Trafnidiaeth Ysgol

Proses Hawl i Gludiant i’r Ysgol

Cam 1: Cais Am Gludiant Gan Riant I Uned Trafnidiaeth Integredig

I fod yn gymwys ar gyfer cludiant am ddim, rhaid i'r plentyn:

  • Bod yn breswylydd yn Sir Benfro
  • Bod o oedran ysgol gorfodol (5-16 oed)
  • Bod yn mynychu ysgol ei ddalgylch (a ddynodwyd gan y cyngor sir i wasanaethu cyfeiriad cartref y disgybl) neu’r ysgol addas agosaf (fel y pennir gan y cyngor sir)
  • Byw o leiaf dwy filltir o'r ysgol os yw yn yr ysgol gynradd
  • Byw o leiaf tair milltir o'r ysgol os yw yn yr ysgol uwchradd
  • Methu â cherdded yn ddiogel i’r ysgol ar y llwybr agosaf sydd ar gael neu lwybr amgen (sydd dros y pellter cerdded statudol)

 

Hawl i gludiant

Lle mae trefniadau cludiant yn gyfrifoldeb y cyngor sir, ym mhob achos bydd y cyngor sir yn penderfynu ar y math mwyaf priodol o gludiant i'w ddarparu neu a ddylid darparu lwfans milltiredd. Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei deilyngdod ei hun.

Dim hawl i gludiant

Ni fydd y cyngor sir yn darparu cludiant nac yn gwneud unrhyw gyfraniad tuag at gostau cludiant ar gyfer disgyblion a dderbynnir o ganlyniad i fynegiant dewis rhieni ar gyfer ysgol pan nad yw’r ysgol agosaf nac yn ysgol ddalgylch. Yn yr amgylchiadau hyn, mae rhieni'n gyfrifol am wneud eu trefniadau cludiant eu hunain ac am yr holl gostau cludiant. Cynghorir rhieni i ystyried goblygiadau cludiant cyn mynegi dewis am le mewn ysgol.

 

Cam 2: Apêl Gan Riant I’r Uned Trafnidiaeth

Yn achos anghydfod sy’n ymwneud â gweithredu a dehongli’r polisi cludiant o’r cartref i’r ysgol, gellir gwneud apêl i’r Uned Trafnidiaeth Integredig. Dylid cyflwyno apeliadau o fewn 14 diwrnod yn dilyn dyddiad yr hysbysiad. Dylid ymchwilio i apeliadau a chyfleu'r penderfyniad i'r rhieni o fewn 30 niwrnod o dderbyn yr apêl.

A oes unrhyw amgylchiadau eithriadol?

Bydd amgylchiadau eithriadol yn cael eu hystyried fesul achos a gallent gynnwys y canlynol:

A oes gan y disgybl neu riant unrhyw anghenion meddygol, seicolegol neu ddysgu ychwanegol?

Er mwyn cael eu hystyried o dan y maen prawf hwn, rhaid i rieni ddarparu tystiolaeth ategol annibynnol ar adeg y cais sy’n nodi pam mae angen cludiant i’r ysgol ar gyfer y disgybl a’r anawsterau a fyddai’n cael eu hachosi pe na bai cludiant i’r ysgol yn cael ei ddarparu.

a) Rhaid i dystiolaeth ategol fod yn seiliedig ar wybodaeth y gweithiwr proffesiynol ei hun am gyflwr ac amgylchiadau’r disgybl a chaiff ei derbyn gan unrhyw un o’r gweithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig a ganlyn: meddyg ymgynghorol arbenigol, pediatregydd cymunedol, seicolegydd clinigol, seiciatrydd, therapydd galwedigaethol, gweithiwr cymdeithasol proffesiynol

b) Rhaid i anghenion dysgu ychwanegol gael eu cadarnhau gan wasanaeth cynhwysiant yr awdurdod lleol

c) Ar gyfer achosion o fwlio eithafol a pharhaus, tystiolaeth yn manylu ar y camau a gymerwyd i ddatrys y bwlio trwy weithdrefnau gwrth-fwlio presennol yr ysgol, ynghyd ag adroddiad gan swyddog lles addysg neu wasanaeth cynhwysiant yr awdurdod lleol neu ddatganiad wrth yr ysgol i gadarnhau'r bwlio.

A yw’r teulu wedi cael ei orfodi i adleoli ar fyr rybudd am resymau y tu hwnt i’w reolaeth?

Er mwyn cael ei ystyried o dan y maen prawf hwn, rhaid darparu tystiolaeth ategol gan o leiaf un o’r asiantaethau a ganlyn: gwasanaeth yr heddlu, cymdeithas tai, gwasanaethau cymdeithasol, swyddog lles addysg.

A yw’r disgybl yn 16 oed ac yn byw dros dair milltir o’r ysgol neu goleg agosaf lle mae rhaglen astudio addas ar gael?

Er mwyn cael eu hystyried o dan y maen prawf hwn, rhaid i rieni ddarparu tystiolaeth bod y dysgwr yn astudio’n llawn amser a’i fod o dan 19 oed ar 1 Medi yn y flwyddyn academaidd y dilynir y cwrs ynddi.

 

Hawl i gludiant

Adolygir hawl ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ar gyfer unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau.

Dim hawl i gludiant

 

Cam 3: Adolygiad O'r Penderfyniad

Os yw rhiant yn anfodlon ar y gweithdrefnau a ddefnyddiwyd gan yr Uned Trafnidiaeth Integredig i ymdrin â'u cais, gallant ofyn i'r Cyfarwyddwr Addysg adolygu gweithredoedd yr Uned Trafnidiaeth Integredig. Os daw’r cyfarwyddwr i’r casgliad nad yw’r Uned Trafnidiaeth Integredig wedi dilyn ei gweithdrefn, ei bod wedi gweithredu’n afresymol, neu ei bod wedi methu â chyflawni ei dyletswydd statudol i ymdrin â’r cais, yna gall y cyfarwyddwr ofyn i’r  Uned Trafnidiaeth Integredig ailystyried ei phenderfyniad. Os bydd y rhiant yn amlygu bod gan y plentyn  anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yna efallai y gofynnir i'r Panel Cynhwysiant ystyried apeliadau o'r fath. Os bydd rhiant yn darparu tystiolaeth ategol ychwanegol nad oedd ar gael ar adeg yr apêl, caiff hyn ei hystyried fel rhan o'r broses adolygu.

ID: 9377, adolygwyd 27/08/2024