Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid
Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLS)
Beth yw'r Ddeddf Galluedd Meddyliol?
Pam ein bod ni angen Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid?
Mae colli rhyddid yn ymwneud â:
Pa bryd y bydd Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn cael eu defnyddio?
Beth sy'n digwydd os ydych chi'n colli eich rhyddid?
Beth fydd yn digwydd ar ôl adroddiad yr Aseswr Buddiannau Gorau?
Beth fydd yn digwydd os byddaf i'n derbyn Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid?
Beth yw'r Ddeddf Galluedd Meddyliol?
Mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn ddeddf yn ymwneud â gwneud penderfyniadau a beth i'w wneud pan na all pobl wneud rhai penderfyniadau drostynt eu hunain, gelwir hyn yn brin o allu. Mae'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn gymwys i bobl sy'n brin o allu yn unig.
Mae'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn rhan o'r Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae'r Ddeddf yn dweud wrth bobl eraill sut i ganfod a allwch chi wneud eich penderfyniadau eich hunain. Efallai y byddwch chi'n gallu gwneud rhai penderfyniadau, ond, yn methu gwneud penderfyniadau eraill.
Bydd angen i bobl ganfod
- pa benderfyniadau y gallwch chi eu gwneud eich hun
- pa benderfyniadau y gallai fod angen peth help arnoch chi
- pa benderfyniadau na allwch chi eu gwneud eich hun
Pam ein bod ni angen Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid?
Weithiau mae'n bosibl y byddwch chi angen triniaeth neu ofal gan bobl megis meddygon, nyrsys neu weithwyr gofal ac os ydych chi'n aros mewn ysbyty neu'n byw mewn cartref gofal, dylech chi gael eich trin neu dderbyn gofal mewn ffordd sy'n golygu eich bod chi'n ddiogel ac yn rhydd i wneud y pethau yr ydych chi eisiau eu gwneud, mae pobl sy'n brin o allu angen amddiffyniad ychwanegol. Os ydych chi wedi colli'ch rhyddid rydych chi angen amddiffyniad arbennig o'r enw trefniadau diogelu, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yw'r ffordd i roi'r amddiffyniad arbennig y mae ei angen arnoch chi.
Beth yw colli rhyddid?
Mae rhyddid yn golygu bod yn rhydd i wneud y pethau yr ydych chi eisiau eu gwneud, ar yr amser yr ydych chi eisiau eu gwneud. Nid oes rhestr o beth yw colli rhyddid, ond yn eu plith y mae:
- Staff mewn cartref gofal neu ysbyty â rheolaeth dros holl benderfyniadau'ch bywyd.
- Ddim yn cael gadael yr ysbyty ble'r ydych chi'n aros neu'r cartref gofal ble'r ydych chi'n byw.
- Eich teulu, gofalwyr neu ffrindiau ddim yn cael dod i'ch gweld chi.
Mae colli rhyddid yn ymwneud â:
- Y ffordd y mae pobl eraill yn gofalu amdanoch chi ac yn eich trin chi
- Y ffordd yr ydych chi'n teimlo am y ffordd y mae pobl yn gofalu amdanoch chi ac yn eich trin chi
- Y ffordd y gall pobl sy'n gofalu amdanoch chi ac sydd yn eich trin chi eich atal chi rhag gwneud yr holl bethau yr ydych chi'n eu mwynhau.
Os ydych chi'n cael eich stopio'n barhaus rhag gwneud y pethau yr ydych chi eisiau eu gwneud yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal, fe elwir hyn yn colli eich rhyddid, os ydych chi'n cael eich trin fel hyn, rhaid i chi yn ôl y gyfraith gael cytundeb arbennig o'r enw Awdurdodiad Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid i'ch cadw chi'n ddiogel.
Pa bryd y bydd Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn cael eu defnyddio?
Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yw'r ffordd i roi amddiffyniad i chi pan fyddwch chi'n derbyn gofal neu'n cael eich trin mewn ffyrdd sydd yn eich amddifadu chi o'ch rhyddid.
Mae Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid ar gyfer:
- Pobl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr,
- Pobl sy'n 18 oed neu'n hŷn.
- Pobl sydd ag anhwylder meddyliol megis dementia neu anabledd dysgu.
- Pobl sy'n byw mewn cartref gofal neu sy'n aros yn yr ysbyty, nad ydynt â'r gallu i gytuno i fod yno. (Mae angen i'r bobl fod yno i dderbyn y driniaeth neu'r gofal a fydd yn eu hamddiffyn rhag niwed er eu budd hwy.)
Beth sy'n digwydd os ydych chi'n colli eich rhyddid?
- Mae llyfr o reolau o'r enw Cod Ymarfer sy'n esbonio ac yn dweud wrth bobl sy'n gysylltiedig beth i'w wneud.
- Mae'r Cod Ymarfer yn dweud bod y bobl sy'n gofalu amdanoch chi neu yn eich trin chi, yn cael eu galw yn awdurdod rheoli.
- Os yw'r awdurdod rheoli o'r farn eu bod nhw angen eich amddifadu chi o'ch rhyddid, rhaid iddynt sicrhau nad ydynt yn torri'r gyfraith.
- Rhaid i'r awdurdod rheoli ysgrifennu at y corff goruchwylio (sef eich cyngor lleol neu ymddiriedolaeth iechyd) i ddweud wrthynt beth sydd ei angen arnoch chi, yn eu barn hwy.
Mae'r Cod Ymarfer yn dweud bod yn rhaid i'r corff goruchwylio benderfynu os ydych chi angen Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, byddant yn gwneud hyn trwy drefnu i o leiaf dau o bobl wirio sut ydych chi'n cael eich trin neu'n derbyn gofal, ac enw'r bobl hyn yw aseswyr.
Mae un aseswr yn cael ei alw yn Aseswr Buddiannau Gorau, bydd yr aseswr yn unigolyn nad yw'n gweithio gyda chi, bydd yn ysgrifennu adroddiad i ddweud wrth y corff goruchwylio a ydych chi angen Awdurdodiad Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid ac am ba mor hir, dylai'r awdurdodiad fod am y cyfnod byrraf posibl a byth yn hwy na blwyddyn.
Beth fydd yn digwydd ar ôl adroddiad yr Aseswr Buddiannau Gorau?
Fe allai adroddiad yr Aseswr Buddiannau Gorau ddweud eich bod wedi colli eich rhyddid a bod hynny er eich lles chi, bydd y corff goruchwylio yn ysgrifennu at yr awdurdod rheoli i ddweud wrthynt a gofyn iddynt esbonio hyn wrthych chi. Byddwch chi'n derbyn Awdurdodiad Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid i sicrhau eich bod chi'n ddiogel, neu efallai y bydd yr adroddiad yn dweud eich bod chi wedi colli'ch rhyddid ond bod angen peth newidiadau, er enghraifft; newidiadau i'r ffordd yr ydych chi'n derbyn gofal.
Beth fydd yn digwydd os byddaf i'n derbyn Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid?
Rhaid i bawb sydd ag Awdurdodiad Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid gael cynrychiolydd. Bydd y corff goruchwylio yn sicrhau eich bod chi'n derbyn cynrychiolydd, bydd y cynrychiolydd yn unigolyn nad yw'n gweithio gyda chi; bydd yn ymweld â chi ac yn gwneud yn siŵr eich bod chi'n derbyn gofal mewn ffordd sy'n golygu'ch bod chi'n ddiogel; gallai eich cynrychiolydd fod yn aelod o'ch teulu neu'n ffrind. Os ydych chi neu unrhyw un yn anhapus eich bod chi wedi colli'ch rhyddid, gallant ofyn am adolygiad a bydd adolygiad hefyd os bydd eich sefyllfa yn newid. Os ydych chi neu eich cynrychiolydd yn anghytuno ynglŷn â cholli'ch rhyddid, gallwch ofyn i lys arbennig o'r enw'r Llys Gwarchod benderfynu a ddylech chi golli'ch rhyddid ai peidio.
Os ydych chi (neu'ch cynrychiolydd) yn darllen y daflen hon oherwydd eich bod chi wedi colli'ch rhyddid, gallwch gysylltu â'r Llys Gwarchod yn; customerservices@publicguardian.gsi.gov.uk