd plentyn yn cyrraedd oed ysgol gorfodol yn y tymor ar ôl ei ben-blwydd yn 5 oed, a dyddiadau diwedd y tymor fydd 31 Awst, 31 Rhagfyr a 31 Mawrth. Ni fydd plentyn o oed ysgol gorfodol mwyach os yw wedi cyrraedd 16 oed ar ddyddiad rhagnodedig gadael yr ysgol, sef y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin, neu cyn y flwyddyn ysgol nesaf. Nid oes gan y Cyngor unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol i ddarparu cludiant ar gyfer disgyblion o dan oed ysgol statudol, ac nid yw’n gwneud hynny fel arfer.
Pellteroedd cerdded
Bydd y pellter byrraf sydd ar gael yn cael ei fesur o’r man y mae’r annedd breifat yn cwrdd â’r ffordd fawr at y pwynt lle mae mynedfa’r ysgol agosaf yn cwrdd â’r ffordd fawr gyhoeddus.
Dalgylch
ardal ddaearyddol y gall disgyblion sy’n byw ynddi gael blaenoriaeth i’w derbyn i ysgol. Mae dalgylch ysgol yn rhan o’r trefniadau derbyn. Mae dalgylch pob ysgol wedi’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor. Mae’n bwysig nodi bod cymhwysedd i gael cludiant ysgol yn cael ei bennu gan gyfeiriad cartref y disgybl ac nid pa ysgol gynradd y mae wedi’i mynychu. Nid yw ysgolion bwydo cynradd yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd cludiant wrth drosglwyddo o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd, a dylai rhieni bob amser wirio hyn cyn ymgeisio am le mewn ysgol.
Ysgol addas agosaf
Y diffiniad o 'ysgol addas' agosaf yw ble mae’r addysg neu’r hyfforddiant a ddarperir yn addas o ystyried oedran, gallu a doniau’r dysgwr, ac unrhyw anawsterau sydd ganddo/ganddi, efallai. Yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu pa ysgol addas yw’r ysgol ‘agosaf’ at y dysgwr. Yn Sir Benfro, cyhoeddir ‘ysgol addas agosaf’ plentyn fel rhan o’r adnodd chwilio Cymhwysedd Cludiant Ysgol ar wefan y Cyngor.
Ysgol Gynradd
ysgol sy’n darparu ar gyfer dysgwyr 3-11 oed, neu 4-11 oed. Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cwmpasu elfen gynradd ysgol pob oed, h.y. 3-16, neu 3-19.
Ysgol Uwchradd
ysgol sy’n darparu ar gyfer dysgwyr 11-16 oed, neu 11-19 oed. Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cwmpasu elfen uwchradd ysgol pob oed, h.y. 3-16, neu 3-19.
Llwybrau cerdded diogel
Bydd y Cyngor yn darparu cludiant os yw o’r farn na all disgybl gerdded ar hyd y llwybr agosaf sydd ar gael mewn diogelwch rhesymol pan fydd oedolyn gydag ef, os oes angen, ac os yw’r llwybr amgen dros y pellter cerdded statudol o’r ysgol. Wrth asesu diogelwch llwybr sydd ar gael, ystyrir y risg bosibl sy’n cael ei chreu gan draffig, y ffordd fawr ac amodau topograffig. Bydd pob achos yn cael ei ystyried ar sail ei rinweddau ei hun.
Cyflwr meddygol
- Gellir gwneud trefniadau cludiant os yw cyflwr meddygol dysgwyr naill ai’n eu hatal rhag defnyddio’r cludiant arferol neu os yw’r cyflwr yn eu hatal rhag cerdded y 'pellter statudol' diffiniedig. Rhaid i bob cais am gymorth am resymau meddygol gael ei gefnogi gan dystysgrif feddygol neu ddatganiad wedi’i lofnodi gan feddyg. Rhaid iddo ddatgan yn glir nad yw’r dysgwr yn gallu cerdded y 'pellter statudol' penodol i’r ysgol. Bydd pob datganiad yn destun cyfnod adolygu wedi’i bennu gan y cyflwr a’i gytuno gyda'r rhiant adeg y dyfarniad cychwynnol.
- Dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol / Anableddau – Bydd y Cyngor yn darparu cludiant ar gyfer disgyblion cymwys yn unol â’r meini prawf canlynol:
- Oherwydd ei anabledd, ni all y disgybl ddefnyddio’r cludiant ysgol arferol a ddarperir ar gyfer disgyblion o oed ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg gynradd neu addysg uwchradd, fel y diffinnir uchod, ac ni all ddefnyddio unrhyw ddull cludiant amgen fel car teulu neu gerbyd Motability.
- Mae’r disgybl yn byw o fewn dwy filltir i ysgol gynradd y dalgylch neu o fewn tair milltir i ysgol uwchradd y dalgylch, ond nid yw’n gallu cerdded ac nid yw’n gallu defnyddio unrhyw ddull cludiant amgen, fel car teulu neu gerbyd Motability.
- Mae Panel Cynhwysiant y Cyngor yn argymell y dylid rhoi disgybl mewn ysgol nad honno yw ysgol y dalgylch a bod y meini prawf uchod yn cael eu bodloni.
Rhaid i gyngor meddygol gan Ymgynghorydd Meddygol y disgybl gadarnhau’r gofynion uchod. Ni fydd cyngor unrhyw weithiwr proffesiynol meddygol arall yn cael ei dderbyn.
Caiff cludiant ei ddarparu i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau yn yr amgylchiadau canlynol:-
- os yw rhieni’n dewis ysgol nad yw yn eu dalgylch
- i fynd i arholiadau y tu allan i’r trefniadau cludiant arferol
- i fynd i Glybiau Brecwast a Chlybiau Ar Ôl yr Ysgol
- i fynd i wersi nofio ac eithrio os yw’r plentyn yn defnyddio cadair olwyn ac nid yw’n gallu cael mynediad at wersi nofio fel arall. Yn yr achos hwn, efallai bydd y Cyngor yn talu’r rhiant i gludo’r plentyn
Efallai bydd y Cyngor yn talu am hebryngwr ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol sy’n gymwys i gael cludiant o dan y meini prawf diffiniedig. Bydd hebryngwyr yn cael eu darparu ar ôl i swyddogion perthnasol ystyried anghenion unigol y disgybl neu’r grŵp o ddisgyblion dan sylw, a natur y cludiant sydd ar gael, a bydd hynny yn ôl disgresiwn yr Uned Cludiant Ysgolion.
Wrth asesu anghenion teithio dysgwyr, ystyrir y straen posibl a hyd y daith. Bydd pob achos yn cael ei ystyried ar sail ei rinweddau ei hun.
Mae rhieni’n ffafrio ysgol wahanol
Ni fydd y Cyngor yn darparu cludiant nac yn gwneud unrhyw gyfraniad tuag at gostau cludiant ar gyfer disgyblion sy’n cael eu derbyn o ganlyniad i rieni’n mynegi bod yn well ganddynt ysgol nad ystyrir mai honno yw’r ‘ysgol addas agosaf’. Yn yr amgylchiadau hyn, mae rhieni’n gyfrifol am wneud eu trefniadau cludiant eu hunain ac am dalu’r holl gostau cludiant. Rhaid i rieni ystyried hawl eu plentyn i gael cludiant CYN mynegi pa ysgol maen nhw’n ffafrio lle ynddi.
Brodyr / chwiorydd
Bydd pennu cymhwysedd ar gyfer cludiant ysgol yn cael ei gyfyngu i gais sy’n cael ei wneud ar gyfer plentyn unigol, nid ar sail y ffaith fod brawd neu chwaer yn mynychu ysgol benodol neu’i hawl i gael cludiant. Yr unig eithriad i hyn fydd trefniadau cludiant penodol wedi’u cyfyngu gan amser sy’n cael eu gwneud fel rhan o’r cynigion trefniadaeth ysgolion.
Teithio rhatach
Os nad yw disgyblion yn gymwys i gael cludiant am ddim i’r ysgol, gellid caniatáu iddynt gael lleoedd am bris rhatach ar gerbydau dan gontract, os bydd seddi gwag ar gael. Caiff cardiau teithio rhatach eu cyflwyno ar sail y ddealltwriaeth y bydd y disgyblion yn defnyddio un o’r arosfannau bysiau presennol ar lwybr bws presennol.
Mae lleoedd rhatach yn cael eu rhoi dros dro ac yn brin, a gellir eu tynnu’n ôl ar unrhyw adeg yn ôl disgresiwn yr Awdurdod, e.e. pan na fydd seddi ar gael mwyach gan fod eu hangen ar gyfer disgyblion newydd cymwys. Bydd o leiaf 2 wythnos o rybudd ysgrifenedig yn cael ei roi, gyda llythyr yn cael ei anfon i gyfeiriad cartref y disgybl, ac mae cyfrifoldeb am gludiant yn dychwelyd wedyn i’r rhieni. Rhaid i’r Awdurdod bennu nifer y disgyblion cymwys sydd angen cludiant er mwyn nodi p’un a oes lleoedd gwag ar gael ai peidio ar gerbydau dan gontract. Felly, yn aml, ni chaiff cardiau teithio rhatach eu rhoi am ychydig o wythnosau ar ddechrau’r flwyddyn ysgol. Ar hyn o bryd, ni chodir tâl am gardiau teithio rhatach ar fysiau ysgol, ond gallai hyn newid yn y dyfodol.
Mae cardiau teithio rhatach ar fysiau ysgol am un flwyddyn academaidd yn unig, a rhaid gwneud cais amdanynt bob blwyddyn. Y cynharaf y gellir cyflwyno cais yw 1 Mai a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am gardiau teithio rhatach ar fysiau yw 5pm ar y trydydd dydd Gwener ym mis Awst.
Os bydd y galw am deithio rhatach yn fwy na nifer y lleoedd gwag sydd ar gael ar gerbydau dan gontract, bydd y rheiny sy’n byw o fewn dalgylch yr ysgol ond o dan y pellter cerdded statudol yn cael blaenoriaeth, ac ystyrir achosion unigol eraill ar sail eu rhinweddau, gan roi blaenoriaeth i achosion a fyddai’n sicrhau parhad mewn dysgu (h.y. y rheiny sydd wedi bod yn yr ysgol yr hiraf a’r rheiny sy’n astudio ar gyfer cyrsiau TGAU a Safon Uwch). Bydd penderfyniadau terfynol ar ddyrannu lleoedd gwag yn cael eu gwneud gan yr aelod Cabinet perthnasol.
Cludiant ar gyfer dysgwyr 16 oed ac yn hŷn
Bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant yn ôl disgresiwn y tu hwnt i’r oed ysgol gorfodol lle mae dysgwr o Sir Benfro yn byw dros dair milltir o ysgol y dalgylch (os oes chweched dosbarth ar gael) neu’r coleg agosaf lle mae rhaglen astudio addas ar gael. Rhaid bod y dysgwr yn astudio amser llawn ac o dan 19 mlwydd oed ar 1 Medi yn ystod y flwyddyn academaidd y dilynir y cwrs.
Bydd cludiant yn cael ei ddarparu i ysgol uwchradd y dalgylch sy’n cael ei dynodi gan yr Awdurdod i wasanaethu cyfeiriad cartref y dysgwr, neu i’r coleg addas agosaf. Nid yw’n arfer gan yr Awdurdod i ddarparu cludiant ar sail dewisiadau pynciau unigol. Os nad oes chweched dosbarth ar gael yn ysgol dalgylch neu ysgol addas agosaf y disgybl, pennwyd mai Coleg Penfro yw’r lle astudio addas ar gyfer addysg bellach.
Cludiant i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
Yn amodol ar fodloni’r meini prawf cymhwysedd a nodir uchod, bydd y Cyngor yn darparu cludiant am ddim fel a ganlyn:
Darpariaeth gynradd
Bydd disgyblion yn cael cludiant am ddim os ydynt yn byw o fewn dalgylch dynodedig ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol â ffrwd ddeuol, ac yn bodloni’r meini prawf pellter a amlinellir uchod. Ni fydd gan ddisgyblion nad ydynt yn byw yn nalgylch ysgol cyfrwng Cymraeg hawl i gael cludiant ond efallai y byddant yn gallu cael teithio rhatach.
Darpariaeth uwchradd
Mae dwy ysgol sy’n darparu addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Benfro, sef Ysgol y Preseli ac Ysgol Caer Elen. Bydd cludiant am ddim yn cael ei bennu yn ôl cyfeiriad cartref disgybl a dalgylch yr ysgol berthnasol sy’n gwasanaethu’r cyfeiriad hwnnw. Mae gan y ddwy ysgol eu dalgylchoedd eu hunain.
Ysgolion Ffydd
Mae trefniadau dalgylchoedd arferol yn berthnasol. Fodd bynnag, bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i’r ysgol ffydd agosaf o fewn wyth milltir i gartref y disgybl lle mae’r disgybl yn byw y tu allan i’r pellter cerdded statudol a lle caiff disgyblion eu derbyn i’r ysgol ar sail ffydd, fel y dangosir gan lythyr ategol gan offeiriad / ficer lleol y disgybl.
Pasys bws
Bydd pàs bws yn cael ei roi i’r disgyblion hynny sydd â hawl i gael cludiant, ar yr amod eu bod yn llenwi ffurflen 'Cais am Bàs Bws Cludiant Ysgol'. I gael mwy o fanylion am sut i wneud cais, gweler adran 4) Gwneud Cais am Gludiant Ysgol. Rhaid i ddisgyblion uwchradd a myfyrwyr coleg gario eu pàs bws bob dydd, a rhaid i’w pàs fod ar gael i’w archwilio gan Swyddogion yr Awdurdod neu bersonél contractwyr. Gellir gwrthod gadael i ddisgyblion heb bàs bws deithio. Codir £5 am bàs bws newydd. Rhaid llenwi a chyflwyno’r ffurflen gais ar gyfer pàs bws ar-lein.
Yn achos disgyblion ysgol gynradd, cyhoeddir pàs bws iddynt, ond ni fydd gofyn iddyn nhw gario’r pàs hwn gyda nhw bob dydd. Dylai’r Rhiant/Gwarcheidwad ei ddangos ar y diwrnod teithio cyntaf fel bod y gyrrwr yn gwybod bod pàs gan y plentyn a bod hawl iddo deithio ar y bws.
Cludiant i Ysgolion mewn Ardaloedd Awdurdodau Lleol Cyfagos
Bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a diffiniad Sir Benfro o ysgol addas agosaf.
Natur y Ddarpariaeth Cludiant
Pan fydd y Cyngor yn gyfrifol am drefniadau cludiant, y Cyngor fydd yn penderfynu ar y math mwyaf priodol o gludiant a ddarperir neu p’un ai i roi lwfans i rieni, lle y bo hynny’n briodol ac yn addas.
Codau Ymddygiad
Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio Codau Teithio ar gyfer pob parti sy’n gysylltiedig â chludiant ysgol ac mae’r rhain yn rhoi cyngor ac arweiniad ar sut i gyflawni’r daith i’r ysgol ac oddi yno yn ddiogel.
Pwyntiau Codi / Gollwng
Oherwydd natur wledig y Sir, nid yw’n bosibl bob amser trefnu bod llwybrau cerbydau yn mynd heibio’n agos i gartref pob disgybl sy’n teithio. Felly, gall fod angen i rieni wneud eu trefniadau eu hunain i’w plant gyrraedd y man codi / gollwng agosaf a chyrraedd adref. Gwneir pob ymdrech i gadw’r pellter hwn mor fyr â phosibl. Rhieni sy’n gyfrifol am sicrhau bod disgyblion yn cael eu tywys i’r cerbyd ac ohono yn ddiogel.
Ymddygiad Disgyblion
Os na fydd safon ymddygiad disgyblion yn ystod y daith i’r ysgol ac adref yn dderbyniol ac os na fydd yn cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad, gellir tynnu’r trefniadau teithio cytunedig yn eu hôl a’r rhieni fydd yna’n gyfrifol am gludiant i’r ysgol ac adref. Bydd camerâu teledu cylch cyfyng yn cael eu defnyddio ar rai cerbydau i fonitro ymddygiad. Y gyrrwr fydd yn gyfrifol am oruchwylio disgyblion ar y cerbyd yn ystod y daith i’r ysgol ac adref. Bydd y gyrrwr yn rhoi gwybod i’r Awdurdod am unrhyw ymddygiad gwael a gellir tynnu’r trefniadau teithio yn ôl. Ni chaniateir ysmygu na fepio ar gerbydau sydd dan gontract i’r Awdurdod.
Cyfrifoldeb Rhieni yn gysylltiedig â Chludiant Ysgol
Rhieni sy’n gyfrifol am:
- fynd â’u plentyn i’r ysgol ac adref, os nad ydynt yn gymwys i gael cludiant;
- sicrhau eu bod yn gwybod am yr hawl i gludiant ysgol cyn gwneud cais am le mewn ysgol;
- gwneud cais i’r Cyngor am gludiant ysgol o fewn y dyddiadau cau sydd wedi’u gosod;
- sicrhau bod eu plentyn yn barod ac yn aros am y cludiant, ar yr amser ac yn y lle priodol. Rhieni sy’n gyfrifol am ddiogelwch y plentyn cyn mynd ar y bws ac ar ôl dod oddi ar y bws. Cyfrifoldeb y rhieni yw gwneud trefniadau i’w plentyn gyrraedd y cludiant a ddarperir a bod rhywun yn mynd gyda’u plentyn i’r cerbyd, ac yn aros amdano, os bydd angen;
- sicrhau bod ymddygiad eu plentyn pan fydd yn defnyddio cludiant ysgol yn dderbyniol yn gymdeithasol ac yn cydymffurfio â’r Codau Teithio cymeradwy;
- mynd â’u plentyn i’r ysgol a’i gasglu oddi yno os caiff cludiant ei dynnu’n ôl o ganlyniad i ymddygiad gwael;
- rhoi gwybod i’r Awdurdod yn ysgrifenedig pan na fydd angen cludiant ysgol mwyach.
Difrod
Bydd yr Awdurdod neu’r Contractwyr yn ceisio ad-daliad gan rieni os bydd eu plant yn gyfrifol am ddifrod bwriadol.
Adolygiad o Lwybrau Cludiant Ysgol
Bydd yr Awdurdod yn adolygu llwybrau a’r ddarpariaeth cludiant yn rheolaidd er mwyn gwella effeithlonrwydd. Gallai newidiadau i lwybrau gael eu gwneud yn ystod blwyddyn academaidd. Bydd penderfyniad am faint y bws a ddefnyddir ar gyfer pob llwybr yn cael ei wneud ar sail y niferoedd sy’n gymwys i gael cludiant am ddim i’r ysgol, nid ar sail niferoedd sy’n cynnwys galw am deithio rhatach.
Tywydd garw
Yn achos tywydd garw, neu amgylchiadau annisgwyl eraill, gallai newidiadau dros dro gael eu gwneud i’r cludiant a ddarperir. Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd teithio ar lwybr yn bosibl o gwbl, neu dim ond rhan o lwybr y bydd modd teithio arni. Os na fydd hi’n bosibl teithio ar hyd llwybr i ysgol/coleg yn y bore, a hynny oherwydd tywydd garw, ond mae rhieni’n dewis mynd â’u plant/plentyn i’r ysgol eu hunain, bydd angen iddynt wneud trefniadau i gasglu eu plant/plentyn ar ddiwedd y diwrnod ysgol.
Gwneud Cais am Gludiant Ysgol
Rhaid gwneud cais am gludiant ysgol drwy 'Fy Nghyfrif' ar wefan y Cyngor, ond nid cyn y bydd rhieni’n derbyn cadarnhad o le mewn ysgol gan y Gwasanaeth Derbyniadau. I sicrhau darpariaeth cludiant ysgol effeithiol ac effeithlon, rhaid derbyn ceisiadau erbyn y dyddiadau cau canlynol:
Cynradd
- Erbyn 31 Mai
- Cyn gynted â phosibl ar ôl cadarnhau lle mewn ysgol
Uwchradd
- Erbyn 30 Ebrill
- Cyn gynted â phosibl ar ôl cadarnhau lle mewn ysgol
Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd y Cyngor yn cyhoeddi hysbysiad preifatrwydd a fydd yn esbonio pam mae’n casglu ac yn cadw gwybodaeth bersonol rhieni a disgyblion, sut bydd yn cael ei defnyddio a beth mae’r Cyngor yn ei wneud gyda’r wybodaeth a gasglwyd.
Apeliadau cludiant
Os bydd anghydfod ynghylch unrhyw benderfyniad i ganiatáu neu wrthod cais am gludiant neu i dynnu hawl i deithio rhatach yn ôl, dylid apelio yn ysgrifenedig i’r Uned Cludiant Integredig, gan ddefnyddio’r Ffurflen Apeliadau Cludiant Ysgol
Rhaid cyflwyno apêl o fewn 14 diwrnod fan bellaf o ddyddiad yr hysbysiad. O ganlyniad, dylai’r Cyngor sicrhau bod ymchwiliad priodol i’r rhesymau dros yr apêl a bod y penderfyniad yn cael ei gyfleu i rieni o fewn 30 niwrnod wedi i’r Cyngor gael y llythyr apelio.
Os na fydd rhiant yn fodlon â’r gweithdrefnau a ddefnyddiodd yr Uned Cludiant Integredig i ddelio â’i gais, gall ofyn i’r Cyfarwyddwr Addysg adolygu gweithredoedd yr Uned. Os daw’r Cyfarwyddwr i’r casgliad nad yw’r Uned Cludiant Integredig wedi dilyn ei weithdrefn, wedi gweithredu’n afresymol, neu wedi methu â chyflawni ei ddyletswydd statudol i ymdrin â’r cais yna gall y Cyfarwyddwr ofyn i’r Uned Cludiant Integredig ailystyried ei benderfyniad. Os bydd y rhiant yn amlygu bod gan y plentyn 'ADY' yna efallai y gofynnir i'r Panel Cynhwysiad ystyried apeliadau o'r fath. Os bydd rhiant yn darparu tystiolaeth ategol ychwanegol nad oedd ar gael ar adeg yr apêl, caiff hyn ei ystyried fel rhan o'r broses adolygu.
Manylion Cyswllt
Yr Uned Cludiant Integredig
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn: 01437 775222
E-bost: school.transport@pembrokeshire.gov.uk