Trawsnewid Cyfleoedd Dydd
Diweddariad ar y Prosiect
Mae'r gwasanaeth wedi cael ei ailenwi yn Dîm Gwybodaeth Cyfleoedd Dydd. Bydd y gwasanaeth yn defnyddio'r platfform archebu a ddefnyddir yn ein gwasanaethau Hamdden ar hyn o bryd; bydd hyn yn caniatáu i'n Defnyddwyr Gwasanaethau wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch y cyfleoedd dydd y maent am eu mynychu cyn prynu. Bydd cyfle i sesiynau rhagflas cyn dechrau gweithgaredd gyda llawer o'n darparwyr. Bydd hyn yn rhoi amser i'n darparwyr ymgymryd â'u Hasesiadau Risg eu hunain cyn presenoldeb wythnosol i Ddefnyddwyr Gwasanaethau.
O 21 Awst 2023, mae'r gwasanaeth bellach ar agor i atgyfeiriadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth yn ne-orllewin Sir Benfro ac yn chwilio am ddarparwyr a all ddarparu gwasanaethau yn yr ardal hon.
Rydym bellach hefyd yn agored i geisiadau gan ddarparwyr yn ardal y de-ddwyrain, ac yn edrych ymlaen at ddechrau cofrestru darparwyr o’r ardal hon ar y fframwaith cyfleoedd dydd.