Trethi Busnes
Trethi busnes
Gelwir ardrethi busnes yn ardrethi annomestig cenedlaethol hefyd.
A oes gennych ymholiad am eich gwerth ardrethol?
Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi wirio gwybodaeth eich eiddo a chyflwyno diweddariadau i'ch manylion ar-lein. Dysgwch fwy a chofrestrwch nawr yma: Cyfrif prisio ardrethi busnes: mewngofnodi neu gofrestru (GOV.UK) (yn agor mewn tab newydd) Dylid cyfeirio ymholiadau am ddisgrifiad neu werth ardrethol eich eiddo at Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae manylion cyswllt i'w cael ar y ddolen ganlynol: Gwefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (yn agor mewn tab newydd)
Pwy sy'n gorfod talu ardrethi busnes?
- Pan fydd eiddo wedi'i feddiannu, fel arfer mae'r ardrethi busnes yn daladwy gan yr unigolyn, y bartneriaeth neu'r cwmni sy'n ei feddiannu.
- Pan fo'r eiddo'n wag, mae’r ardrethi'n daladwy gan yr unigolyn sydd â’r hawl i'w feddiannu.
Os oes gan y meddiannydd a'r landlord drefniant lle mae'r landlord yn cael rhent sy’n cynnwys yr ardrethi busnes, fel arfer mae'r meddiannydd yn dal i fod yn gyfrifol am dalu’r ardrethi busnes. Os mai chi yw'r meddiannydd ac yn trosglwyddo'r bil ardrethi i'r landlord i'w dalu, rydych chi'n parhau i fod yn atebol am y taliad os nad yw'r landlord yn gwneud y taliad ar eich rhan.
Hyd yn oed pan fo safle busnes yn wag neu heb ei feddiannu, mae'n rhaid talu ardrethi busnes, a elwir yn aml yn ardrethi eiddo gwag.
Sut mae ardrethi busnes yn cael eu cyfrifo
Mae'r llywodraeth wedi gosod y fformiwla ar gyfer cyfrifo'ch bil.
Ardreth fusnes = gwerth ardrethol yr eiddo x lluosydd ar gyfer y flwyddyn ariannol
Y gwerth ardrethol – asesiad o werth rhent blynyddol eiddo ar ddyddiad penodol (1 Ebrill 2021 ar hyn o bryd). Gwneir yr asesiad hwn gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, nid y cyngor lleol.
Mae'r lluosydd yn cael ei osod gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn fel a ganlyn:
- 2025/26 – 56.8c
- 2024/25 – 56.2c
- 2023/24 – 53.5c
- 2022/23 – 53.5c
- 2021/22 – 53.5c
- 2020/21 – 53.5c
- 2019/20 – 52.6c
Enghraifft o gyfrifiad
Bydd gan safle busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 fil ardrethi o £8,520 ar gyfer y flwyddyn ariannol lawn, sef 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026:
- £15,000 x £0.568 = £8,520
Mae nifer o gynlluniau rhyddhad ar gael a all leihau faint o ardrethi busnes y mae'n rhaid i chi eu talu.
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, mae tri lluosydd yng Nghymru. Dyma'r lluosyddion a gyhoeddwyd ar gyfer 2026/27:
- lluosydd manwerthu o 0.350, sy'n berthnasol i siopau manwerthu bach i ganolig eu maint gyda gwerth ardrethol islaw £51,000
- lluosydd safonol o 0.502, sy'n berthnasol i'r rhan fwyaf o eiddo eraill
- lluosydd uwch o 0.515, sy'n berthnasol i eiddo â gwerth ardrethol uwchlaw £100,000
Lluosydd manwerthu
Bwriad lluosydd manwerthu is ar gyfer siopau bach a chanolig yw helpu i ailgydbwyso'r system ardrethi annomestig o'u plaid. Mae hyn yn cydnabod yr heriau unigryw sy'n wynebu siopau manwerthu ‘brics a morter’, yn enwedig oherwydd eu bod yn agored i gystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein.
Mae'r lluosydd manwerthu yn berthnasol i eiddo â gwerthoedd ardrethol islaw £51,000 ac un o'r disgrifiadau canlynol mewn rhestr ardrethi leol:
- ciosg a mangre
- fferyllfa a mangre
- swyddfa bost a mangre
- siop a mangre
- siop, swyddfa bost a mangre
Dewiswyd y disgrifiadau hyn oherwydd eu bod yn cael eu cymhwyso i fathau targed o eiddo a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer gwerthu nwyddau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld. Nid yw'r lluosydd manwerthu yn berthnasol i siopau mawr, siopau adrannol, goruwchfarchnadoedd ac archfarchnadoedd. Nid yw'n berthnasol ychwaith i eiddo a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer gwerthu gwasanaethau (e.e. banciau, siopau betio a salonau) neu fwyd a diod i'w fwyta ar y safle (e.e. caffis, tafarndai a bwytai).
Lluosydd safonol
Mae'r lluosydd safonol yn berthnasol i bob eiddo nad yw'n ddarostyngedig i'r lluosydd manwerthu na'r lluosydd uwch:
- eiddo â gwerth ardrethol islaw £51,000 nad ydynt yn ddarostyngedig i'r lluosydd manwerthu
- pob eiddo â gwerth ardrethol rhwng £51,000 a £100,000
- eiddo â gwerth ardrethol uwchlaw £100,000 nad ydynt yn ddarostyngedig i'r lluosydd uwch
Lluosydd uwch
Mae'r lluosydd uwch yn berthnasol i eiddo a ddangosir mewn rhestr ardrethi leol neu ganolog sydd â gwerth ardrethol uwchlaw £100,000. Mae rhai eithriadau ar gyfer mathau penodol o eiddo sy'n cael eu meddiannu gan gyrff y sector cyhoeddus neu sefydliadau eraill sy'n cael eu cynnal i raddau helaeth gan fodelau ariannu cyhoeddus.
Mae eiddo gyda'r disgrifiad canlynol mewn rhestr ardrethi leol yn ddarostyngedig i'r lluosydd safonol, yn hytrach na'r lluosydd uwch, hyd yn oed os oes ganddynt werth ardrethol uwchlaw £100,000:
- gorsaf ambiwlans a mangre
- sefydliad amddiffyn cynorthwyol a mangre
- mynwent a mangre
- coleg a mangre
- amlosgfa a mangre
- gorsaf dân a mangre
- canolfan iechyd a mangre
- ysbyty a mangre
- llys barn a mangre
- canolfan hamdden a mangre
- llyfrgell a mangre
- amgueddfa a mangre
- gorsaf heddlu a mangre
- carchar a mangre
- ysgol a mangre
- canolfan chwaraeon a mangre
- meddygfa a mangre
- pwll nofio a mangre
- prifysgol a mangre
Gan fod lluosyddion yn cael eu cymhwyso yn seiliedig ar ddisgrifiad o eiddo, nid yw'n bosibl eithrio mathau mwy generig o eiddo, fel swyddfeydd, lle cânt eu meddiannu gan wasanaethau cyhoeddus.
Mae rhagor o wybodaeth am y lluosyddion newydd hyn ar gael ar: Ardrethi Annomestig – Lluosyddion | Busnes Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Beth os ydych chi'n credu bod y lluosydd anghywir wedi'i gymhwyso i'ch eiddo
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gyfrifol am bennu'r gwerth ardrethol a disgrifiad o eiddo, a ddefnyddir i aseinio'r lluosydd cywir. Gellir dod o hyd i fanylion am ddisgrifiad a gwerth ardrethol eiddo drwy dudalen we Dod o hyd i brisiad ardrethi busnes (yn agor mewn tab newydd) Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Dylid cyfeirio ymholiadau am ddisgrifiad neu werth ardrethol eich eiddo at Asiantaeth y Swyddfa Brisio (yn agor mewn tab newydd)
Newidiadau y mae'n rhaid i chi eu hadrodd ynglŷn â'ch ardrethi annomestig
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfraith newydd i sicrhau eich bod yn hysbysu'r awdurdod lleol pan fydd rhai amgylchiadau'n newid fel bod eich bil yn gywir ac yn cynnwys unrhyw ryddhadau y mae gennych hawl iddynt.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Rhaid i chi hysbysu eich awdurdod lleol o fewn 60 diwrnod i unrhyw un o'r newidiadau hyn:
- daethoch chi'n dalwr ardrethi'r eiddo
- mae'r eiddo wedi cael ei feddiannu pan oedd heb ei feddiannu (yn wag) o'r blaen
- mae meddiant o'r eiddo wedi dod i ben (mae bellach yn wag)
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw anfon e-bost at revenue.services@pembrokeshire.gov.uk.
Gall methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwn arwain at ddirwy o £500. Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug arwain at euogfarn droseddol a dirwy o £1,000.
Cyn gynted ag y bydd eiddo’n wag, rhowch wybod i’n tîm Ardrethi Busnes ar 01437 764551 a dilynwch y cyfarwyddiadau llais:
1 ar gyfer Cymraeg neu 2 ar gyfer Saesneg
3 ar gyfer Refeniw
3 ar gyfer Ardrethi Annomestig Cenedlaethol
neu anfonwch neges e-bost i revenue.services@pembrokeshire.gov.uk
Dywedwch wrthym hefyd am unrhyw newid ym meddiannaeth neu ddefnydd yr adeilad, gan gynnwys unrhyw newidiadau adeileddol.
Rhyddhad ardrethi ar eiddo gwag neu rannol wag
Gall eiddo sy'n wag neu'n rhannol wag fod yn gymwys i esemptiad.
Pan fydd mangre’n dod yn wag, gall fod yn gymwys i gael esemptiad fel a ganlyn:
- 3 mis ar gyfer mangre nad yw’n ddiwydiannol
- 6 mis ar gyfer mangre ddiwydiannol
Ar ôl hyn, bydd y rhan fwyaf o eiddo gwag yn denu tâl o 100%.
Ni fydd newid perchnogaeth yn golygu y bydd cyfnod newydd o dri neu chwe mis heb ardrethi yn dechrau.
Meddiannaeth am gyfnod byr – nid yw mangre sydd wedi bod yn wag ac wedi'i meddiannu am gyfnod o lai na 26 wythnos, ac yna'n dod yn wag eto, yn denu esemptiad arall am dri neu chwe mis. Codir yr ardrethi llawn am y cyfnod y bu’r fangre’n cael ei meddiannu.
Eiddo gwag wedi'u hesemptio rhag talu ardrethi busnes
- Mangreoedd gwag gyda gwerthoedd ardrethol o lai na £2,600
- Eiddo gwag lle mae gan y perchennog hawl i feddiant yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd personol unigolyn ymadawedig yn unig
- Eiddo gwag lle mae meddiannaeth wedi'i gwahardd gan y gyfraith (ac eithrio unrhyw gyfnodau anghyfreithlon o feddiannaeth)
- Eiddo a adawyd yn wag gan fethdalwyr
- Adeiladau rhestredig gwag
Mae canllawiau ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Eiddo Gwag (yn agor mewn yab newydd)
Ardrethi is ar gyfer eiddo sydd wedi’u meddiannu'n rhannol
Gall eiddo sydd wedi’u meddiannu'n rhannol wneud cais trwom ni i'r swyddfa brisio i gael y gwerth ardrethol wedi'i ddosrannu i adlewyrchu'r ardaloedd sydd wedi'u meddiannu a'r ardaloedd gwag.
Ni fyddai'r gwerthoedd newydd yn cael eu dangos yn y rhestr ardrethi ond byddai gennym y disgresiwn i ddefnyddio'r wybodaeth hon i godi ardrethi ar y lefel is. Byddai'r bil ardrethi diwygiedig yn adlewyrchu'r tâl llawn am yr ardal sydd wedi'i meddiannu a naill ai tâl o 100% neu ddim tâl o gwbl am yr ardal wag. Ffoniwch 01437 764551 a dilynwch y cyfarwyddiadau llais:
1 ar gyfer Cymraeg neu 2 ar gyfer Saesneg
3 ar gyfer Refeniw
3 ar gyfer Ardrethi Annomestig Cenedlaethol
neu anfonwch e-bost at revenue.services@pembrokeshire.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Eiddo hunanarlwyo
O 1 Ebrill 2023 yng Nghymru, caiff eiddo hunanarlwyo ei ddosbarthu fel eiddo annomestig ac mae'n rhaid talu ardrethi busnes arno os yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn fodlon ar y canlynol:
- bydd ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanarlwyo am gyfnodau byr sy'n dod i gyfanswm o 252 diwrnod neu fwy yn y cyfnod canlynol o 12 mis
- mae buddiant y talwr ardrethi yn yr eiddo yn ei alluogi i'w osod am gyfnodau o'r fath
- yn y 12 mis cyn yr asesiad, mae wedi bod ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanarlwyo am gyfnodau byr sy'n dod i gyfanswm o 252 diwrnod neu fwy
- roedd y cyfnodau byr y mae wedi cael ei osod yn fasnachol mewn gwirionedd ar eu cyfer yn cyfateb i o leiaf 182 diwrnod yn ystod y cyfnod hwnnw
Mae canllawiau ar ardrethi busnes ar gyfer eiddo hunanarlwyo yng Nghymru (yn agor mewn tab newydd)
Rhyddhad ardrethi busnes sydd ar gael:
Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025/26
Dylid gwneud pob cais am ryddhad erbyn 31 Mawrth 2026 gan: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025/26
Bydd busnesau’n gymwys i gael gostyngiad o 40% ar eu rhwymedigaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol. Bydd swm y rhyddhad o dan gynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru yn cael ei gapio ar £110,000 fesul busnes ledled Cymru.
Mae'r cynllun hwn i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth 2026 ac ni fydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn gymwys i gael y rhyddhad hwn.
Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod 2026/27
Eiddo a fydd yn elwa o'r rhyddhad hwn fydd eiddo lletygarwch bwyd a diod sy'n cael eu meddiannu, fel tafarndai, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw ledled Cymru. Nodir isod feini prawf cymhwystra mwy manwl ac eithriadau i'r rhyddhad.
Rhoddir rhyddhad i bob busnes cymwys fel gostyngiad i'r bil ardrethi yn seiliedig ar feddiannaeth rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2027. Bwriedir, at ddibenion y rhyddhad hwn, y bydd eiddo cymwys yn golygu'r canlynol (yn amodol ar y meini prawf eraill a ddarperir gan Lywodraeth Cymru).
Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio i werthu bwyd a/neu ddiod i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld
fel:
- Tafarndai
- Bwytai
- Caffis
- Bariau
- Lleoliadau cerddoriaeth fyw
Lleoliadau cerddoriaeth fyw yw eiddo a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer perfformio cerddoriaeth fyw at ddiben diddanu cynulleidfa. Dim ond ar gyfer gweithgareddau eraill sy'n ategol neu'n gysylltiedig â pherfformio cerddoriaeth fyw (e.e. gwerthu bwyd neu ddiod i aelodau'r gynulleidfa) y gellir defnyddio eiddo cymwys, neu nad ydynt yn effeithio ar y prif ddefnydd hwn (e.e. defnydd anaml o'r lleoliad fel gorsaf bleidleisio neu ar gyfer digwyddiadau cymunedol).
Mae llawer o leoliadau cerddoriaeth fyw wedi'u dosbarthu fel mathau eraill o eiddo sy'n gymwys ar gyfer y rhyddhad hwn (e.e. tafarndai, bwytai a bariau). Nid yw eiddo yn lleoliad cerddoriaeth fyw at ddiben y rhyddhad hwn os yw'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel clwb nos neu theatr.
Nid ystyrir bod y defnyddiau canlynol o hereditamentau ac amgylchiadau eraill yn gymwys ar gyfer y rhyddhad:
Hereditamentau sydd yn unol a’r canlynol:
- Yn destun y lluosydd manwerthu
- Wedi’u defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer darparu llety byw fel busnes (e.e. gwestai, tai llety, tai gwyliau, a pharciau a safleoedd carafannau)
- Wedi’u defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer gwerthu nwyddau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld (e.e. siopau, ystafelloedd arddangos, warysau manwerthu ac archfarchnadoedd)
- Wedi’u defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer gwerthu neu ddarparu gwasanaethau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld (e.e. gwasanaethau ariannol neu broffesiynol, salonau a golchdai)
- Wedi’u defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer cyfleusterau chwaraeon a hamdden i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld (e.e. canolfannau chwaraeon, atyniadau ymwelwyr, theatrau a sinemâu)
- Wedi’u defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer cynnull aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld ynghyd (e.e. tai clwb, neuaddau cyhoeddus a sefydliadau)
Hereditamentau nad ydynt yn rhesymol hygyrch i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld
Os nad yw hereditament fel arfer yn rhesymol hygyrch i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld, ni fydd yn gymwys i gael y rhyddhad, hyd yn oed os oes defnydd ategol o'r hereditament y gellid ei ystyried yn dod o fewn y disgrifiadau a restrir o ba eiddo fydd yn elwa o ryddhad.
Hereditamentau nad ydynt wedi'u meddiannu
Nid yw hereditamentau nad ydynt wedi'u meddiannu yn gymwys i gael y rhyddhad hwn.
Rhaid gwneud ceisiadau erbyn 31 Mawrth 2027 er mwyn i dalwyr ardrethi fod yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod yn 2026/27. Bydd ffurflen gais ar gael ar ein gwefan ar ôl 1 Ebrill 2026.
Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau bach cymwys.
- bydd y rhai sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael rhyddhad o 100%
- bydd y rhai sydd â gwerth ardrethol o rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad ar sail raddedig o 100% i sero
- yn amodol ar uchafswm o ddau eiddo fesul busnes ym mhob awdurdod lleol
Mae cymorth wedi'i deilwra ar gael i ddarparwyr gofal plant cofrestredig a swyddfeydd post.
Mae canllawiau ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (yn agor mewn tab newydd)
Rhyddhad Ardrethi Elusennol
Os yw eich eiddo wedi'i feddiannu gan elusen gofrestredig neu glwb chwaraeon amatur cymunedol, ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol, rydych chi'n gymwys yn awtomatig i gael rhyddhad ardrethi gorfodol o 80%.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad o hyd at 100% yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol os yw eich eiddo yn cael ei feddiannu gan gorff di-elw ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cymwys.
Mae canllawiau ar gyfer Rhyddhad Trethi Elusennol (yn agor mewn tab newydd)
Ar ôl i'r cyfnod esemptio ddod i ben, byddwch yn atebol am y bil ardrethi busnes llawn. Dylech hysbysu eich awdurdod lleol pan fydd eich eiddo yn dod yn wag a hefyd pan fydd yn cael ei ailfeddiannu.
Rhyddhad Ardrethi Gwelliannau
O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad gwelliannau i dalwyr ardrethi sy'n buddsoddi mewn gwelliannau i'w heiddo annomestig a fydd yn cefnogi eu busnes. Bydd y rhyddhad yn gohirio effaith cynnydd canlyniadol yn y gwerth ardrethol, a’u rhwymedigaeth ardrethi annomestig, am gyfnod o 12 mis. Bydd hyn yn sicrhau bod busnesau a thalwyr ardrethi eraill yn gallu dechrau gwireddu manteision y gwelliannau a wnânt, cyn i'w bil ardrethi annomestig gynyddu.
Mae canllawiau ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Gwelliannau (yn agor mewn tab newydd)
Rhyddhad Ardrethi Rhwydweithiau Gwresogi
O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad rhwydweithiau gwresogi. Bwriad y rhyddhad yw cefnogi’r datblygiad a thwf a ragwelir dros y degawd nesaf yn y sector hwn, drwy helpu i leihau'r rhwystrau ariannol i sefydlu rhwydweithiau. Bwriad hyn, yn ei dro, yw helpu i gefnogi'r newid i ffwrdd o ddefnyddio tanwyddau ffosil a datgarboneiddio gwresogi. Mae rhwydweithiau gwresogi yn cyflenwi ynni thermol o ffynhonnell ganolog i ddefnyddwyr, trwy rwydwaith o bibellau. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad llawn (100%) i hereditamentau annomestig a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel rhwydwaith gwresogi sy'n darparu ynni thermol a gynhyrchir o ffynonellau carbon isel. Eglurir yr amodau cymhwyso yn fanylach yn y canllawiau.
Mae canllawiau ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Rhwydweithiau Gwresogi (yn agor mewn tab newydd)
Rhyddhad Ardrethi Caledi a Disgresiynol
Gellir rhoi rhyddhad caledi a disgresiynol os credwn ei fod er budd y gymuned leol i wneud hynny.
Ailbrisio 2026
Bob tair blynedd mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn diweddaru gwerth ardrethol dros 2 miliwn o eiddo masnachol yng Nghymru a Lloegr.
Gwerthoedd ardrethol yw swm y rhent y gellid bod wedi'i osod am eiddo ar ddyddiad prisio penodol. Ar gyfer ailbrisio 2026, y dyddiad hwnnw yw 1 Ebrill 2024. Nid yw gwerth ardrethol o reidrwydd yr un peth â swm y rhent a dalwyd am eiddo na lefel yr ardrethi busnes y gallai fod yn atebol amdanynt.
Defnyddir gwerthoedd ardrethol gan awdurdodau lleol i gyfrifo biliau ardrethi busnes.
Bydd yr ailbrisiad diweddaraf yn dod i rym o 1 Ebrill 2026.
Rhyddhad Ardrethi Trosiannol
O 1 Ebrill 2026, yn dilyn yr ailbrisio, mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad trosiannol i bob talwr ardrethi y mae eu rhwymedigaeth yn cynyddu mwy na £300 o ganlyniad i’r ymarfer ailbrisio. Bydd unrhyw gynnydd yn y rhwymedigaeth ar gyfer ardrethi annomestig o ganlyniad i ailbrisio yn cael ei gyflwyno'n raddol dros ddwy flynedd.
Bydd talwr ardrethi yn talu 33% o’i rwymedigaethau ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2026/27) a 66% yn yr ail flwyddyn (2027/28), cyn cyrraedd ei rwymedigaeth lawn yn y drydedd flwyddyn (2028/29).
Sut i apelio yn erbyn eich gwerth ardrethol
Dylid gwneud apeliadau yn erbyn gwerthoedd ardrethol i Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Pan fyddwch chi'n cysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio, mae angen i chi ddweud wrthyn nhw'r rhesymau pam rydych chi'n credu bod eich gwerth ardrethol yn anghywir.
Byddant yn cymharu eich gwerth ardrethol ag eiddo tebyg yn yr ardal ac yn ystyried unrhyw resymau eraill rydych chi wedi'u crybwyll pan fyddant yn gwirio'r gwerth ardrethol ar eich cyfer.
Os nad ydych chi'n cytuno â chanlyniad y trafodaethau, gallwch chi apelio yn erbyn y gwerth ardrethol.
Mae rhagor o wybodaeth am apelio yn erbyn eich gwerth ardrethol: Sut i herio eich prisiad ardrethi busnes – GOV.UK (yn agor mewn tab newydd)
Mae rhagor o wybodaeth
Ardrethi Busnes yng Nghymru | Busnes Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Asiantaeth y Swyddfa Brisio (yn agor mewn tab newydd)
Gwybodaeth presept Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (yn agor mewn tab newydd)
Gwybodaeth esboniadol i’w darparu gyda hysbysiadau galw am dalu ardrethi
Gwybodaeth ariannol i’w darparu gyda hysbysiadau galw am dalu ardrethi
Cyllideb Cyngor Sir Benfro 2025-26 a Cynllun Ariannol Tymor Canolig