Trosolwg a Chraffu
Trosolwg a Chraffu yn Sir Benfro
Cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol 2000 newidiadau mawr i'r ffordd y mae Cynghorau'n gwneud penderfyniadau. Galluogodd y Ddeddf i Gynghorau gyflwyno strwythurau gwleidyddol newydd, gan gynnwys un yn ymwneud â model Arweinydd a Chabinet (Y Weithrediaeth) a Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Mae'r Weithrediaeth yn gyfrifol am wneud penderfyniadau allweddol ynglŷn â gwasanaethau yn unol â'r polisïau a fabwysiadwyd gan y Cyngor.
Mae Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn monitro perfformiad, yn cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau ac yn archwilio materion sy'n effeithio ar y Sir a'i breswylwyr. Swyddogaeth arall sydd gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yw cydbwyso grymoedd y Weithrediaeth trwy ddal, os oes angen, y Weithrediaeth i gyfrif drwy archwilio a chwestiynu eu penderfyniadau.
Ym mis Mawrth 2016, cafwyd adolygiad gan y Pwyllgorau Llywodraethu Corfforaethol a Gwasanaethau Democrataidd ac argymhellion yn Asesiad Corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru o Gyngor Sir Penfro yn 2015. Yn dilyn hyn, pleidleisiodd y Cynghorwyr dros gyflwyno pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu newydd o Fedi 2016 i ddisodli'r Pwyllgorau ‘thematig' blaenorol.
Canllaw ar gyfer craffu yn Sir Benfro
Rôl Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu
Rôl Cadeiryddion, Is-Gadeiryddion ac aelodau Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu
Canllaw i Drosolwg a Chraffu ar gyfer Aelodau a Swyddogion
Beth yw Craffu?
O ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, cyflwynwyd newidiadau i strwythurau gwleidyddol o fewn Cynghorau a newidiodd eu prosesau gwneud penderfyniadau. Yn sgil y newidiadau hyn, llwyddwyd i gyflwyno model Arweinydd a Chabinet (y Weithrediaeth), yn ogystal ag o leiaf un Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Rôl Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu
O fewn y strwythur hwn, rôl Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yw dwyn y Weithrediaeth i gyfrif, trwy adolygu, ymchwilio a herio penderfyniadau, gan gyfrannu at ddatblygu polisïau a monitro perfformiad. Nod craffu yw:
- Gwella perfformiad y Cyngor
- Sicrhau bod gwasanaethau sy’n cael eu cyflwyno gan y Cyngor yn darparu gwerth am arian
- Sicrhau bod gwasanaethau’r Cyngor yn ymateb i dderbyn anghenion lleol Ymgysylltu â’r cyhoedd a chymunedau am benderfyniadau sy’n effeithio arnynt
Ni all Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wneud penderfyniadau; gallant wneud argymhellion i’r Weithrediaeth neu’r Cyngor yn unig. Ni allant ychwaith fod yn gysylltiedig â phryderon neu gwynion gan unigolion nad ydynt yn effeithio ar y gymuned ehangach.
Sut mae Craffu yn gweithio?
Mae gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu flaenraglen waith sy’n darparu manylion am yr hyn y bydd y Pwyllgor yn craffu arno dros gyfnod o 12 mis. Mae rhaglenni gwaith yn cynnwys eitemau a fydd yn cael eu hystyried, neu wedi cael eu hystyried, gan y Cabinet (cyn ac ar ôl craffu ar benderfyniad), monitro perfformiad adrannol neu eitemau o ddiddordeb neu sy’n peri pryder i aelodau’r Pwyllgor neu i’r cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Gall aelodau o’r cyhoedd gynnig awgrymiadau am eitemau i’w trafod gan Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu hefyd a darparu cyflwyniadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion sy’n cael eu hystyried gan Bwyllgor. Am y rheswm hwn, mae blaenraglenni gwaith wedi eu cynllunio i fod yn hyblyg a gallent newid i ddarparu ar gyfer materion a allai godi yn ystod y flwyddyn ac sydd o fewn cylch gwaith Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.
Rôl Cadeiryddion, Is-Gadeiryddion ac aelodau Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion
Dylai Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu weithio gyda’i gilydd i gefnogi gwaith eu Pwyllgor, trwy:
- flaenoriaethu gwaith y Pwyllgor
- sicrhau bod aelodau’r Pwyllgor yn cymryd rhan a’u bod yn cael cyfle i gyfrannu a chael dweud eu dweud
- gweithio’n agos gyda swyddogion i gytuno ar y busnes ar gyfer pob cyfarfod a gosod yr agendâu
Aelodau Pwyllgor
Mae’r rhestr ganlynol yn amlinellu’r hyn y dylai Aelod Craffu ei wneud a’r hyn na ddylai ei wneud i sicrhau bod y swyddogaeth graffu yn cael ei chyflawni’n llwyddiannus a sicrhau bod nodau craffu’n cael eu bodloni:
- sicrhau eu bod yn deall eu rôl yn llawn, fel eu bod yn gallu cyfrannu at gyfarfodydd a bod yn rhan o’r broses ‘ffrind beirniadol’
- peidio â defnyddio cyfarfodydd i fynd ar drywydd agendâu personol neu fynegi cwynion unigol
- paratoi ar gyfer cyfarfodydd trwy ddarllen papurau, gwneud nodiadau a ffurfio cwestiynau heriol
- peidio â chodi pynciau nad ydynt ar yr agenda
- holi cwestiynau cadarnhaol a heriol
- peidio â gwneud datganiadau yn hytrach na gofyn cwestiynau, neu geisio sgorio pwyntiau gwleidyddol
- cyfrannu at osod blaenraglenni gwaith a bod yn barod i gynorthwyo mewn unrhyw grwpiau Gorchwyl a Gorffen
- ceisio sicrhau eu bod yn mynychu pob cyfarfod.
Craffu yn Sir Benfro
Mae gan Sir Benfro bum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu:
- Corfforaethol
- Gwasanaethau
- Polisi a Chyn Penderfynu
- Gofal Cymdeithasol
- Ysgolion a Dysgu
Sut caiff Craffu ei fonitro?
Bob blwyddyn, mae Adroddiad Blynyddol yn cael ei lunio sy’n adolygu gwaith y Pwyllgorau dros y flwyddyn flaenorol. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar y gwaith y mae'r Pwyllgorau wedi ei gyflawni, y gwahaniaeth y mae gwaith pob Pwyllgor wedi ei wneud, y canlyniadau allweddol, yr hyfforddiant a'r datblygiad yr ymgymerodd aelodau'r Pwyllgor ag ef a heriau ar gyfer y Pwyllgorau yn y flwyddyn i ddod. Cyflwynir Adroddiadau Blynyddol Trosolwg a Chraffu i’r Cyngor a gellir eu gweld ar dudalennau Trosolwg a Chraffu gwefan y Cyngor.
Cymorth gan Swyddogion
Caiff Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu gefnogaeth Swyddogion Gwasanaethau Democrataidd sy’n darparu cyngor ac arweiniad i’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd ac aelodau o’r Pwyllgor ac i unrhyw weithgorau a sefydlwyd i gynnal ymchwiliadau manwl i feysydd penodol o’r rhaglen waith. Mae swyddogion hefyd yn cyd-drefnu’r gwaith o baratoi a chasglu adroddiadau i’w hystyried mewn cyfarfodydd Pwyllgor.
Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Mae craffu’n rhoi cyfleoedd i aelodau’r cyhoedd gymryd rhan yng ngwaith y Cyngor. Os byddwch yn teimlo’n gryf am bwnc neu mae gennych faes penodol o arbenigedd, gallwch wneud cais am gael siarad mewn cyfarfod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu. Mae protocol ar gael ar ein tudalen Craffu ar y we sy’n esbonio sut mae’r broses hon yn gweithio. Fel arall, gall aelodau’r cyhoedd gyflwyno safbwynt ysgrifenedig am fater sy’n cael ei ystyried gan Bwyllgor ac sydd eisoes ar raglen waith y Pwyllgor, neu gall awgrymu pwnc i Graffu arno. Mae ffurflenni ar gael ar dudalennau Craffu ar y we, ynghyd â rhaglenni gwaith pob Pwyllgor, sy’n rhestru’r meysydd y bydd y pwyllgor yn Craffu arnynt dros y misoedd i ddod.