Trethi Busnes

Safleoedd treth Porthladd Rhydd Celtaidd - rhyddhad ardrethi annomestig

Diben y cynllun a’r cefndir

Ym mis Mai 2022, cytunodd Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU i sefydlu rhaglen porthladdoedd rhydd yng Nghymru, lle byddai busnesau’n elwa o ryddhad trethi mwy hael, gan gynnwys rhyddhad ardrethi busnes. Ar 23 Mawrth 2023, cyhoeddodd llywodraethau’r DU a Chymru fod Porthladd Rhydd Celtaidd wedi bod yn llwyddiannus yn y broses dendro i sefydlu porthladd rhydd.

Bydd rhyddhad ardrethi porthladdoedd rhydd llawn ar gael am gyfnod o bum mlynedd i fusnes cymwys sy’n gweithredu mewn safle treth porthladd rhydd yng Nghymru ar ôl i’r safle treth gael ei ddynodi. Bydd rhyddhad ardrethi porthladdoedd rhydd ar gael i bob busnes newydd, a rhai busnesau presennol lle maent yn ehangu, ar yr amod bod unrhyw gais am ryddhad yn cael ei wneud erbyn 31 Mawrth 2034.

 

Egwyddorion a dull cymhwysedd

Amcanion Porthladd Rhydd Celtaidd yw cefnogi mentrau cyhoeddus a phreifat sy’n gwneud y canlynol:

  • hwyluso darparu safleoedd treth a safleoedd tollau drwy ddarparu buddsoddiadau sy’n cefnogi pontio teg i sero net a/neu hyrwyddo adfywio a chreu swyddi ychwanegol o ansawdd uchel;
  • sefydlu Porthladd Rhydd Celtaidd fel canolfan genedlaethol ar gyfer masnach a buddsoddiad ar draws yr economi;
  • meithrin arloesedd;
  • cefnogi Porthladd Rhydd Celtaidd i gyflawni ei achos busnes amlinellol a llawn (fel y nodir yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth) drwy hwyluso sgiliau, sero net, masnach a buddsoddiad ac adfywio o fewn ardal economaidd Porthladd Rhydd Celtaidd.

 

I fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi porthladdoedd rhydd, rhaid i fusnesau sydd wedi’u lleoli o fewn y safle treth allu dangos sut maent yn cyflawni’r amcanion a nodir uchod a rhaid iddynt hefyd fod wedi cael cadarnhad gan gwmni Porthladd Rhydd Celtaidd bod eu cais yn cyd-fynd ag amcanion Porthladd Rhydd Celtaidd. Byddai hyn yn cael ei gadarnhau drwy gyfeirio at gytundeb cyflwyno safle treth unigol y tirfeddiannwr/datblygwr a’r strwythur ffioedd cysylltiedig.

 

Gofynion gweinyddu

Cyn cyflwyno cais a llenwi’r ffurflen, cynghorir datblygwyr i gasglu dogfennaeth ategol. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i’r canlynol:-

  • Cynlluniau sy’n dangos ehangu i ofod newydd neu ofod nas defnyddir
  • Tystiolaeth o welliannau (e.e. anfonebau contractwyr, llofnod Rheolaeth Adeiladu, tystysgrifau cwblhau).
  • Cytundeb cyflwyno safle treth a thystiolaeth o ffioedd a dalwyd
  • Cadarnhad gan gwmni Porthladd Rhydd Celtaidd fod y cais yn cyd-fynd ag amcanion Porthladd Rhydd Celtaidd
  • Disgrifiad o sut mae’r cais yn bodloni amcanion paragraff 3.1 o gynllun rhyddhad ardrethi busnes Porthladd Rhydd Celtaidd Cyngor Sir Penfro
  • Cytundeb prydles neu brawf o berchnogaeth
 
Gwnewch gais nawr

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y canlynol:

Porthladdoedd rhydd: rhyddhad ardrethi annomestig (yn agor mewn tab newydd)

 

Hysbysiad preifatrwydd

 

ID: 15646, adolygwyd 02/10/2026