Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y rhyddhad sydd ar gael am flwyddyn arall a bydd yn darparu cymorth i fanwerthwyr yng Nghymru â gwerth ardrethadwy o £50,000 neu lai.
Busnesau a siopau manwerthu'r stryd fawr a feddiennir megis siopau, bwytai, caffis a sefydliadau yfed fydd yr eiddo a fydd yn elwa ar y rhyddhad hwn.
Bydd hyd at £2500 ar gael mewn cymorth tuag at filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo manwerthu a feddiennir gyda gwerth ardrethadwy o £50,000 neu lai ar 1 Ebrill 2019 yn ddarostyngedig i gyfyngiadau cymorth gwladwriaethol.
Mae'r cyngor yn amcangyfrif bydd y rhyddhad ar gael i fwy na 500 o fusnesau oherwydd, yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, nid yw cynllun 2019-20 yn gyfyngedig i adeiladau ar y stryd fawr ond bydd yn cynnwys pob eiddo yng Nghymru sy'n bodloni'r meini prawf manwerthu ehangach.
Caiff rhyddhad ei ystyried a'i roi i fusnesau fel taliad untro yn seiliedig ar feddiannaeth ar 31 Mawrth 2019 (ar yr amod bod yr un meddiannydd yn parhau i feddiannu'r eiddo ar 1 Ebrill 2019).
Trethdalwyr cymwys fydd y manwerthwyr sydd ag eiddo â gwerth ardrethadwy rhwng £6,001 a £50,000 ar 1 Ebrill 2019.
At ddibenion y cynllun hwn, bwriedir i eiddo manwerthu megis "siopau, bwytai, caffis a sefydliadau yfed" olygu'r canlynol (yn amodol ar y meini prawf eraill yn y canllawiau manwl).
Eiddo sy'n cael eu defnyddio i werthu nwyddau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â'r eiddo
Eiddo sy'n cael eu defnyddio i ddarparu'r gwasanaethau canlynol i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â'r eiddo
Eiddo sy'n cael eu defnyddio i werthu bwyd a / neu ddiod i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â'r eiddo
I fod yn gymwys ar gyfer y rhyddhad dylai'r eiddo (a restrir uchod) gael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel siop, bwyty, caffi neu sefydliad yfed.
NID ystyrir bod mathau penodol o eiddo i fod yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr a Manwerthu
Mae'r rhestr isod yn nodi'r mathau o ddefnyddiau nad yw Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yn ddefnyddiau manwerthu at ddiben y rhyddhad hwn ac na fyddai'n cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y rhyddhad.
Eiddo sy'n cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i ddarparu'r gwasanaethau canlynol i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â'r eiddo
Eiddo sydd â gwerth ardrethadwy o fwy na £50,000
Eiddo nad ydynt yn rhesymol hygyrch i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â'r eiddo
Eiddo heb eu meddiannu
Eiddo sy'n cael rhyddhad ardrethi elusennol gorfodol
Cyfanswm y rhyddhad a ariennir gan y Llywodraeth, sydd ar gael ar gyfer pob eiddo am 12 mis o dan y cynllun hwn, yw hyd at £2,500.
Ceir canllawiau pellach yn Nodiadau Canllaw Ardrethi Annomestig y Stryd Fawr ac Ardrethi Manwerthu yng Nghymru 2019-20
Os hoffech wneud cais am y rhyddhad cwblhewch y Ffurflen Cais