Trosolwg a Chraffu

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2023-2024

Mae Craffu’n darparu cyfleoedd i aelodau’r cyhoedd ymwneud â gwaith y Cyngor

Ar y dudalen hon:

Adolygiad y Cadeiryddion

Trosolwg a Chraffu yn Sir Benfro

Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dys

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol

Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn Penderfynu

Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol

Hyfforddiant

Ymgysylltu â’r cyhoedd

Cymryd rhan

 



Adolygiad y Cadeiryddion

Croeso i Adroddiad Craffu Blynyddol Cyngor Sir Penfro sy’n amlygu gwaith ein pum pwyllgor trosolwg a chraffu yn ystod 2023-2024. Mae’r broses trosolwg a chraffu yn rhan hanfodol o strwythur democrataidd a fframwaith llywodraethu’r cyngor. Mae’n chwarae rhan allweddol wrth graffu ar ddarpariaeth a pherfformiad gwasanaethau’r cyngor a dwyn y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif drwy ddull sy’n seiliedig ar bwysau cadarnhaol a her adeiladol. 

Mae craffu ar sail thema bellach yn cael ei wau drwy raglenni gwaith y pwyllgorau trosolwg a chraffu i ategu’r gwaith o gyflawni amcanion y cyngor yn effeithiol fel y’u nodir yn y cynllun corfforaethol. Mae’r pwyllgorau’n cydnabod y pwysau parhaus ar wasanaethau ac maent yn awyddus i’w rheoli’n ofalus drwy gynllunio adolygiadau i gefnogi gweithgarwch gwasanaethau.

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod rhwng mis Ebrill 2023 a mis Ebrill 2024. Yn ystod y cyfnod hwn mae cyfarfodydd wedi’u cynnal fel cyfarfodydd hybrid gyda rhai yn cael eu cynnal yn gwbl rhithwir, sydd wedi galluogi lefelau parhaus o ymgysylltiad a phresenoldeb aelodau gan arbenigwyr.  

Fel cadeiryddion pwyllgorau trosolwg a chraffu rydym wedi cyfarfod yn anffurfiol â’n his-gadeiryddion, cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yr hyrwyddwr craffu a’r Gwasanaethau Democrataidd ar ôl pob cylch o gyfarfodydd i adlewyrchu a hunanwerthuso perfformiad pob pwyllgor, ac mae hyn wedi bod yn gymorth mawr i ni yn ein rôl fel cadeiryddion.

Mae cyfathrebiadau wedi’u targedu wedi parhau i gael eu cynnal i hysbysu’r cyhoedd am bynciau craffu i wella ymgysylltiad i gydnabod y manteision a ddaw yn sgil barn ehangach.  Er mai cyfyngedig fu’r cyflwyniadau cyhoeddus yn ystod cyfnod yr adroddiad, mae gwelliant ar y flwyddyn flaenorol, sy’n galonogol, ac rydym am barhau â’r gwelliant hwnnw wrth symud ymlaen.  Bu cynnydd sylweddol hefyd yn nifer gwylwyr y gweddarllediadau yn sgil rhannu’r dolenni i gyfarfodydd craffu ac rydym am adeiladu ar hynny i wneud craffu yn fwy gweladwy. 

Cyflwynwyd cofnodion gweithredu yn ystod y flwyddyn i sicrhau bod swyddogion yn cymryd camau ac yn gwneud unrhyw atgyfeiriadau y gofynnir amdanynt gan aelodau, ac yr adroddir yn ôl i’r cyfarfod dilynol ar yr wybodaeth ddiweddaraf er mwyn rhoi sicrwydd bod penderfyniadau’n cael eu gweithredu.

Hoffem ddiolch i aelodau etholedig a chyfetholedig am eu cyfraniadau a’u hymrwymiad wrth graffu ar berfformiad a pholisïau’r awdurdod. Hoffem hefyd achub ar y cyfle i ddiolch i’r Gwasanaethau Democrataidd, cyfarwyddwyr, swyddogion ac aelodau’r cabinet am eu mewnbwn a’u proffesiynoldeb wrth gefnogi gwaith pob un o’r pwyllgorau.

Fel cadeiryddion pwyllgorau trosolwg a chraffu rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb ar y cyd i gydweithio i gryfhau trefniadau llywodraethu’r cyngor drwy gyflawni gwaith craffu gwerth ychwanegol. Gobeithiwn barhau i ddangos ymrwymiad ar y cyd i ganolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i drigolion Sir Benfro.

 



Trosolwg a Chraffu yn Sir Benfro

Mae trosolwg a chraffu yn rhan allweddol o fframwaith llywodraethu a democrataidd Cyngor Sir Penfro.  Ei rôl yw helpu i lunio a datblygu polisi, nodi a herio tanberfformiad, cryfhau’r broses o wneud penderfyniadau a dwyn y weithrediaeth i gyfrif am y penderfyniadau y mae’n eu gwneud.Mae’n gyffredin meddwl am graffu fel ‘cyfaill beirniadol’, a thrwy her a chefnogaeth adeiladol mae’n ceisio rhoi sicrwydd i bobl am y camau gweithredu a’r penderfyniadau y mae’r cyngor yn eu cymryd a’u gwneud.  

Mae trosolwg a chraffu yn ofyniad deddfwriaethol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, a gyflwynodd newidiadau mawr i’r ffordd y mae cynghorau’n gwneud penderfyniadau.  Roedd y ddeddf yn galluogi cynghorau i gyflwyno strwythurau gwleidyddol newydd, gan gynnwys un yn ymwneud â model arweinydd a chabinet (y weithrediaeth) a phwyllgorau trosolwg a chraffu.  

Mae’r weithrediaeth yn gyfrifol am wneud penderfyniadau allweddol am wasanaethau yn unol â’r polisïau sy’n cael eu mabwysiadu gan y cyngor.  Mae pwyllgorau trosolwg a chraffu yn monitro perfformiad, yn cyfrannu at waith datblygu polisi ac yn adolygu ac yn ymchwilio i faterion sy’n effeithio ar y sir a’i thrigolion.  Swyddogaeth arall y pwyllgorau trosolwg a chraffu yw cydbwyso pwerau’r weithrediaeth, os oes angen, drwy ddwyn y weithrediaeth i gyfrif drwy archwilio a chwestiynu ei phenderfyniadau.  Yn syml, mae swyddogaeth craffu yn caniatáu i aelodau anweithredol ddylanwadu ar sut y gall y rhai sy’n gwneud penderfyniadau weithio’n fwy effeithiol dros y bobl y maent yn eu gwasanaethu.  

Mae pwyllgorau trosolwg a chraffu yn gyfrifol am ddatblygu eu rhaglenni gwaith eu hunain ac fe’u hanogir i fabwysiadu ymagwedd flaenoriaethol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn seiliedig ar risg ar gyfer y pynciau y mae’n penderfynu craffu arnynt.  Mae’n bwysig nodi na all pwyllgor trosolwg a chraffu wneud penderfyniadau; dim ond argymhellion y gall wneud.  Mater i’r weithrediaeth yw penderfynu a ddylid derbyn argymhellion a wneir gan bwyllgor ai peidio.

Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn rhoi trosolwg o waith pob un o’r pum pwyllgor dros y 12 mis diwethaf ac yn amlygu rhai o’r arferion da a’r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd, yn ogystal â nodi rhai o’r heriau sy’n wynebu’r pwyllgorau. 

 



Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dys

Rôl a chylch gwaith

Rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu yw adolygu a chraffu ar wasanaethau a ddarperir i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc, cymorth ieuenctid a gwasanaethau cymunedol eraill gan gynnwys Dysgu Oedolion, a chefnogi codi safonau a chanlyniadau addysgol i ddysgwyr.  

Mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor yn cynnwys y canlynol:

  • Canlyniadau addysgol ar gyfer pob oedran, yn enwedig yng Nghyfnod Allweddol 4
  • Categoreiddio ysgolion
  • Cymorth i ysgolion drwy Weithio’n Rhanbarthol
  • Ysgolion Unigol (drwy Banel Craffu Ysgolion)
  • Gwasanaethau Cynhwysiant
  • Cymorth ieuenctid a gwasanaethau cymunedol eraill
  • Dysgu, sgiliau a hyfforddiant Ôl-16 
  • Gwasanaeth Cerddoriaeth
  • Datblygu Chwaraeon
  • Llais a chyfranogiad plant
  • Trefniadau ariannol mewn perthynas ag ysgolion a dysgu
  • Diogelu mewn Addysg

 

Aelodaeth a Phresenoldeb

Mae gan y pwyllgor 13 o aelodau a 4 aelod cyfetholedig statudol. Ym mis Mawrth 2024, aelodau’r pwyllgor oedd y canlynol:

  • Y Cynghorydd Huw Murphy, Cadeirydd (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Sam Skyrme-Blackhall, Is-gadeirydd (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Maureen Bowen (Llafur)
  • Y Cynghorydd Alistair Cameron (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)
  • Y Cynghorydd David Howlett (Ceidwadwyr Cymreig)
  • Y Cynghorydd Rhys Jordan (Ceidwadwyr Cymreig)
  • Y Cynghorydd Mel Phillips (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Bethan Price (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Michael Stoddart (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Viv Stoddart (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Marc Tierney (Llafur)
  • Y Cynghorydd Anji Tinley (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Iwan Ward (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Michele Wiggins (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp) – Aelod wrth gefn
  • Y Cynghorydd Jacob Williams (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp) – Aelod wrth gefn

 

Cyfetholedigion:

  • Y Parchedig John Cecil (Cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru)
  • Mrs Alison Kavanagh (Cynrychiolydd Rhiant-lywodraethwyr)
  • Mr James Parkin (Cynrychiolydd Rhiant-lywodraethwyr)

Penodwyd Mr Parkin ym mis Mawrth 2024 i gymryd lle Mr Tom Moses, y daeth ei dymor yn y swydd i ben ym mis Awst 2023.  Mae swydd wag yr ail Gynrychiolydd Eglwys wedi bod yn un hirsefydlog.

Presenoldeb aelodau yng nghyfarfodydd y pwyllgor hwn oedd 96% (91% y flwyddyn flaenorol).

 

Gwaith y pwyllgor yn 2023 - 24

Mae’r pwyllgor wedi craffu ar ystod eang ac amrywiol o bynciau sy’n ymwneud ag ysgolion yn ystod 2023-2024. Yn ystod y cyfnod hwn, cynhaliodd y pwyllgor ei adolygiadau blynyddol mewn perthynas ag effeithiolrwydd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar gyfer darparu addysg ôl-16 yn Sir Benfro, yr archwiliad diogelu Adran 175, a’r cynllun gweithredu diogelu. 

Yn dilyn sesiwn cynllunio rhaglen waith, canolbwyntiodd y pwyllgor fwy ar wahanol agweddau a oedd yn effeithio ar ysgolion. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd y pynciau unigryw / untro y bu’r pwyllgor yn edrych arnynt yn cynnwys rhaglenni nofio ar gyfer ysgolion, presenoldeb mewn ysgolion, data lleoliadau ysgol a’r effeithiau a gafodd lleoedd gwag mewn ysgolion, trefniadau arlwyo, cwnsela mewn ysgolion, effaith absenoldebau staff ar ysgolion, llywodraethwyr ysgol, Partneriaeth, canlyniadau arolygiadau Estyn, ysgolion sy’n ystyriol o drawma, cwricwlwm ysgol, a’r grant datblygu disgyblion. Parhaodd y pwyllgor hefyd i fonitro cynnydd y gwaith o ailddatblygu Ysgol Maenorbŷr a lles ei disgyblion a’i staff.

Trwy gydol y flwyddyn, bu’r pwyllgor yn craffu ar y canlynol:

Ebrill 2023

  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am Ysgol Maenorbŷr
  • Data presenoldeb yn yr ysgol
  • Darpariaeth dysgu oedolion a’r gymuned a gwasanaeth ieuenctid
  • Craffu ar ddarparwyr addysg allanol
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am y cwricwlwm, yn cynnwys archwiliad o’r ddarpariaeth dysgu yn yr awyr agored
  • Adroddiad monitro gan y Panel Craffu ar Ysgolion – Ysgol y Preseli

Mehefin 2023

  • Memorandwm cyd-ddealltwriaeth – darparu addysg ôl-16 yn Sir Benfro
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf ar Partneriaeth
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynllun y gyfarwyddiaeth
  • Adroddiadau’r Panel Craffu ar Ysgolion – (Ysgol Greenhill ac Ysgol Wdig)

Medi 2023

  • Arolwg llywodraethwyr ysgol 2023
  • Rhaglen nofio ysgolion
  • Archwiliad diogelu Adran 175
  • Gwerthusiad chwarterol addysg

Tachwedd 2023

  • Cynllunio lleoedd ysgol
  • Cynllun gweithredu diogelu o dan Adran 175
  • Data presenoldeb yn yr ysgol
  • Ysgol Gynradd Maenorbŷr
  • Aelodaeth Partneriaeth
  • Adroddiad monitro cyllideb y cyngor sir ar gyfer ail chwarter 2023-2024

Chwefror 2024

  • Atgyfeiriad pwyllgor – Adolygiad Ariannol Ysgol Harri Tudur
  • Ymweliad y Panel Craffu ar Ysgolion – Ysgol Penrhyn Dewi
  • Ymweliad y Panel Craffu ar Ysgolion – Ysgol Caer Elen
  • Absenoldeb staff ysgol a threfniadau athrawon cyflenwi
  • Adroddiadau arolygu ysgolion gan Estyn
  • Deilliannau ysgolion sy’n ystyriol o drawma
  • Newidiadau arfaethedig i dymhorau a gwyliau gan Lywodraeth Cymru
  • Memorandwm cyd-ddealltwriaeth diwygiedig ar gyfer darparu addysg ôl-16 yn Sir Benfro

Mawrth 2024

  • Deiseb yn ymwneud â Chlwb Ieuenctid Trefdraeth
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am y cwricwlwm
  • Cost lleoedd ysgol sbâr / dros ben
  • Canlyniadau arholiadau 2022-2023
  • Grant Datblygu Disgyblion
  • Trefniadau arlwyo a gweithredu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd
  • Gwasanaeth cwnsela a’r gwasanaeth mewngymorth mewn ysgolion
  • Ysgol Gynradd Maenorbŷr

Pa wahaniaeth wnaeth y Pwyllgor?

Yn dilyn cynnig Llywodraeth Cymru i newid y tymhorau, gwrandawodd y pwyllgor ar y cynigion newydd a chafodd sesiwn adborth / casglu tystiolaeth gyda’r aelodau, un o’r rhiant-lywodraethwyr, penaethiaid a swyddogion ym mis Chwefror 2024. Ar ôl clywed y gwahanol safbwyntiau, rhannodd aelodau’r pwyllgor fel grŵp eu barn fel rhan o’r ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru. Cawsant gyfle hefyd i roi eu barn yn unigol.

Yn dilyn y newid i gynllun deisebau’r cyngor, yr oedd deiseb ar Glwb Ieuenctid Casnewydd wedi’i chyflwyno i’r cyngor ym mis Mawrth 2024. Hwn oedd y pwyllgor cyntaf i gael deiseb yn dilyn y newid a bu’n fodd o alluogi aelodau’r cyhoedd i siarad a rhoi eu barn ar bwnc a oedd yn bwysig iawn iddynt. Gallent hefyd gael atebion i’w pryderon yn uniongyrchol. Rhoddodd y pwyllgor gefnogaeth hefyd drwy ofyn cwestiynau ar glybiau ieuenctid i’r swyddogion a fyddai o ddiddordeb i’r cyhoedd.  Dywedwyd wrth y pwyllgor nad oedd y clwb ieuenctid i fod i gau. Gofynnodd y pwyllgor am ddadansoddiad o gostau’r holl glybiau ieuenctid, ac fe’u darparwyd.

Ymgymerwyd â chraffu rheolaidd ar y blaenoriaethau gwella addysg, cynllun y gyfarwyddiaeth, a’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar gyfer darparu addysg ôl-16 yn Sir Benfro er mwyn sicrhau eu dilyniant. Bu craffu effeithiol ar bob eitem unigol a drafodwyd gan y pwyllgor ac roedd holl aelodau’r pwyllgor yn gallu gofyn cwestiynau a rhannu eu barn. Oherwydd yr amrywiaeth o eitemau a drafodwyd y llynedd, roedd y pwyllgor yn gallu ehangu ei faes trafod a’i ddylanwad. Mae gan y pwyllgor yr opsiwn i drafod y pynciau hyn eto eleni. 

Cynhaliwyd chwe ymweliad ag ysgol gan y Panel Craffu ar Ysgolion rhwng mis Mai 2023 a mis Ebrill 2024. Edrychwyd ar amrywiaeth o ysgolion, yn cynnwys ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed. Roedd Cyngor Sir Penfro yn unigryw o’i gymharu ag awdurdodau eraill Cymru gyda’u hymweliadau ag ysgolion gan ei fod wedi gwahodd y penaethiaid, a’r llywodraethwyr pan fyddent ar gael, i’r cyfarfod lle cyflwynwyd adroddiad yr ymweliad. Canmolwyd y dull hwn gan Estyn.

Yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw oedd Ysgol Greenhill, Ysgol Wdig, Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Caer Elen, Ysgol Harri Tudur ac Ysgol Portfield.

  • Cafodd Ysgol Greenhill drawsnewidiad cadarnhaol o ran anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a weithredwyd trwy gymorth grŵp wedi’i dargedu a oedd yn annog annibyniaeth dysgwyr, ond roedd ganddo adnoddau cyfyngedig ar gyfer corff yr ysgol.
  • Roedd Ysgol Wdig wedi creu cymuned gref ac roedd y disgyblion yn cael eu cefnogi’n dda yn academaidd ac o ran llesiant. Serch hynny, roedd yr ysgol yn cael trafferth o ran cadw staff a diwallu anghenion yr holl ddisgyblion.
  • Roedd gan Ysgol Penrhyn Dewi bolisi ffonau symudol unigryw a oedd yn ymddangos fel pe bai wedi gwella ymddygiad myfyrwyr ac agweddau academaidd yn yr ysgol. Y bwriad yw cyflwyno’r polisi hwn i holl ysgolion Sir Benfro. Fodd bynnag, roeddent yn cael trafferth o ran cadw staff.
  • Roedd cyrhaeddiad addysgiadol Ysgol Caer Elen yn uchel iawn, a bu’n llwyddiannus iawn yn ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg yn Sir Benfro. Roedd y galw am ysgolion Cymraeg yn Sir Benfro wedi arwain at restr aros hir ar gyfer yr ysgol, a’i bod angen darparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion myfyrwyr.
  • Roedd Ysgol Harri Tudur yn darparu amrywiaeth eang o opsiynau TGAU a Safon Uwch ar gyfer eu corff myfyrwyr, a chefnogaeth gref i’w myfyrwyr ADY. Fodd bynnag, tra’n gweithio i ddarparu ar gyfer ei chorff myfyrwyr, mae’r ysgol wedi cael anawsterau ariannol.
  • Ysgol Portfield yw’r unig ysgol arbenigol yn Sir Benfro, sy’n rhoi galw ar y gwasanaethau y mae’n eu darparu. Roedd yr ysgol ei hun yn darparu amrywiaeth o ofal a therapi er mwyn cynorthwyo ei holl fyfyrwyr a’u hanghenion.  

Heriau’r dyfodol

Mynegodd pob ysgol yr ymwelodd y panel â nhw anhawster o ran cyflogi a chadw staff, a oedd yn arwain at gostau uchel o ran cyflogi athrawon cyflenwi a phrinder athrawon yn yr ysgolion. Bydd hwn yn bwnc y bydd y pwyllgor yn ei fonitro gyda chymorth tîm adnoddau dynol y cyngor.

Oherwydd costau adeiladu cynyddol, bu’n rhaid i ysgolion a oedd angen gwaith ailadeiladu neu atgyweirio aros oherwydd cyllid y cyngor. Byddai angen gohirio rhai cynlluniau adeiladu hefyd oherwydd y broses o gymeradwyo arian ychwanegol. Roedd y pwyllgor yn ymwybodol o’r effeithiau cadarnhaol yr oedd prosiectau adeiladu ysgolion yn eu cael ar yr ysgolion.

Trwy raglennu gwaith a goruchwylio deilliannau addysgol a data perthnasol arall, bydd y pwyllgor yn parhau i roi sicrwydd bod yr aelodau yn goruchwylio ac yn herio perfformiad ysgolion, safonau addysgol a chanlyniadau i bob dysgwr yn briodol, a bod cymorth priodol yn cael ei ddarparu i ysgolion Sir Benfro gan Partneriaeth (corff rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau gwella addysg).

Ar ôl i Ysgol Gynradd Maenorbŷr ddioddef tân mawr ym mis Hydref 2022, bydd y pwyllgor yn parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y mater parhaus i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i alluogi’r ysgol i weithredu’n llawn. 

Bydd ystyriaeth barhaus o raglen waith y pwyllgor yn rhoi sicrwydd o graffu pwrpasol ac effeithiol ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond i sicrhau bod craffu yn ystyrlon ac yn hylaw, mae’n bwysig bod y pwyllgor yn trefnu ei raglen waith i osgoi cymryd gormod o eitemau mewn cyfarfodydd.

Roedd nifer o’r materion a nodwyd gan y pwyllgor yn feysydd lle’r oedd dylanwad y cyngor arnynt yn gyfyngedig. Nodwyd y rhain yn arbennig ar ymweliadau a gynhaliwyd gan y Panel Craffu ar Ysgolion, h.y. nid oedd dognau bach o ran prydau ysgol am ddim a chyllid ADY yn ddigon i ysgolion ddarparu ar gyfer eu myfyrwyr ADY. Bydd y pwyllgor yn cymryd unrhyw gamau y gellir eu cymryd gyda hyn.



Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol

Rôl a chylch gwaith

Rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yw adolygu a chraffu ar swyddogaethau corfforaethol a gwasanaethau cymorth ac mae ei gwmpas yn cynnwys goruchwylio cyfeiriad strategol cyffredinol, polisïau, cynlluniau a blaenoriaethau'r Cabinet a'r Cyngor (ar ôl i benderfyniadau cael eu gwneud) a monitro gweithredu’r rhain fel y bo’n briodol.

Mae cwmpas y Pwyllgor hefyd yn cynnwys craffu ar wasanaethau cymorth corfforaethol drwy ddull sy'n seiliedig ar risg gan ddefnyddio gwybodaeth reoli berthnasol megis Cynlluniau Trawsnewid Gwasanaethau, mesuriadau perfformiad, risg busnes ac adroddiadau arolygu / rheoleiddio allanol. Mae cylch gwaith y Pwyllgor yn benodol yn cwmpasu’r canlynol:

 

Swyddogaethau corfforaethol:

  • Swydd yr Arweinydd
  • Adroddiadau blynyddol Aelodau’r Cabinet
  • Y Prif Weithredwr
  • Monitro cyllidebau
  • Monitro perfformiad corfforaethol
  • Cynllunio corfforaethol
  • Adroddiadau corfforaethol Archwilio Cymru
  • Diogelu corfforaethol 
  • Y Gymraeg
  • Rheoli risg
  • Chwythu’r chwiban
  • Rheoli’r Rhaglen Trawsnewid
  • Rheoli’r Rhaglen Bargen Ddinesig

 

Gwasanaethau corfforaethol:

  • Y Gyfraith a Llywodraethu
  • Gwasanaethau Etholiadol 
  • Adnoddau Dynol
  • Gwasanaethau i Gwsmeriaid
  • Archwilio, Risg a Gwybodaeth
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Cyfathrebu Corfforaethol, y Wasg, Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata
  • Gwasanaethau Ariannol (Gan gynnwys Refeniw a Buddion a Chaffael)
  • Polisi a Phartneriaeth Gorfforaethol

Aelodaeth a Phresenoldeb

  • Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ym mis Mawrth 2024 oedd y canlynol:
  • Y Cynghorydd Michael John, Cadeirydd (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Michael Stoddart, Is-gadeirydd (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Steve Alderman (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Aaron Carey (Ceidwadwyr Cymreig)
  • Y Cynghorydd Alan Dennison (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Jonathan Grimes (Ceidwadwyr Cymreig)
  • Y Cynghorydd Simon Hancock (Llafur)
  • Y Cynghorydd Mike James (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Huw Murphy (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Bethan Price (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Thomas Tudor (Llafur)
  • Y Cynghorydd Jacob Williams (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Michael Williams (Plaid Cymru)

Presenoldeb aelodau yng nghyfarfodydd y pwyllgor hwn oedd 81% (93.4% y flwyddyn flaenorol). 

 

Gwaith y Pwyllgor yn 2023-24

Mae rhaglen waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn cael ei llywio yn bennaf gan yr amserlen cynllunio corfforaethol ac ariannol, yr adolygiad o’r gyllideb a chanlyniadau perfformiad, a datblygiad amcanion a blaenoriaethau strategol y cyngor fel y nodir yn y cynllun corfforaethol.  Mae gan y pwyllgor rôl wrth gynorthwyo’r gwaith o greu a chyflawni amcanion llesiant yr awdurdod sy’n crynhoi’r blaenoriaethau ar gyfer y sefydliad sy’n deillio o’r rhaglen weinyddu a’r strategaeth gorfforaethol.

Mae gan y pwyllgor hefyd rôl allweddol o ran cadw goruchwyliaeth o faterion diogelu corfforaethol a safonau’r Gymraeg.

Mae’r pwyllgor yn goruchwylio nifer o bartneriaethau strategol sy’n cynnwys Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; a gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) trwy Banel Partneriaethau sefydlog sy’n cynnwys cadeiryddion ac is-gadeiryddion pob un o’r pum pwyllgor trosolwg a chraffu.

Mae’r Panel Partneriaethau wedi ystyried y ffyrdd newydd o weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys; Tlodi yn Sir Benfro; gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus; ac y mae wedi ystyried ei drefniadau a’i effeithiolrwydd wrth gyflawni ei swyddogaethau craidd.

Yn gyffredinol, mae’r pwyllgor yn canolbwyntio ar bolisïau corfforaethol a rheolaeth ariannol yr awdurdod, ac felly mae gwaith y pwyllgor yn canolbwyntio’n fawr ar adolygu perfformiad ariannol y gorffennol a chraffu ar gynigion sy’n datblygu ynghylch trefniadau cynllunio corfforaethol strategol allweddol.  Wrth wneud hynny, mae’r pwyllgor yn rhoi sicrwydd bod y cyngor yn parhau i ddarparu gwerth am arian i drigolion Sir Benfro o fewn y gyllideb, a’i fod yn cyflawni ei gyfrifoldebau corfforaethol statudol craidd. 

Trwy gydol y flwyddyn, bu’r pwyllgor yn craffu ar y canlynol:

Mehefin 2023

  • Hysbysiad o gynnig yn ymwneud â dadansoddiad o gostau’r argyfwng hinsawdd
  • Trefniadau llywodraethu ar gyfer rheoli’r trysorlys
  • Monitro’r gwaith o fesur perfformiad yn chwarterol
  • Bwrdd y Rhaglen Gwella a Thrawsnewid
  • Adroddiad blynyddol safonau’r Gymraeg

Medi 2023

  • Gwasanaethau adnoddau dynol
  • Cam ymgynghori: hunanasesiad blynyddol drafft 2022-2023
  • Adroddiad monitro alldro cyllideb y cyngor sir 2022-2023
  • Adroddiad monitro cyllideb y cyngor sir ar gyfer chwarter cyntaf 2023-2024
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y Panel Partneriaethau

Tachwedd 2023

  • Adroddiad monitro cyllideb y cyngor sir ar gyfer ail chwarter 2023-2024
  • Methodoleg i asesu fforddiadwyedd a chynaliadwyedd tymor hwy y Rhaglen Gyfalaf
  • Gwasanaethau etholiadol
  • Partneriaethau strategol – Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru

Ionawr 2024

  • Monitro’r gwaith o fesur perfformiad yn chwarterol
  • Cyllideb ddrafft amlinellol y cyngor sir ar gyfer 2024-2025, cynllun ariannol tymor canolig amlinellol ar gyfer 2024-2025 i 2027-2028, a setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2024-2025
  • Adroddiad blynyddol y Bwrdd Diogelu Corfforaethol 2022-2023
  • Galw i mewn penderfyniad yr aelod cabinet ar gaffael datrysiad post hybrid ar gyfer swmp-argraffu a swmp-bostio

Mawrth 2024

  • Hysbysiad o gynnig yn ymwneud â Chynllun Gweithredu Cyngor Sir Penfro Gwrth-hiliol
  • Trosolwg o amcanion llesiant
  • Hawliau aelodau i gael mynediad at wybodaeth
  • Gweithred amrywio Bargen Ddinesig Bae Abertawe

 

Pa wahaniaeth wnaeth y Pwyllgor? 

Parhaodd y pwyllgor i graffu ar feysydd gwasanaeth corfforaethol unigol, ac eleni cafodd adroddiadau manwl gan y gwasanaethau adnoddau dynol a’r gwasanaethau etholiadol.

Trwy hyn roedd yr aelodau’n gallu cael mewnwelediad gan y Pennaeth Adnoddau Dynol, a benodwyd yn ddiweddar, ar ei gweledigaeth ar gyfer yr awdurdod, a chamau gweithredu i fynd i’r afael â phryderon a godwyd yn flaenorol ynghylch datblygu a chadw staff.

Er ei fod yn dod i’r amlwg ar adegau etholiadau, eglurwyd y swm rhyfeddol o waith a wnaed gan y tîm etholiadau i’r aelodau a darparodd drosolwg o’r modd y mae’r gwasanaeth yn paratoi ac yn sicrhau bod etholiadau’n rhedeg yn esmwyth.

Cafodd y pwyllgor drosolwg o gofnodion cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig Gorllewin Cymru a Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, a chyfle i gwestiynu cworwm y cyrff hynny er mwyn sicrhau bod Sir Benfro yn cael ei chynrychioli’n briodol a’i bod yn rhoi ystyriaeth gyfartal i brosiectau lleol.

Bu’r pwyllgor hefyd yn craffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’i bartneriaid drwy’r Panel Partneriaeth, gan sicrhau goruchwyliaeth ddemocrataidd.

Bu’r pwyllgor yn ystyried y dadansoddiad o gostau’r argyfwng hinsawdd a rhoddodd gyfeiriad ar yr heriau sy’n wynebu’r awdurdod yn y dyfodol.

Ar ôl ystyried cais galw i mewn ar benderfyniad a wnaed o dan gynllun dirprwyo’r cabinet, bu’r pwyllgor yn craffu ar yr aelod cabinet a’r pennaeth gwasanaeth ynghylch caffael post hybrid. Rhoddodd y cyfarfod eithriadol gyfle i’r aelodau herio a chwestiynu’r penderfyniad, gan sicrhau bod goruchwyliaeth ddemocrataidd wedi’i chynnal yn ystod y broses o wneud penderfyniadau. Ategwyd y penderfyniad cychwynnol gan y pwyllgor.

Cafodd y pwyllgor gyfle i roi mewnbwn amserol i ddatblygiad amcanion llesiant y cyngor o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan sicrhau bod barn yr aelodau yn rhan o’r adroddiad terfynol.

Yn dilyn pryderon a godwyd gan aelodau ynghylch gwybodaeth yn cael ei dal yn ôl, gofynnodd y pwyllgor am adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith a Llywodraethu i roi eglurhad ar fynediad yn y dyfodol a chyfrifoldebau ynghylch gwybodaeth gyfrinachol.

Fel rhan o’r adolygiad rheolaidd a’r craffu ar y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, bu’r pwyllgor yn ystyried y rhaglen gyfalaf a gwerth y cynlluniau arfaethedig. Canolbwyntiwyd ar yr effaith ar y gyllideb refeniw ar fenthyca ar gyfer cynlluniau cyfalaf.

 

Heriau’r dyfodol  

Yr her fwyaf yw’r pwysau ariannol parhaus a wynebir gan yr awdurdod, sy’n cynyddu dipyn o flwyddyn i flwyddyn ac a fydd yn cyflwyno her sylweddol ar gyfer y Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Mae’r newid hwyr i gyllideb 2024-2025 wedi arwain at fwy o bwysau i gyflawni arbedion pellach o ran effeithlonrwydd, a ffocws y pwyllgor dros y 12 mis nesaf fydd monitro’r adroddiadau monitro cyllideb chwarterol ar gyfer cynnydd, neu lithriad ar brosiectau cyfalaf. Bydd unrhyw bryderon yn cael eu hamlygu yn ôl yr angen i sicrhau cynaliadwyedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.  

Mae pryderon wedi’u codi gan aelodau’r pwyllgor ynghylch darparu band eang mewn ardaloedd gwledig a’i effaith ar yr economi wledig. Fel rhan o’r flaenraglen waith, mae’r pwyllgor wedi gofyn am adroddiad ar hyn a bydd yn gwneud unrhyw argymhellion yn dilyn ymchwiliadau.

Mae’r pwyllgor wedi gofyn, a bydd yn ystyried, adroddiad gan Wasanaethau Ariannol y cyngor gan gynnwys refeniw, budd-daliadau a chaffael.

Mae eitemau sefydlog sy’n dod gerbron y pwyllgor ar gyfer unrhyw fewnbwn neu bryderon i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn berthnasol yn cynnwys adroddiad blynyddol y Bwrdd Diogelu Corfforaethol, adroddiad blynyddol safonau’r Gymraeg a’r hunanasesiad corfforaethol blynyddol.

Mae’n hanfodol bod data perfformiad yn parhau i gael ei graffu’n rheolaidd i sicrhau bod materion sy’n galw am ymyrraeth mewn perthynas â pherfformiad meysydd allweddol yn cael eu nodi ac yr ymdrinnir â hwy mewn modd amserol.

Bydd y pwyllgor yn parhau â sesiynau gwybodaeth i adolygu ac addasu’r flaenraglen waith er mwyn sicrhau ei bod yn gyfredol ac yn nodi unrhyw feysydd sy’n peri pryder yn brydlon.

 

 

Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau

Rôl a chylch gwaith

Mae'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau yn adolygu gwasanaethau a gyflenwir gan y Cyngor i'w gwsmeriaid. Er mwyn penderfynu ar ei flaenoriaethau mae’r Pwyllgor yn asesu ansawdd a pherfformiad gwasanaethau’r Cyngor gan ddefnyddio ystod o wybodaeth reoli gan gynnwys Cynlluniau Trawsnewid Gwasanaethau, mesuriadau perfformiad, risg busnes ac adroddiadau arolygu / rheoleiddio allanol.   

Yn benodol, mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor yn cynnwys gwasanaethau canlynol y Cyngor (a’r adrannau o fewn y rhain):

  • Seilwaith
  • Yr Amgylchedd ac Argyfyngau Sifil
  • Tai
  • Cynnal a Chadw Adeiladau
  • Cynllunio 
  • Eiddo
  • Amddiffyn y Cyhoedd
  • Datblygu Economaidd ac Adfywio 
  • Gwasanaethau Diwylliannol
  • Gwasanaethau Hamdden

 

Aelodaeth a Phresenoldeb

Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau ym mis Mawrth 2024 oedd y canlynol:

  • Y Cynghorydd Mark Carter, Cadeirydd (Ceidwadwyr Cymreig)
  • Y Cynghorydd Rhys Jordan, Is-gadeirydd (Ceidwadwyr Cymreig)
  • Y Cynghorydd Steve Alderman (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Di Clements (Ceidwadwyr Cymreig)
  • Y Cynghorydd Terry Davies (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Tim Evans (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Brian Hall (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Shon Rees (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Viv Stoddart (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Vanessa Thomas (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Thomas Tudor (Llafur)
  • Y Cynghorydd Tony Wilcox (Llafur)
  • Y Cynghorydd Chris Williams (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Mike Stoddart (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp) – Aelod wrth gefn
  • Y Cynghorydd Jacob Williams (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp) – Aelod wrth gefn

 Presenoldeb aelodau yng nghyfarfodydd y pwyllgor hwn oedd 92% (94% y flwyddyn flaenorol). Ceir manylion am y nifer a fu’n gwylio’r gweddarllediadau ar dudalen 37.

 

Gwaith y Pwyllgor yn 2023-24

Yn ystod 2023-2024, mae aelodau’r pwyllgor wedi parhau i graffu ar swyddogaethau’r cyngor gan sicrhau gwell dealltwriaeth o’r materion a wynebir gan drigolion. Maent wedi cynnal tri ymweliad safle yn cynnwys Maes Awyr Hwlffordd, safle Llifogydd Havens Head a Lower Priory, a Safle Tirlenwi Withyhedge i sicrhau eu bod yn gwneud penderfyniadau gwybodus wrth graffu ar weithrediadau.

Mehefin 2023

  • Data perfformiad gwasanaethau
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am dai a’r gwasanaeth cynnal a chadw adeiladau
  • Niwtraliaeth o ran maethynnau (ffosffadau) o fewn Cyngor Sir Penfro
  • Y gwasanaeth eiddo
  • Grŵp Rheoli Asedau Strategol

Medi 2023

  • Digwyddiadau fandaliaeth i eiddo’r awdurdod
  • Troseddau amgylcheddol – yr wybodaeth ddiweddaraf gan y tîm gorfodi
  • Atgyfeiriad pwyllgor

Tachwedd 2023

  • Croeso Sir Benfro – adroddiad blynyddol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf
  • Maes Awyr Hwlffordd
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf ar ganran y staff sydd bellach yn gweithio y tu hwnt i Neuadd y Sir
  • Rhaglen adfywio
  • Adolygu penderfyniad y cabinet ar ffi arfaethedig ar gyfer casglu coed Nadolig naturiol

Ionawr 2024

  • Gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd
  • Llifogydd Havens Head a Lower Priory
  • Cyflawni gwasanaeth cynllunio
  • Digwyddiadau fandaliaeth i eiddo’r awdurdod
  • Y gwasanaeth eiddo

Mawrth 2024

  • Adolygu penderfyniad y cabinet ar ddyfarniad tendr cam 2 pont droed Hwlffordd a Glan Cei’r Gorllewin
  • Llifogydd Havens Head a Lower Priory
  • Maes Awyr Hwlffordd
  • Partneriaeth Natur Sir Benfro
  • Safle Tirlenwi Withyhedge

 

Pa wahaniaeth wnaeth y Pwyllgor?

Cafodd penderfyniad y cabinet mewn perthynas â’r ffi arfaethedig ar gyfer casglu coed Nadolig naturiol ei alw i mewn gan saith aelod o’r grŵp gwleidyddol annibynnol oherwydd pryderon ynghylch tipio anghyfreithlon yn sgil y cynnydd mewn costau byw.  Yn ystod y cyfarfod eithriadol, cafodd yr aelodau gyflwyniadau gan yr aelod cabinet a’r swyddog ac, yn dilyn llawer o drafod a sicrwydd, cadarnhawyd penderfyniad y cabinet.

Cafwyd galwad i mewn gan 11 aelod o grŵp y Ceidwadwyr Cymreig a chwe aelod o’r grŵp Annibynnol ynglŷn â dyfarniad tendr cam 2 pont droed Hwlffordd a Glan Cei’r Gorllewin oherwydd pryderon ynghylch yr amser byr iawn a gymerwyd i drafod y mater a’r cynnydd mewn prisiau.  Penderfynodd yr aelodau atgyfeirio’r penderfyniad yn ôl i’r cabinet am eglurhad pellach ar y dyfynbrisiau a’r goblygiadau ariannol.

Galwyd cyfarfod eithriadol o’r pwyllgor yn dilyn galw i mewn penderfyniad y cabinet ynghylch dyfarnu contract gwasanaethau adeiladu cam 2 cyfnewidfa drafnidiaeth Hwlffordd.Cafodd hwn ei alw i mewn gan 11 aelod o grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ac un aelod digyswllt oherwydd costau cynyddol y prosiect. Penderfynodd yr aelodau gadarnhau penderfyniad y cabinet yn dilyn trafodaethau a’r sicrwydd a roddwyd.

Roedd saith eitem o ohebiaeth wedi’u cyflwyno i’r pwyllgor yn ymwneud â deiseb preswylydd ynghylch Safle Tirlenwi Withyhedge oherwydd bod y preswylwyr wedi cael wyth mis o arogleuon annioddefol o’r safle.  Cynhaliodd y pwyllgor ymweliad â’r safle a chafodd gyflwyniadau gan weithredwyr a rheoleiddwyr y safle i ddeall a gwerthfawrogi’r materion yn llawn. Penderfynodd y pwyllgor sicrhau trefniadau gweithio agos gyda’r gweithredwr a’r rheoleiddwyr ac i’r wybodaeth ddiweddaraf gael ei chyflwyno yng nghyfarfod nesaf y cyngor a chyfarfod y pwyllgor.

Mae’r pwyllgor wedi parhau i oruchwylio’r llifogydd yn Havens Head a Lower Priory gan gynnal ymweliad safle gyda swyddogion a chynrychiolwyr Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a siarad â thrigolion; ac y mae wedi parhau i sicrhau ei fod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd.

Pan godwyd pryderon am ddyfodol Maes Awyr Hwlffordd, cynhaliwyd ymweliad safle i werthfawrogi gweithrediad a chwmpas y safle yn llawn.  Yna cyflwynwyd y penderfyniadau a chraffwyd arnynt yn llawn gan swyddogion gyda sylwadau gan ddefnyddwyr y safle a’r opsiynau a oedd ar gael yn dychwelyd i’r pwyllgor ym mis Mawrth 2024.

Mae’r pwyllgor wedi parhau i fod yn ymrwymedig i oruchwylio a chraffu ar wasanaethau’r awdurdod. 

Trwy ei waith rhaglennu gwaith a goruchwylio gwybodaeth am berfformiad gwasanaethau, bydd y pwyllgor yn parhau i roi sicrwydd bod yr aelodau yn goruchwylio ac yn herio perfformiad a darpariaeth gwasanaethau yn briodol.

 

Heriau’r dyfodol

Yn y flwyddyn i ddod bydd y pwyllgor yn parhau i ddefnyddio gwybodaeth berthnasol am berfformiad gwasanaethau i benderfynu ar ei raglen waith, eto gan ganolbwyntio’n benodol ar wasanaethau y gwelir eu bod yn tanberfformio.  

Un o’r prif heriau sydd wedi parhau i wynebu’r pwyllgor yw ymgysylltu â’r cyhoedd, sydd wedi’i annog yn frwd drwy’r cadeirydd, yr is-gadeirydd, aelodau’r pwyllgor a dull wedi’i dargedu drwy’r cyfryngau cymdeithasol. 

Mae cyfarfodydd sydd i ddod wedi’u postio’n fwy ac, yn dilyn cyflwyno saith eitem o ohebiaeth a phresenoldeb cynrychiolwyr y cyhoedd yn y cyfarfod ynghylch Safle Tirlenwi Withyhedge, mae’r pwyllgor yn awyddus i barhau â’r momentwm. 

Mae darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ar waith prosiectau a gwasanaethau amrywiol ar draws yr awdurdod wedi’i gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod gan brosiectau a gefnogir yn fewnol ac yn allanol, yn cynnwys Croeso Sir Benfro a Phartneriaeth Natur Sir Benfro i gefnogi parhad y gwaith rhagorol a wneir gan yr awdurdod.

Mae’r her i ymgysylltu â phreswylwyr a chadw cyfarfodydd yn bwrpasol yn parhau gyda’n blaenraglen waith.



Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn Penderfynu

Rôl a chylch gwaith

Rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn Penderfynu yw ymgymryd â chraffu cyn penderfynu ar bolisïau, cynlluniau a strategaethau er mwyn cyfrannu at ansawdd a chadernid penderfyniadau’r Cabinet. Mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor yn cynnwys:

  • Blaenraglen waith y Cabinet
  • Cynigion sy’n ymwneud â newid neu drawsnewid gwasanaethau, a / neu eu heffeithlonrwydd
  • Asesiadau Effaith Integredig
  • Strategaethau a chynlluniau, fel y bo’n briodol
  • Cynigion cyllideb blynyddol

 

Aelodaeth a Phresenoldeb

Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn Penderfynu ym mis Mawrth 2024 oedd y canlynol:

  • Y Cynghorydd Joshua Beynon, Cadeirydd (Llafur)
  • Y Cynghorydd Aled Thomas, Is-gadeirydd (Ceidwadwyr Cymreig)
  • Y Cynghorydd Maureen Bowen (Llafur)
  • Y Cynghorydd Pat Davies (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Alan Dennison (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Mike James (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Huw Murphy (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Jordan Ryan (Llafur)
  • Y Cynghorydd Bethan Price (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Viv Stoddart (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Michele Wiggins (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Michael Williams (Plaid Cymru)
  • Y Cynghorydd Steve Yelland (Ceidwadwyr Cymreig)
  • Y Cynghorydd Jacob Williams (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp) – Aelod wrth gefn
  • Y Cynghorydd Michael Stoddart (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp) – Aelod wrth gefn

Presenoldeb aelodau yng nghyfarfodydd y pwyllgor hwn oedd 86% (82% y flwyddyn flaenorol).

 

Gwaith y Pwyllgor yn 2023-2024

Mae rhaglen waith y pwyllgor wedi ymdrin ag ystod eang o bynciau pwysig dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae wedi cynnwys pynciau polisi a meysydd unigol, y mae’r pwyllgor yn parhau i graffu arnynt a’u hadolygu. Roedd y meysydd pwnc y bu’r pwyllgor yn edrych arnynt eleni yn cynnwys y strategaeth toiledau lleol, y strategaeth tlodi, cynllun gwella hawliau tramwy, ffrydiau gwaith y cynllun trafnidiaeth, premiymau’r dreth gyngor, y strategaeth tai, y strategaeth gyfranogiad, gwasanaethau bws, rheoli asedau, polisi gosod rhent tai cyngor, cyllideb ddrafft y cyngor ar gyfer 2024-2025, cynllun gweithlu’r dyfodol, datganiad polisi tâl 2024-2025, polisi cwynion, ‘Carafaros’, polisi dyrannu cartrefi dewisedig a’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgorau’r pwyllgorau.

Mae’r pwyllgor wedi penodi Panel Cyllid sefydlog. Aelodau’r panel ym mis Mawrth 2024 oedd y canlynol:

  • Y Cynghorydd Joshua Beynon (Cadeirydd)
  • Y Cynghorydd Aled Thomas (Is-gadeirydd)
  • Y Cynghorydd Mike James
  • Y Cynghorydd Jordan Ryan
  • Y Cynghorydd Michael Williams
  • Y Cynghorydd Alan Dennison (Aelod wrth gefn)
  • Y Cynghorydd Huw Murphy (Aelod wrth gefn)

Roedd hyn er mwyn sicrhau ymgysylltiad parhaus ag aelodau anweithredol a’u cynnwys yn natblygiad cyllideb y cyngor, a thrwy hynny galluogi’r pwyllgor i gyflawni ei gylch gwaith yn effeithiol i graffu ar gynigion cyllideb y cyngor.

Pan fydd y cabinet yn wynebu penderfyniadau cynyddol heriol ynghylch sut a ble i ddyrannu adnoddau a sut y dylai gwasanaethau’r cyngor fod yn y dyfodol, bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn Penderfynu yn parhau i ddarparu cyfrwng i aelodau anweithredol gael llais a chynrychioli safbwyntiau a phryderon trigolion er mwyn llywio’r broses o wneud penderfyniadau.

Trwy gydol y flwyddyn, bu’r pwyllgor yn craffu ar y canlynol:

Mai 2023

  • Strategaeth toiledau lleol

Mehefin 2023

  • Cysylltedd digidol (band eang)
  • Hysbysiad o gynnig yn ymwneud ag adfer Gweithgor y Ffermydd Sirol
  • Strategaeth tlodi – yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y gweithgor
  • Ystyried swyddogaeth dewis lleol: hunanasesiad ac asesu perfformiad y panel

Medi 2023

  • Ffrydiau gwaith yn bwydo i mewn i’r Cynllun Trafnidiaeth
  • Adolygu premiymau’r dreth gyngor

Hydref 2023

  • Strategaeth tai (drafft)
  • Adolygu premiymau’r dreth gyngor

Tachwedd 2023

  • Gwasanaethau bws cyhoeddus:Ariannu a blaenoriaethu
  • Rheoli asedau – adroddiad ar gyflwr yr ystad
  • Strategaeth toiledau lleol
  • Polisi gosod rhent tai cyngor
  • Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 – strategaeth cyfranogiad (diweddariad)

Ionawr 2024

  • Cyllideb ddrafft amlinellol y cyngor sir ar gyfer 2024-2025, cynllun ariannol tymor canolig amlinellol ar gyfer 2024-2025 i 2027-2028, a setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2024-2025
  • Strategaeth tlodi
  • Cynllun cydraddoldeb strategol 2024-2028
  • Cynllun gweithlu’r dyfodol
  • Datganiad polisi cyflog 2024-2025
  • Gwaredu tir y ffermydd sirol

Mawrth 2024

  • Cynllun gwella hawliau tramwy
  • Polisi nodi canmoliaeth, pryderon a chwynion
  • Dull polisi gweithredol ar gyfer ymateb i geisiadau i chwifio baneri yn Neuadd y Sir a goleuo Neuadd y Sir
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y Panel Cyllid

 

Pa wahaniaeth wnaeth y Pwyllgor?

Prif swyddogaethau’r pwyllgor yw sicrhau bod aelodau anweithredol yn ymgysylltu’n effeithiol â gwaith datblygu cynigion mawr cyn i’r cabinet wneud penderfyniad drwy herio yn adeiladol ac â ffocws priodol, ac wrth ddatblygu ac adolygu polisi a strategaeth y cyngor. Trwy ddefnyddio ei bwysau a’i ddylanwad cadarnhaol, mae’r pwyllgor yn cyfrannu at fframwaith gwneud penderfyniadau a pholisi cryfach a chadarnach, sy’n cynrychioli anghenion a phryderon trigolion Sir Benfro yn llawn.

Er bod llawer o waith y pwyllgor yn digwydd yn y cyfarfod cyhoeddus ffurfiol mae rhywfaint o’i waith mwyaf effeithiol yn digwydd yn sgil sefydlu gweithgorau sy’n gweithredu ar ran y pwyllgor llawn. Mae’r gweithgorau hyn yn galluogi’r aelodau i archwilio a deall yn iawn y rhesymeg a’r ysgogwyr ar gyfer newidiadau sylweddol i wasanaethau neu bolisi o ran y math o fanylion nad yw’n bosibl eu harchwilio mewn cyfarfod pwyllgor untro.  Trwy’r broses o ddefnyddio gweithgorau mae’r pwyllgor llawn yn gallu gwneud argymhellion clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth. 

Un o weithgorau’r pwyllgor yw’r Panel Cyllid sy’n cyfarfod bob tri mis. Yn y flwyddyn 2023-2024, cyfarfu’r grŵp deirgwaith ac fe’i cefnogir yn ei waith gan yr Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol, y Tîm Cyllid a swyddogion eraill fel y bo’n briodol. Mae’r panel wedi gallu ymchwilio i’r materion a rhoi adborth gwerthfawr i swyddogion a’r pwyllgor. Rhai meysydd allweddol a nodwyd wrth symud ymlaen yw’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, cyllidebau ysgolion a chraffu ar y model buddsoddi cydfuddiannol arfaethedig. Yn y dyfodol byddant yn edrych ar bynciau fel costau cyfieithu i’r cyngor.

Yn dilyn ailsefydlu Gweithgor y Ffermydd Sirol ym mis Mawrth 2023, y mae wedi cyfarfod ar bedwar achlysur gwahanol gyda chynllun parhaus i gyfarfod bob yn ail fis.  Ymhlith y pynciau y mae’r gweithgor wedi eu hystyried y mae adolygu’r argymhellion o adroddiad y Cabinet yn 2020, monitro ystad y ffermydd sirol, a chyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru i gael eu barn ar bolisïau ffermio cyfredol. Yn y dyfodol, mae’r grŵp yn bwriadu ymweld â ffermydd yn ogystal ag ystyried pynciau eraill fel sut y byddai nodau carbon sero yn effeithio ar ffermydd.

Rhoddodd y pwyllgor ystyriaeth fanwl i dri pholisi tai pwysig, sef y strategaeth tai, y polisi gosod rhent tai cyngor, a’r polisi dyrannu cartrefi dewisedig.Mewn perthynas â’r polisi gosod rhent tai cyngor, cynigiodd y pwyllgor y dewis yr oedd yn ei ffafrio i’r cabinet er mwyn ei weithredu.  Cynhaliodd y pwyllgor ddau gyfarfod eithriadol ar gyfer yr eitemau tai eraill. Yn yr achosion hyn, pleidleisiodd y pwyllgor i’r penderfyniad o’u gweithredu fynd drwy’r cabinet.

Pwnc arall a gafodd ei fonitro’n aml gan y grŵp oedd y strategaeth toiledau lleol yn dilyn sesiwn galw i mewn i’r pwyllgor. Galwodd y pwyllgor ar y cabinet i ohirio’r cynnig i gau 32 o doiledau tan 31 Mawrth 2024 nes bod y costau llawn yn cael eu harchwilio ymhellach, ac i ganiatáu i asiantaethau allanol gysylltu â’r cyngor ar gyfer trosglwyddo toiledau cyhoeddus y bernid eu bod yn addas, i’w cymryd gan sefydliad arall. Yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2023, cafodd y pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth, gan gynnwys sut yr oedd y cyngor yn gweithio gyda’r cynghorau tref a chymuned yn dilyn y broses galw i mewn.

Yn dilyn ei gymeradwyaeth gan y cabinet ym mis Chwefror 2024, gofynnodd y pwyllgor i’r arbrawf ‘Carafaros Penfro’ gael ei gyflwyno i’r pwyllgor er mwyn i’w aelodau graffu arno. Ar ôl dadl a chlywed tystiolaeth gan Croeso Sir Benfro a’r ymgyrch dros arosfannau steil ‘aire’ (CAMPRA), pleidleisiodd y pwyllgor i anfon yr eitem yn ôl i’r cabinet gyda’r argymhelliad y dylid rhoi’r gorau i arbrawf ‘Carafaros Penfro’ oherwydd y pryderon y byddai’n eu hachosi i fusnesau lleol, trefi, parcio yn gyffredinol a’r amgylchedd.

Er mwyn sicrhau bod y gwaith o ddatblygu strategaeth tlodi yn Sir Benfro yn cael ei oruchwylio, mae’r pwyllgor wedi ystyried y mater hwn ar ddau achlysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a disgwylir iddo ddod yn ôl yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae’r pwyllgor wedi edrych ar waith y Gweithgor Tlodi, sy’n is-grŵp o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac ag ymagwedd ‘sir gyfan’. Mae’r pwyllgor wedi craffu ar y camau y mae’r grŵp wedi’u cymryd tuag at ddatblygu strategaeth gychwynnol ar gyfer tlodi, gyda gwybodaeth am strategaethau a ddatblygwyd mewn meysydd eraill, ymchwil o safbwynt cenedlaethol a lleol yn cyfrannu at drafodaeth. Bydd y pwyllgor yn parhau i edrych ar y mater hwn i geisio bwrw ymlaen â’r gwaith hwn, a bydd yn cael ei oruchwylio’n barhaus gan yr aelodau. Lledaenu ymwybyddiaeth a datrys achos sylfaenol tlodi fu nodau mwyaf y pwyllgor.

 

Heriau'r dyfodol

O ystyried ei swyddogaeth cyn penderfynu, mae angen i raglen waith y pwyllgor gael ei halinio’n llwyr â rhaglen waith y cabinet fel bod digon o amser yn cael ei gynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau i ganiatáu i’r pwyllgor wneud ei waith mewn modd amserol, gwybodus. Bu achlysuron lle aeth eitemau y dylid wedi eu cyflwyno gerbron pwyllgor yn syth i’r cabinet yn lle hynny.

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn parhau i fod yn faes i’w wella gan fod hyn yn fodd i sicrhau bod y broses graffu yn rhoi darlun mwy cyflawn o’r hyn sydd bwysicaf i bobl. 

Mae’r berthynas gadarnhaol sydd wedi’i ffurfio rhwng aelodau gweithredol ac aelodau anweithredol drwy graffu yn arwydd cadarnhaol o wella trefniadau llywodraethu yn y cyngor ac yn gydnabyddiaeth bod cydweithio yn sicrhau gwell penderfyniadau, ac yn ei dro bod gwasanaethau effeithiol ac effeithlon yn cael eu darparu i bobl Sir Benfro.

Oherwydd llwyth gwaith swyddogion a’r gofynion o ran cyfarfodydd y tu allan i’r pwyllgor, mae’r pwyllgor wedi cynnal tri chyfarfod eithriadol o fewn chwe mis. Mae hyn heblaw’r cyfarfod galw i mewn.Mae’r llwyth gwaith trwm ar swyddogion wedi bod yn bryder a godwyd gan y pwyllgor.

Bydd y pwyllgor yn edrych ar ddulliau tai amgen sydd wedi’u cyfeirio gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau; cyflwyno arosfannau dros nos ar gyfer cartrefi modur / faniau gwersylla mewn mannau parcio oddi ar y stryd (meysydd parcio), cynllun arbrofi ‘Carafaros Penfro’, ac adolygiad o’r polisi dyrannu cartrefi dewisedig.Bydd y pwyllgor hefyd yn edrych ar ddull polisi gweithredol ar gyfer ymateb i geisiadau i chwifio baneri yn Neuadd y Sir a goleuo Neuadd y Sir.


 

 

Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol

Rôl a chylch gwaith

Mae'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol yn canolbwyntio ar anghenion gofal, cymorth a llesiant plant ac oedolion. Ei ddiben yw craffu ar ansawdd a pherfformiad yr holl wasanaethau sy’n gysylltiedig â Gofal Cymdeithasol y mae’r Cyngor yn eu cyflenwi, drwy ddatblygu dull sy’n seiliedig ar risg gan ddefnyddio gwybodaeth reoli berthnasol megis:

  • cynlluniau gwella gwasanaethau
  • gwybodaeth ariannol
  • mesuriadau perfformiad
  • risg busnes
  • hunanasesu
  • adborth / arolygon cwsmeriaid
  • adroddiadau arolygu / rheoleiddio allanol

 

Mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor yn darparu canolbwynt penodol ar y gwasanaethau, y swyddogaethau a’r trefniadau partneriaeth canlynol:

  • Gofal Oedolion
  • Gwasanaethau Plant
  • Cyd-gomisiynu Strategol
  • Gofalwyr
  • Gwasanaethau Integredig a llesiant
  • Gofal cartref
  • Gwaith gyda’r trydydd sector
  • Cydymffurfio â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
  • Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru
  • Diogelu Rhanbarthol 
  • Maethu Rhanbarthol
  • Mabwysiadu Rhanbarthol

  

Aelodaeth a Phresenoldeb

Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ym mis Mawrth 2024 oedd y canlynol:

  • Y Cynghorydd David Bryan, Cadeirydd (Ceidwadwyr Cymreig)
  • Y Cynghorydd Steve Alderman, Is-gadeirydd (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Maureen Bowen (Llafur)
  • Y Cynghorydd Alistair Cameron (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)
  • Y Cynghorydd Nicola Gwynn (Llafur)
  • Y Cynghorydd Delme Harries (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Mike James (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Mel Phillips (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Sam Skyrme-Blackhall (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Anji Tinley (Annibynnol)
  • Y Cynghorydd Michele Wiggins (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp)
  • Y Cynghorydd Danny Young (Ceidwadwyr Cymreig)
  • Y Cynghorydd Jacob Williams (ddim yn perthyn i unrhyw grŵp) – Aelod wrth gefn

Presenoldeb aelodau yng nghyfarfodydd y pwyllgor hwn oedd 84% (90% y flwyddyn flaenorol). 

 

Gwaith y Pwyllgor yn 2023-24

Mae rhaglen waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol yn cael ei llywio’n bennaf gan y gofyniad i graffu ar ystod amrywiol o wasanaethau sy’n ymwneud ag anghenion gofal, cymorth a llesiant plant ac oedolion. 

Mae’r pwyllgor wedi cynnal ffocws cryf ar graffu ar adroddiad blynyddol cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol ac adroddiadau perfformiad y gyfarwyddiaeth i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu i feysydd allweddol.  Bu rhai o aelodau’r pwyllgor yn ymwneud â chyfweld a recriwtio Pennaeth Gwasanaethau Oedolion newydd. 

Trwy gydol y flwyddyn, bu’r pwyllgor yn craffu ar y canlynol:

Mehefin 2023

  • Gweithio gyda’r trydydd sector
  • Y Fenter Cysylltu Bywydau
  • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru

Medi 2023

  • Cydweithio rhwng Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Canolfan Cyngor ar Bopeth
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru
  • Diogelu

Tachwedd 2023

  • LLAIS – a elwid gynt yn Gyngor Iechyd Cymuned (CIC) Sir Benfro
  • Adroddiad y Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol
  • Ymweliadau gofal â’r fferm

Ionawr 2024

  • Lleoliadau y tu hwnt i ffiniau’r – atgyfeiriad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol 
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweithgor Gofal Cymdeithasol
  • Gwasanaethau plant – cyflwyniad

Ebrill 2024

  • Eiriolaeth – yr wybodaeth ddiweddaraf ar y cynllun gweithredu eiriolaeth rhanbarthol
  • Gofalwyr – yr wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith i gefnogi gofalwyr di-dâl yn Sir Benfro
  • Cadw teuluoedd gyda’i gilydd
  • Diogelu
  • Ymweliadau safle gofal cymdeithasol

 

Pa wahaniaeth wnaeth y Pwyllgor? 

Eleni, ymwelodd y pwyllgor ag amryw o wasanaethau dydd mewnol yn ogystal ag ymweliad er mwyn i’r aelodau weld drostynt eu hunain waith rhagorol Diwydiannau Norman ym Maenordy Scolton. 

Mae’r pwyllgor wedi ehangu ei ffocws i gynnwys gofalwyr cyflogedig a di-dâl yn yr awdurdod yn ogystal â’r gwasanaethau unigol a ddarperir. Mae’r tîm hefyd wedi edrych ar yr effeithlonrwydd ledled y gyfarwyddiaeth i sicrhau llesiant ceiswyr lloches sydd ar eu pen eu hunain ac yn cael eu cartrefu y tu hwnt i ffiniau’r sir. 

Mae’r pwyllgor wedi croesawu Pennaeth Gofal Oedolion newydd ac wedi parhau i ganolbwyntio ar waith rhagorol y gyfarwyddiaeth gofal cymdeithasol.

At hynny, bu’r pwyllgor yn craffu ar adroddiadau perfformiad chwarterol ar drefniadau gwasanaethau cymdeithasol a diogelu gan geisio sicrwydd bod gwasanaethau’n cael eu cynnal, ac mae rhaglen gweithiwr cymdeithasol dan hyfforddiant newydd wedi’i chyflwyno.

Mae’r strategaeth ar gyfer cadw teuluoedd gyda’i gilydd a’r cynllun gweithredu (a elwid gynt yn Strategaeth Plant sy'n Derbyn Gofal) wedi cael eu craffu’n barhaus gan y pwyllgor, a gofynnodd yr aelodau am gael yr wybodaeth ddiweddaraf bob chwe mis er mwyn galluogi’r pwyllgor i barhau i fonitro perfformiad.

Bu’r pwyllgor yn adolygu adroddiadau ar gynllun gweithredu’r gweithlu, y pedwar cynllun gwasanaeth gofal cymdeithasol tymor canolig yn manylu ar asesiad o leoliad y gwasanaeth ar hyn o bryd a’r heriau presennol ynghyd â meysydd i’w gwella; ynghyd â’r Hyb Cymunedol aml-asiantaeth a oedd wedi darparu gwasanaeth hanfodol yn ystod cyfnod y pandemig.

Bu’r pwyllgor yn awyddus i gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y micro-fentrau a’r mentrau cymdeithasol ar draws y sir a oedd wedi datblygu yn ystod cyfnod y pandemig i ddarparu prosiectau gofal cymdeithasol gan weithio gyda’r trydydd sector.

 

Heriau’r dyfodol

Bydd darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol statudol craidd yn her gynyddol o ystyried y galw cynyddol, y boblogaeth gynyddol sy’n heneiddio, recriwtio a chadw staff a’r cyfyngiadau ariannol y mae’r cyngor yn gweithredu oddi tanynt. 

Bydd y pwyllgor yn parhau i graffu ar brosiectau amrywiol gan gynnwys y Fenter Cysylltu Bywydau, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth a chydweithio â chyngor iechyd a bwrdd iechyd Sir Benfro.

 



Hyfforddiant

Mae’n ofynnol i aelodau ymgymryd â hyfforddiant i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o waith yr awdurdod a’u rolau fel aelodau.

Mae cynllun hyfforddi wedi’i ddatblygu yn seiliedig ar yr hyn y dywedodd yr aelodau bod angen hyfforddiant arnynt i’w cynorthwyo i gyflawni eu rolau. Ategir hyn gan seminarau gwybodaeth ar bynciau yn ôl yr angen i gynorthwyo aelodau yn eu dealltwriaeth o faterion perthnasol.

Ym mis Medi 2023, cafodd pob aelod o bwyllgor craffu gyfle i ymgymryd â gweithdai a hwyluswyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a swyddogion gwasanaethau democrataidd i asesu a dangos pa mor effeithiol oedd ein trefniadau craffu a beth y gellid ei wneud i’w gwella.Archwiliodd y gweithdy cyntaf nodweddion craffu effeithiol; rôl a phwrpas craffu a’n hymagweddau at graffu. Bu’r ail weithdy yn edrych ar hunanwerthuso a thystiolaeth o ba mor effeithiol yw ein trefniadau craffu; myfyrio ar arferion unigol a phwyllgorau a nodi gwelliannau y gellid eu gwneud yn bersonol ac yn lleol.

Roedd yr aelodau hynny a ymgymerodd â’r gweithdai yn eu gweld yn hynod ddefnyddiol wrth ehangu eu dealltwriaeth o’r rôl a rhannu profiadau. Y meysydd allweddol a amlygwyd ar gyfer gwelliant oedd:

  • Pwysigrwydd cael agendâu â ffocws gyda’r eitemau cywir o fusnes wedi’u cynnwys, sy’n ychwanegu gwerth at waith yr awdurdod, gan gyfeirio at y Gofrestr Risgiau Corfforaethol a data perfformiad;
  • Rheoli’r agenda, peidio â gorlwytho eitemau ac osgoi eitemau i’w nodi;
  • Cynnal sesiynau blynyddol ar y flaenraglen waith er mwyn ystyried eitemau perthnasol ac adolygu pob cyfarfod i sicrhau eu bod yn dal yn briodol;
  • Ystyried y flaenraglen waith yn gynharach ar yr agenda;
  • Darparu argymhellion clir CAMPUS (cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol/synhwyrol);
  • Defnyddio ymweliadau safle / cynnal cyfarfodydd oddi ar y safle lle bo’n briodol i gael gwell dealltwriaeth o’r materion sy’n wynebu darparu gwasanaethau ar lawr gwlad;
  • Tystiolaeth o’r gwaith da a’r effaith yr oedd craffu yn ei chael.

 

Yn ogystal, mae aelodau wedi cael hyfforddiant ar y meysydd canlynol:

  • Rheoli eiddo ac asedau
  • Ymwybyddiaeth o we-rwydo
  • Seminar ar strategaethau rhianta corfforaethol, cyfrifoldeb corfforaethol a chadw teuluoedd gyda’i gilydd
  • Tai a diogelu’r cyhoedd – adroddiad blynyddol
  • Ymweliad safle i weld datblygiadau a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Cynllunio
  • Hyfforddiant twtio y Pwyllgor Cynllunio
  • Gweminar ar gyfer pŵer cymunedol
  • Hyfforddiant twtio y Pwyllgor Cynllunio
  • Cyfarfod y bwrdd iechyd gyda chynghorwyr Sir Benfro
  • Seminar i aelodau ar gludiant cyhoeddus a chludiant ysgol a thocynnau teithio rhatach
  • Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau – taith cwch ar yr aberoedd
  • Data 101 – cyflwyniad i ddeall a defnyddio data
  • Cod ymddygiad – gloywi
  • Deall a defnyddio data perfformiad
  • Rheoli’r trysorlys
  • Ataliadau ac adferiad cymunedol
  • Seminar i aelodau ar ansawdd dyfroedd afonol ac arfordirol gyda Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Adolygiad cymunedol a seminar polisi maint cynghorau (Comisiwn Ffiniau)
  • Siarad cyhoeddus / hwyluso – Cam 1 – Siarad yn hyderus
  • Rhan 1 Hyfforddiant Craffu – sgiliau craffu effeithiol
  • Cynllunio cyllideb – Cyllideb 2024-2025 
  • Rhan 2 Hyfforddiant Craffu – hunanwerthuso
  • Strategaeth gweithlu ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol
  • Hyfforddiant cynllunio a thrwyddedu
  • Strategaeth gaffael newydd
  • Seminar gorfodaeth cynllunio
  • Datblygiad Brynhir – briffio aelodau
  • Cyfansoddiad newydd
  • Seminar cyllideb
  • Seminar i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y porthladdoedd rhydd
  • Cyflwyniad Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Beth y mae pŵer cymunedol yn ei olygu i gynghorwyr yn Sir Benfro?
  • Hyfforddiant modelwr cyllideb
  • Seminar gosod rhent tai cyngor
  • Hyfforddiant modelwr cyllideb
  • Seminar strategaeth drafnidiaeth
  • Seminar cyllid gwasanaethau cymdeithasol
  • Cyflwyniad gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru ar y broses Apeliadau Cynllunio
  • Seminar cyllideb – cyllideb ddrafft amlinellol 2024-2025 ac amlinelliad o Gynllun Ariannol Tymor Canolig drafft 2024-2025 i 2027-2028 
  • Seminar i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Bwrdd Cynghori ar Gynaliadwyedd
  • Seminar cyllideb
  • Y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant – dyletswyddau'r awdurdod
  • Hyfforddiant llywodraethu – dilyniant
  • Seminar cyllideb
  • Cyflwyniad Max Caller
  • Hyfforddiant gwrth-hiliaeth
  • Rhaglen Datblygu Tai Aberdaugleddau – briffio aelodau lleol
  • Seminar ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Diogelu – gloywi
  • Adolygu polisi dyrannu cartrefi dewisedig drafft – gweithdy aelodau
  • Gweithdy aelodau 2 – adolygu polisi dyrannu cartrefi dewisedig
  • Briffio aelodau’r Rhaglen Datblygu Tai Cyngor
  • Briffio aelodau – Datblygiad Brynhir

 



Ymgysylltu â’r cyhoedd

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn elfen hanfodol o graffu effeithiol gan ei fod yn galluogi ‘llais’ pobl a chymunedau lleol i gael ei glywed fel rhan o’r prosesau o wneud penderfyniadau a llunio polisi.  

Fel y dywedasom yn adroddiad blynyddol y llynedd, mae’r tîm wedi bod yn cynnal sgyrsiau wedi’u targedu gyda chefnogaeth y Tîm Cyfathrebu i hysbysu’r cyhoedd am bynciau craffu i wella ymgysylltiad i gydnabod y manteision a ddaw yn sgil safbwyntiau ehangach.  Datblygwyd strategaeth gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o'r broses trosolwg a chraffu ac i ymgysylltu'n well â'r cyhoedd mewn gweithgarwch craffu.

Ers dechrau'r flwyddyn, mae'r Tîm Gwasanaethau Democrataidd wedi bod yn postio eitemau o gyfarfodydd sydd i ddod ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhagweithiol i annog aelodau'r cyhoedd i gyflwyno cwestiynau neu awgrymu pynciau y mae angen eu hystyried yn fwy manwl.

Ar ddechrau pob cylch rhennir postiad yn amlinellu'r prif bynciau y bydd pob un o'r pwyllgorau trosolwg a chraffu yn eu hystyried.

 

Testun cysylltiedig:

Wrth i’r cyngor ystyried ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod, mae ein pwyllgorau trosolwg a chraffu yn brysur yn ymbaratoi ar gyfer y cylch nesaf o gyfarfodydd 

Mae'r pwyllgorau'n awyddus i ymchwilio i'r materion neu'r diddordebau a allai fod o bryder i chi neu'ch cymuned 

Mae rhai o’r meysydd sy’n cael eu harchwilio y tro hwn yn cynnwys:

  • Gofalwyr a’r argyfwng costau byw
  • Cost datgarboneiddio stoc tai’r cyngor 
  • Adolygu ysgolion mewn trafferthion ariannol
  • Statws llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd y sir a sut y gellir eu gwella
  • Mae arbrawf ‘Carafaros’ yn caniatáu i ddefnyddwyr cartrefi modur a faniau gwersylla barcio a chysgu ym mhedwar maes parcio’r cyngor 

Unwaith y bydd yr agenda wedi'i chyhoeddi, rhennir neges arall ar sut i wylio'r gweddarllediad a nodyn atgoffa pellach ar sut i gyflwyno cwestiwn neu syniad.  Isod mae enghraifft o’r postiad ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau ym mis Mawrth.

 

Testun cysylltiedig:

Mewn newid i’w flaenraglen waith, mae Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau’r Cyngor yn cyfarfod ddydd Mawrth (26 Mawrth) a bydd yn casglu tystiolaeth ar faterion sy’n effeithio ar bobl leol.

Mae'r agenda yn cynnwys atgyfeirio deiseb a chyflwyniad a wnaed i'r cyngor llawn ar Safle Tirlenwi Withyhedge yn ogystal â galwad i mewn gan aelodau ar ddyfarniad tendr cam 2 pont droed Hwlffordd a Glan Cei'r Gorllewin a’r wybodaeth ddiweddaraf ar Faes Awyr Hwlffordd. Gallwch weld yr agenda lawn yma

 

Byddwn yn ffrydio'r cyfarfod yn fyw o 10am a gallwch wylio ar-lein

Mae Safle Tirlenwi Withyhedge i’w drafod o 2pm y diwrnod hwnnw.

 

Mae’n ddyddiau cynnar o ran faint o effaith y mae negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn ei chael ar ymgysylltu â’r cyhoedd, ond fel tîm rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo gwaith y pwyllgorau gyda chefnogaeth y cadeiryddion a’r is-gadeiryddion.

Bu cynnydd mewn gohebiaeth gyhoeddus a chyflwyniadau a ddaeth i law eleni, yn enwedig ar gyfer materion dadleuol megis Safle Tirlenwi Withyhedge pan fu’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau yn trafod y ddeiseb a gyflwynwyd gan y trigolion. Y canlyniad oedd gwneud nifer o argymhellion yn ôl i'r cyngor.  Denodd y cyfarfod hwnnw hefyd y lefel uchaf o wylwyr ar draws yr holl bwyllgorau.

Yn ogystal, cafodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol lythyr yn mynegi cefnogaeth i hysbysiad o gynnig yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd. Y canlyniad oedd bod yr hysbysiad o gynnig wedi'i gefnogi a'i atgyfeirio'n ôl i'r cyngor llawn.

Dangosodd dadansoddiad o weithgarwch ar dudalennau gwe’r ddemocratiaeth ar gyfer cyfnod yr adroddiad y bu 119 o dagiau (yn crybwyll rhywun mewn postiad), a oedd yn gynnydd o 422% dros y 12 mis blaenorol; gyda 119 o bobl yn cael y tagiau hyn; 129,195 o argraffiadau (rhywun yn edrych ar y postiad ar ei sgrin), a oedd yn gynnydd o 456% dros y 12 mis blaenorol; a 5,091 yn ymgysylltu â phostiadau, a oedd yn gynnydd o 356%. 

 



Cymryd rhan

Mae ymgysylltu â dinasyddion yn elfen hanfodol o graffu effeithiol gan ei fod yn galluogi ‘llais’ pobl a chymunedau lleol i gael ei glywed fel rhan o’r prosesau o wneud penderfyniadau a llunio polisi.  

Mae yna nifer o ffyrdd y gall pobl sy’n byw ac yn gweithio yn y sir gymryd rhan.  Mae blaenraglenni gwaith ar gael ar dudalennau Trosolwg a Chraffu gwefan y cyngor a chânt yr wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn pob rownd o gyfarfodydd pwyllgor fel bod aelodau’r cyhoedd yn cael gwybod am waith y pwyllgor.  Gall preswylwyr ddod â barn ar unrhyw bwnc sy’n cael ei ystyried gan y pwyllgorau craffu i sylw pwyllgor.  

Mae ffurflenni ar gael ar y wefan i alluogi pobl i gyflwyno eu barn ar unrhyw fater sydd eisoes i'w ystyried gan bwyllgor, neu i awgrymu pynciau i'w hystyried gan bwyllgor. Mae protocol ar gyfer siarad gerbron pwyllgor hefyd ar gael i'r rhai a wahoddir i fod yn bresennol i gyflwyno’u barn. 

 

Cysylltwch â thîm y Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu os hoffech gael gwybod mwy:

Susan Sanders

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

01437 775719

Susan.sanders@pembrokeshire.gov.uk

Democraticservices@pembrokeshire.gov.uk

 

ID: 8539, adolygwyd 04/03/2025