Trawsnewid Cyfleoedd Dydd
Trawsnewid Cyfleoedd Dydd yn Sir Benfro
Mae'r gwaith a ddechreuwyd i wneud newidiadau i'r Cyfleoedd Dydd bellach wedi'i greu yn fideo byr gyda chwestiynau cyffredin i gyd-fynd â'r fideo byr.
Cwestiynau Cyffredin
Pam ydych chi'n gwneud hyn?
Ar hyn o bryd mae ystod o Gyfleoedd Dydd yn y Sir; Mae Canolfannau Dydd Cyngor Sir Penfro yn darparu Gwasanaethau Gofal Dydd i Oedolion ag Anableddau Dysgu a Phobl Hŷn. Mae hefyd ystod o sefydliadau annibynnol (darparwyr) sy'n darparu gwahanol fathau o Gyfleoedd Dydd. Fodd bynnag, rydym am sicrhau bod gan Sir Benfro rywbeth at ddant pawb.
O wrando ar yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud wrthym ac o siarad â phobl am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw, rydyn ni'n gwybod bod pethau y gallwn ni eu gwneud yn well ac yn wahanol gyda'n gilydd fel bod Cyfleoedd Dydd yn Sir Benfro yn ystyrlon i unigolion ac yn galluogi pobl i gyflawni eu dyheadau.
Beth yw'r cynllun ar gyfer y dyfodol?
Yn dilyn ymarfer peilot, byddwn yn cynnal adolygiad ymhen tri mis er mwyn darganfod beth oedd profiadau ein defnyddwyr gwasanaeth a'n rhanddeiliaid. Bydd canlyniadau'r adolygiad yn cael eu bwydo'n ôl i ni a byddwn yn llunio cynllun, gyda'r bwriad o gynnig y gwasanaeth diwygiedig i ardal ehangach o Sir Benfro.
Mae'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol yn aelod o'r grŵp prosiect a bydd y Cabinet yn derbyn diweddariadau ar gynnydd y cynllun. Bydd angen i unrhyw fodel o gyfleoedd dydd yn y dyfodol gael ei gymeradwyo gan y Cabinet.
Beth yw pwrpas y fideo ‘Ein taith gydgynhyrchu - cyfleoedd dydd yn Sir Benfro’?
Wedi'r tarfiad a fu yn sgil COVID-19, rydym bellach yn ailgychwyn ein gwasanaethau ac eisiau parhau â'n gwaith cydgynhyrchu. Mae'r fideo yn ffilm fer sy'n edrych ar yr hyn rydyn ni wedi'i wneud hyd yn hyn a sut y gallai pethau edrych yn y dyfodol. Rydym yn cyflwyno’r syniad o gael un pwynt canolog lle bydd gwybodaeth am yr holl wasanaethau a chyfleoedd ar gael mewn ‘swyddfa’ y gallai cwsmeriaid ei chyrchu unwaith y byddant wedi cael asesiad neu eisiau archwilio prynu gwasanaethau yn uniongyrchol. Y ‘siaradwyr’ fydd yr holl wasanaethau a chyfleoedd yn Sir Benfro.
Sut ydyn ni'n gwybod y gwrandewir ar farn cwsmeriaid / teuluoedd / gofalwyr?
Rydym yn gwahodd rhanddeiliaid, cwsmeriaid, teuluoedd a gofalwyr i rannu eu teimladau a'u syniadau.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae angen i ni brofi'r syniad hwn gyda grŵp bach o bobl a darganfod a yw'n gweithio yn gynnar yn 2023.
Gyda phwy y gallaf gysylltu os oes gennyf unrhyw gwestiynau?
Gallwch gysylltu â'r Tîm Gwybodaeth Cyfleoedd Dydd drwy:
E-bost: dayopportunitiesenquiries@pembrokeshire.gov.uk
Rhif Ffôn: 01437 764551