Trosolwg a Chraffu

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2022-2023

Mae Craffu’n darparu cyfleoedd i aelodau’r cyhoedd ymwneud â gwaith y Cyngor

Adolygiad y Cadeiryddion

Trosolwg a Chraffu yn Sir Benfro

Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dys

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol

Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn Penderfynu

Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol

Edrych ymlaen at 2023-2024

Arolwg Aelodau

Tîm Cymorth Democrataidd a Chraffu

 

Adolygiad y Cadeiryddion

Croeso i Adroddiad Craffu Blynyddol Cyngor Sir Penfro sy'n amlygu gwaith ein pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystod 2022-2023.  Mae'r broses Drosolwg a Chraffu yn rhan hanfodol o strwythur democrataidd a fframwaith llywodraethu'r Cyngor. Mae’n chwarae rhan allweddol wrth graffu ar gyflenwi a pherfformiad gwasanaethau’r Cyngor a dwyn y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif drwy ddull sy’n seiliedig ar bwyso cadarnhaol a herio adeiladol. 

Mae craffu ar themâu bellach yn rhan annatod o raglenni gwaith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i gefnogi cyflawni amcanion y Cyngor yn effeithiol fel y’u nodir yn y Cynllun Corfforaethol.  Mae’r Pwyllgorau yn cydnabod y pwysau parhaus sydd ar wasanaethau ac yn awyddus i’w rheoli’n ofalus trwy lunio adolygiadau i gefnogi gweithgarwch gwasanaethau.

Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Mehefin 2022 a mis Mawrth 2023.  Yn ystod y cyfnod hwn cynhaliwyd cyfarfodydd drwy gyfrwng cyfarfodydd hybrid gyda rhai wedi’u cynnal yn gyfan gwbl o bell sydd wedi galluogi lefelau parhaus o ymgysylltu gan yr Aelodau ac i arbenigwyr eu mynychu.   

Fel carfan newydd o Gadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu rydym wedi cyfarfod yn anffurfiol â’n His-gadeiryddion, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yr Hyrwyddwr Craffu a Gwasanaethau Democrataidd ar ôl pob cylch o gyfarfodydd i adfyfyrio a hunanwerthuso perfformiad pob Pwyllgor, ac mae hyn wedi bod yn gymorth gwych i ni yn ein rôl fel Cadeiryddion.

Defnyddiwyd cyfathrebu wedi’i dargedu i hysbysu’r cyhoedd o bynciau craffu i wella ymgysylltu wrth gydnabod y manteision a ddaw o glywed safbwyntiau ehangach.  Bydd hyn yn parhau ar gyfer pob cyfarfod yn y dyfodol. Er mai nifer cyfyngedig o gyflwyniadau a gafwyd gan y cyhoedd yn ystod cyfnod yr adroddiad, bu cynnydd sylweddol yn y niferoedd yn gwylio’r gweddarllediadau ar ôl i ni rannu’r dolenni i’r cyfarfodydd Craffu.

Hoffem ddiolch i'r Aelodau etholedig a chyfetholedig am eu cyfraniadau a'u hymrwymiad wrth graffu ar berfformiad a pholisïau’r Awdurdod.  Hoffem hefyd achub ar y cyfle i ddiolch i Wasanaethau Democrataidd, y Cyfarwyddwyr, y Swyddogion a’r Aelodau Cabinet am eu mewnbwn a’u proffesiynoldeb wrth gefnogi gwaith pob un o’r Pwyllgorau.

Fel Cadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu rydym yn cydnabod y cyfrifoldeb a rannwn i weithio gyda’n gilydd i gryfhau trefniadau llywodraethu’r Cyngor drwy ddarparu craffu sy’n ychwanegu gwerth.  Rydym yn gobeithio parhau i ddangos ymrwymiad ar y cyd i ganolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i drigolion Sir Benfro.

 

Trosolwg a Chraffu yn Sir Benfro

Mae Trosolwg a Chraffu yn elfen allweddol o fframwaith llywodraethu a democrataidd Cyngor Sir Penfro.  Ei rôl yw helpu i lunio a datblygu polisi, nodi a herio tanberfformio, cryfhau'r broses o wneud penderfyniadau a dwyn y Weithrediaeth i gyfrif am y penderfyniadau a wneir ganddi. Mae’n gyffredin meddwl am Graffu fel ‘cyfaill beirniadol’, a thrwy herio adeiladol a chefnogaeth mae’n ceisio rhoi sicrwydd i bobl am y camau a’r penderfyniadau y mae’r Cyngor yn eu cymryd.  

Mae Trosolwg a Chraffu yn ofyniad deddfwriaethol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a gyflwynodd newidiadau mawr i'r ffordd y mae Cynghorau yn gwneud penderfyniadau. Bu’r Ddeddf yn galluogi Cynghorau i gyflwyno strwythurau gwleidyddol newydd, gan gynnwys un sy’n cynnwys model Arweinydd a Chabinet (y Weithrediaeth) a Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu.  

Mae'r Pwyllgor Gwaith yn gyfrifol am wneud penderfyniadau allweddol ynghylch gwasanaethau yn unol â’r polisïau a fabwysiadwyd gan y Cyngor.  Mae'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn monitro perfformiad, yn cyfrannu at ddatblygu polisïau ac yn adolygu ac yn ymchwilio i faterion sy’n effeithio ar y Sir a’i thrigolion.  Swyddogaeth arall y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yw cydbwyso pwerau'r Weithrediaeth, os oes angen, drwy ddwyn y Weithrediaeth i gyfrif drwy archwilio a chwestiynu eu penderfyniadau. Yn syml, mae swyddogaeth Craffu yn caniatáu i Aelodau Anweithredol ddylanwadu ar sut y gall y rhai sy’n gwneud penderfyniadau weithio’n fwy effeithiol dros y bobl y maent yn eu gwasanaethu.  

Mae Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn gyfrifol am ddatblygu eu rhaglenni gwaith eu hunain ac fe'u hanogir i fabwysiadu dull blaenoriaethol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy’n seiliedig ar risg wrth ymdrin â’r pynciau y maent yn penderfynu craffu arnynt. Mae'n bwysig nodi na all Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wneud penderfyniadau; dim ond argymell.  Mater i'r Weithrediaeth yw penderfynu a ddylid derbyn argymhellion a wneir gan Bwyllgor ai peidio.

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn rhoi trosolwg o waith pob un o'r pum Pwyllgor dros y 12 mis diwethaf ac yn amlygu rhai o’r arferion da a’r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd, yn ogystal â nodi rhai o’r heriau y mae’r Pwyllgorau yn eu hwynebu. 

Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dys

Rôl a chylch gwaith

Rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu yw adolygu a chraffu ar wasanaethau a ddarperir i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc, cymorth ieuenctid a gwasanaethau cymunedol eraill gan gynnwys Dysgu Oedolion, a chefnogi codi safonau a chanlyniadau addysgol i ddysgwyr.  

Mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor yn cynnwys y canlynol:

  • Canlyniadau addysgol ar gyfer pob oedran, yn enwedig yng Nghyfnod Allweddol 4
  • Categoreiddio ysgolion
  • Cymorth i ysgolion drwy Weithio’n Rhanbarthol
  • Ysgolion Unigol (drwy Banel Craffu Ysgolion)
  • Gwasanaethau Cynhwysiant
  • Cymorth ieuenctid a gwasanaethau cymunedol eraill
  • Dysgu, sgiliau a hyfforddiant Ôl-16 
  • Gwasanaeth Cerddoriaeth
  • Datblygu Chwaraeon
  • Llais a chyfranogiad plant
  • Trefniadau ariannol mewn perthynas ag ysgolion a dysgu
  • Diogelu mewn Addysg

 

Aelodaeth a Phresenoldeb

Mae gan y Pwyllgor 13 o Aelodau a 4  aelod cyfetholedig statudol. Ym mis Mawrth 2023, roedd yr Aelodaeth fel a ganlyn:

Y Cynghorydd  Huw Murphy, Cadeirydd (Annibynnol)

Y Cynghorydd  Pat Davies, Is-gadeirydd (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Maureen Bowen (Llafur)

Y Cynghorydd  Alistair Cameron (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)

Y Cynghorydd  David Howlett (Ceidwadwyr Cymreig)

Y Cynghorydd  Rhys Jordan (Ceidwadwyr Cymreig)

Y Cynghorydd  Mel Phillips (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Bethan Price (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Sam Skyrme-Blackhall (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Mike Stoddart (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Marc Tierney (Llafur)

Y Cynghorydd  Anji Tinley (Annibynnol)

Y Cynghorydd  Iwan Ward (Annibynnol)

Y Cynghorydd  Viv Stoddart (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp) – Aelod Wrth Gefn

 

Aelodau cyfetholedig:

Y Parch. John Cecil (Cynrychiolydd Yr Eglwys yng Nghymru)

Mrs Alison Kavanagh (Cynrychiolydd Rhiant-lywodraethwr)

Mr Tom Moses (Cynrychiolydd Rhiant-lywodraethwr)

Roedd presenoldeb yr Aelodau yng Nghyfarfodydd y Pwyllgor hwn yn 90.8%.

 

Gwaith y pwyllgor yn 2022 - 23

Mae’r Pwyllgor wedi craffu ar amrywiaeth ac ystod eang o bynciau sy’n ymwneud ag ysgolion yn ystod 2022-23. Yn ystod y cyfnod hwn, cynhaliodd y Pwyllgor ei adolygiadau blynyddol mewn perthynas ag Effeithiolrwydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer darparu Addysg Ôl-16 yn Sir Benfro, Chwythu’r Chwiban mewn Ysgolion, a’r Archwiliad Diogelu Adran 175. Yn dilyn goruchwylio’r Archwiliad Diogelu, bu’r Pwyllgor yn craffu ar y Cynllun Gweithredu Diogelu cysylltiedig ac yn cytuno i wneud hyn yn flynyddol i sicrhau bod y camau diogelu digonol, sy’n ofynnol i ysgolion Sir Benfro a’r Awdurdod Lleol eu cymryd, yn digwydd.

Rhoddwyd ystyriaeth i weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, lle bu’r Pwyllgor yn craffu ar y cymorth a’r trefniadau adnoddau parhaus sydd eu hangen i gefnogi ysgolion dros gyfnod pontio tair blynedd ei rhoi ar waith.

Yn rhan o bryderon parhaus, ac yn dilyn penderfyniad blaenorol gan y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru, craffwyd ar ddarpariaethau Addysg Ddewisol yn y Cartref i sicrhau bod trefniadau cymorth lleol yn ddigonol, er nad oedd unrhyw newid yn safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r fframwaith deddfwriaethol.

Drwy gydol y flwyddyn, bu’r Pwyllgor yn craffu ar y canlynol:

 

Mehefin 2022

  • Adolygiad blynyddol o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer darparu Addysg Ôl-16 yn Sir Benfro
  • Archwiliad Diogelu Adran 175 2021-22
  • Addysg Ddewisol yn y Cartref yn Sir Benfro
  • Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
  • Blaenoriaethau Gwella Addysg a Diweddariadau’r Cynllun Cyfarwyddiaeth
  • Diweddariad Partneriaeth

Hydref 2022

  • Diweddariad Cynllun Gweithredu Estyn
  • Polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Trefniadau Aelodaeth ar gyfer y Panel Craffu Ysgolion
  • Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2021-22
  • Cynnig Rhaglen Gyfalaf - Ysgol Bro Penfro (galw i mewn)

Tachwedd 2022

  • Diweddariad Cynllun Gweithredu Estyn (ôl-ymweliad)
  • Archwiliad Diogelu Adran 175 2021-22
  • Cyrhaeddiad Addysgol Ysgolion Bach a Gwledig

Chwefror 2023

  • Diweddariad Ysgol Maenorbŷr
  • Diweddariad Adolygu Cyllid Fformiwla
  • Adroddiadau Arolygon Ysgolion Estyn
  • Adroddiad Blynyddol Chwythu’r Chwiban mewn Ysgolion
  • Adroddiad Monitro’r Panel Craffu Ysgolion – Canolfan Ddysgu Sir Benfro
  • Cyllideb Cyngor Sir Ddrafft Amlinellol ar gyfer 2023-24 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig Drafft Amlinellol am y cyfnod rhwng 2023-24 a 2026-27 / Setliad Llywodraeth Leol Dros dro ar gyfer 2023-24

Ebrill 2023

  • Diweddariad Ysgol Maenorbŷr
  • Data Presenoldeb Ysgolion
  • Dysgu Oedolion a’r Gymuned a Darpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid
  • Craffu ar ddarparwyr addysg allanol
  • Diweddariad ar y Cwricwlwm gan gynnwys Dysgu o fewn yr Archwiliad Darpariaeth Awyr Agored
  • Adroddiad Monitro’r Panel Craffu Ysgolion - Ysgol Y Preseli

Pa wahaniaeth wnaeth y Pwyllgor?

Yn dilyn galw i mewn penderfyniad gan y Cabinet mewn perthynas â Chynnig Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Ysgol Bro Penfro, bu’r Pwyllgor Ysgolion a Dysgu yn craffu’n effeithiol ar y penderfyniad ac yn dod i’r casgliad i gadarnhau’r penderfyniad.

Bu craffu rheolaidd ar Flaenoriaethau Gwella Addysg a’r Cynllun Cyfarwyddiaeth i sicrhau parhau â chynnydd sicr a chynaliadwy yn dilyn penderfyniad Estyn i dynnu’r Awdurdod o’r categori dilynol ‘yn peri pryder sylweddol’, ar ôl ei ddynodi felly yn 2019.

Ailddechreuwyd gwaith y Panel Craffu ar Ysgolion, gydag ymweliadau â dwy ysgol yn y cyfnod hwn, gyda nifer o argymhellion yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor yn amlygu meysydd o bryder a ffyrdd y gallai’r Awdurdod roi cymorth pellach i’r ysgolion.

Bu’r Pwyllgor yn craffu ymhellach ar yr adolygiad cyfredol o fethodoleg Cyllido Fformiwla Ysgolion ac yn ceisio sicrwydd ei fod yn cael ei gynnal mewn ymgynghoriad â’r holl randdeiliaid ac y byddai adroddiadau pellach ar gynnydd yr adolygiad yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor mewn fformat hawdd ei ddarllen, cyn gwneud penderfyniadau terfynol.

Bu goruchwylio o’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg drafft, gyda’r Pwyllgor yn dod i’r casgliad o argymell y Cabinet i gymeradwyo’r cynllun am y cyfnod 2022 -2031 a’i adolygu’n flynyddol fel dogfen weithio.

 

Heriau’r dyfodol

Yn y flwyddyn i ddod, bydd y Pwyllgor yn parhau i graffu ar feysydd sy’n peri her a bydd y rhain yn debygol o gynnwys pwysau parhaus ar gyllidebau, recriwtio a chadw staff addysgu, pwysau sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm Newydd a chyrhaeddiad addysgol ysgolion bach a gwledig.

Trwy raglennu gwaith a goruchwylio canlyniadau addysgol a data perthnasol eraill, bydd y Pwyllgor yn parhau i roi sicrwydd bod goruchwylio priodol gan Aelodau a herio perfformiad ysgolion, safonau addysgol a chanlyniadau ar gyfer pob dysgwr a sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei ddarparu i Ysgolion Sir Benfro gan Partneriaeth (Y corff rhanbarthol ar gyfer Gwasanaethau Gwella Addysg).

Yn dilyn tân mawr yn Ysgol Gynradd Maenorbŷr ym mis Hydref 2022, bydd y Pwyllgor yn parhau i dderbyn diweddariadau ynghylch y mater cyfredol i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i alluogi i’r ysgol ailagor yn llawn erbyn mis Medi 2024.

Bydd ystyriaeth barhaus o raglen waith y Pwyllgor yn rhoi sicrwydd o graffu ymroddedig ac effeithiol ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond er mwyn sicrhau bod craffu yn ystyrlon ac yn hylaw, mae'n bwysig bod y Pwyllgor yn nodi pynciau craffu priodol drwy ddull blaenoriaethol sy'n seiliedig ar risg.



Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol

Rôl a chylch gwaith

Rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yw adolygu a chraffu ar swyddogaethau corfforaethol a gwasanaethau cymorth ac mae ei gwmpas yn cynnwys goruchwylio cyfeiriad strategol cyffredinol, polisïau, cynlluniau a blaenoriaethau'r Cabinet a'r Cyngor (ar ôl i benderfyniadau cael eu gwneud) a monitro gweithredu’r rhain fel y bo’n briodol.

Mae cwmpas y Pwyllgor hefyd yn cynnwys craffu ar wasanaethau cymorth corfforaethol drwy ddull sy'n seiliedig ar risg gan ddefnyddio gwybodaeth reoli berthnasol megis Cynlluniau Trawsnewid Gwasanaethau, mesuriadau perfformiad, risg busnes ac adroddiadau arolygu / rheoleiddio allanol. Mae cylch gwaith y Pwyllgor yn benodol yn cwmpasu’r canlynol:

 

Swyddogaethau corfforaethol:

  • Swydd yr Arweinydd
  • Adroddiadau blynyddol Aelodau’r Cabinet
  • Y Prif Weithredwr
  • Monitro cyllidebau
  • Monitro perfformiad corfforaethol
  • Cynllunio corfforaethol
  • Adroddiadau corfforaethol Archwilio Cymru
  • Diogelu corfforaethol 
  • Y Gymraeg
  • Rheoli risg
  • Chwythu’r chwiban
  • Rheoli’r Rhaglen Trawsnewid
  • Rheoli’r Rhaglen Bargen Ddinesig

 

Gwasanaethau corfforaethol:

  • Y Gyfraith a Llywodraethu
  • Gwasanaethau Etholiadol 
  • Adnoddau Dynol
  • Gwasanaethau i Gwsmeriaid
  • Archwilio, Risg a Gwybodaeth
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Cyfathrebu Corfforaethol, y Wasg, Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata
  • Gwasanaethau Ariannol (Gan gynnwys Refeniw a Buddion a Chaffael)
  • Polisi a Phartneriaeth Gorfforaethol

Aelodaeth a Phresenoldeb

Roedd aelodaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ym mis Mawrth 2023 fel a ganlyn:

Y Cynghorydd Michael John, Cadeirydd (Annibynnol)

Y Cynghorydd Mike Stoddart, Is-gadeirydd (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp) ers 23 March 2023

Y Cynghorydd Steve Alderman (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd Alan Dennison (Annibynnol) bu’n Is-gadeirydd tan 23 March 2023

Y Cynghorydd Andrew Edwards (Ceidwadwyr Cymreig)

Y Cynghorydd Jonathan Grimes (Ceidwadwyr Cymreig)

Y Cynghorydd Simon Hancock (Llafur)

Y Cynghorydd Mike James (Annibynnol)

Y Cynghorydd Bethan Price (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd Thomas Tudor (Llafur)

Y Cynghorydd Jacob Williams (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd Michael Williams (Plaid Cymru)

 

Roedd presenoldeb yr Aelodau yng Nghyfarfodydd y Pwyllgor hwn yn 93.4%

 

Gwaith y Pwyllgor yn 2022-23

Mae rhaglen waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn cael ei hysgogi i raddau helaeth gan yr amserlen gynllunio gorfforaethol ac ariannol, adolygiad o ganlyniadau’r gyllideb a pherfformiad, a gan y gwaith o ddatblygu amcanion a blaenoriaethau strategol y Cyngor fel y’u nodir yn y Cynllun Corfforaethol.  Mae gan y Pwyllgor rôl wrth gefnogi creu a chyflawni amcanion llesiant yr Awdurdod sy’n crynhoi blaenoriaethau’r sefydliad sy’n deillio o’r Rhaglen Weinyddu ac a fydd yn darparu’r fframwaith ar gyfer datblygu Strategaeth Gorfforaethol newydd ar gyfer 2023-28.

Mae gan y Pwyllgor rôl allweddol hefyd wrth oruchwylio materion diogelu corfforaethol a Safonau’r Gymraeg.

Mae'r Pwyllgor yn goruchwylio nifer o bartneriaethau strategol sy'n cynnwys Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Chyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru a gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol drwy Banel Partneriaethau sefydlog sy’n cynnwys Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion pob un o’r pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

Yn gyffredinol, mae’r Pwyllgor yn canolbwyntio ar bolisïau corfforaethol a rheoli ariannol yr Awdurdod ac felly mae pwyslais cryf yng ngwaith y Pwyllgor ar adolygu perfformiad ariannol y gorffennol a chraffu ar gynigion sy’n cael eu datblygu ynghylch trefniadau cynllunio corfforaethol strategol allweddol.  Wrth wneud hynny, mae’r Pwyllgor yn rhoi sicrwydd bod y Cyngor yn parhau i ddarparu gwerth am arian i drigolion Sir Benfro o fewn y gyllideb, a’i fod yn cyflawni ei gyfrifoldebau corfforaethol statudol craidd.

 

Drwy gydol y flwyddyn, bu’r Pwyllgor yn craffu ar y canlynol:

Mehefin 2022

  • Adroddiad Monitro Misol Mesur Perfformiad ar gyfer Ebrill 2022
  • Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2021 – 22
  • Hysbysiad o Gynnig yn ymwneud â Gŵyl Banc Dydd Gŵyl Dewi

 

Hydref 2022

  • Wedi’i Atgyfeirio gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio – Risg Busnes Strategol 'Cadernid Ariannol'
  • Cyllideb y Cyngor Sir – Adroddiad Monitro Alldro 2021-22
  • Cyllideb y Cyngor Sir – Adroddiad Monitro’r Gyllideb - Cyfnod 4 (Gorffennaf) 2022-23
  • Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2021-22
  • Yr Adroddiad Hunanasesiad Corfforaethol Blynyddol

Tachwedd 2022

  • Gwasanaethau Corfforaethol -  Y Gyfraith a Llywodraethu
  • Adolygu Dysgu Sefydliadol - Dilyniant
  • Partneriaethau Strategol – Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Chyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru

Ionawr 2023

  • Rhaglen Prosiectau Cyfalaf
  • Adroddiad Monitro’r Gyllideb 2022-23
  • Cerdyn Sgorio Corfforaethol – Data Perfformiad Misol
  • Amcanion Llesiant Drafft 2023 – 2028
  • Cyllideb Cyngor Sir Ddrafft Amlinellol ar gyfer 2023-24 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig Drafft Amlinellol am y cyfnod rhwng 2023-24 a 2026-27 / Setliad Llywodraeth Leol Dros dro ar gyfer 2023-24

Mawrth 2023

  • Seiberddiogelwch
  • Adroddiad Blynyddol Grŵp Diogelu Awdurdod Cyfan Cyngor Sir Penfro 2021-22
  • Partneriaeth Strategol – Panel Partneriaethau

 

Pa wahaniaeth wnaeth y Pwyllgor? 

Parhaodd y Pwyllgor i graffu ar feysydd gwasanaethau corfforaethol unigol, ac eleni canolbwyntiodd ar y Gyfraith a Llywodraethu. Roedd hyn yn galluogi’r Aelodau craffu i daflu goleuni ar faes y sefydliad a welodd cryn newidiadau, ar ôl colli cymaint o brofiad o’r tîm, ac yn rhoi cyfle i’r Aelodau weld sut y byddai’r gwasanaeth yn gweithredu yn y dyfodol.

Bu’r Pwyllgor yn chwarae rhan bwysig wrth graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’i bartneriaid mewn perthynas ag arfer ar y cyd y swyddogaethau a roddwyd iddynt fel Aelodau o’r Bwrdd.  Yn dilyn craffu ar Gynllun Llesiant drafft y BGC, bu’r panel yn crynhoi ymateb ar y cyd i’r ymgynghoriad statudol.

Yn dilyn ei atgyfeirio gan y Pwyllgor Llywodraethu mewn perthynas â Chadernid Ariannol, ystyriodd y Pwyllgor y Risg Busnes Strategol a’r mesurau rheoli risg ac er ei fod yn rhannu pryderon y Pwyllgor a’i atgyfeiriodd, derbyniodd y Pwyllgor y byddai’r risg busnes strategol yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru’n barhaus.

Wrth ystyried Hysbysiad o Gynnig mewn perthynas â dynodi Dydd Gŵyl Dewi yn Ŵyl y Banc, argymhellodd y Pwyllgor i’r Cyngor na ddylid mabwysiadu’r Hysbysiad o Gynnig ond i’r Awdurdod roi pwysau ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ystyried dynodi Dydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod o ŵyl yng Nghymru.

Mae seiberddiogelwch yn parhau i fod yn risg sylweddol i’r Awdurdod a pharhaodd y Pwyllgor i wylio er mwyn sicrhau bod mesurau rheoli risg ar waith ac yn cael eu monitro i roi sicrwydd bod systemau TG yn gadarn.

 

Heriau’r dyfodol  

Mae’r pwysau ariannol ar yr Awdurdod yn parhau fel y maent ers sawl blwyddyn ac maent bellach yn cynyddu, felly dros y 12 mis nesaf bydd y Pwyllgor yn ymgymryd â gwaith craffu penodol mewn perthynas â’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Gyfalaf a’r posibilrwydd realistig o allu cyflawni’r rhaglen wrth fynd ymlaen, ac yn craffu hefyd ar gynaliadwyedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.  

Mae recriwtio a chadw staff mewn ystod eang o feysydd gwasanaeth yn parhau i fod yn her sylweddol gydag amrywiaeth o ffactorau yn gyfrifol am hyn, ac er bod rhai ohonynt yn berthnasol i’r economi gyfan, mae cyflogau o’u cymharu ag Awdurdodau a sefydliadau eraill yn ffactor. Mae angen i’r Pwyllgor roi sicrwydd bod cyfrifoldebau corfforaethol statudol yn cael eu cyflawni ac nad yw dileu swyddi yn unol â phwysau ar y gyllideb yn cael effaith andwyol ar weithrediadau.

Mae'n hanfodol parhau i graffu’n rheolaidd ar ddata perfformiad er mwyn sicrhau nodi materion sydd angen ymyrraeth o ran perfformiad meysydd allweddol, a mynd i’r afael â nhw mewn modd amserol.

Bydd sesiynau anffurfiol y Pwyllgor yn parhau i gael eu cynnal i drafod blaenraglen waith y Pwyllgor i sicrhau ei bod yn ddeinamig ac yn dal unrhyw feysydd sy’n peri pryder yn brydlon.

 

 

Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau

Rôl a chylch gwaith

Mae'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau yn adolygu gwasanaethau a gyflenwir gan y Cyngor i'w gwsmeriaid. Er mwyn penderfynu ar ei flaenoriaethau mae’r Pwyllgor yn asesu ansawdd a pherfformiad gwasanaethau’r Cyngor gan ddefnyddio ystod o wybodaeth reoli gan gynnwys Cynlluniau Trawsnewid Gwasanaethau, mesuriadau perfformiad, risg busnes ac adroddiadau arolygu / rheoleiddio allanol.   

Yn benodol, mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor yn cynnwys gwasanaethau canlynol y Cyngor (a’r adrannau o fewn y rhain):

  • Seilwaith
  • Yr Amgylchedd ac Argyfyngau Sifil
  • Tai
  • Cynnal a Chadw Adeiladau
  • Cynllunio 
  • Eiddo
  • Amddiffyn y Cyhoedd
  • Datblygu Economaidd ac Adfywio 
  • Gwasanaethau Diwylliannol
  • Gwasanaethau Hamdden

 

Aelodaeth a Phresenoldeb

Roedd aelodaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau ym mis Mawrth 2023 fel a ganlyn:

Y Cynghorydd  Mark Carter, Cadeirydd (Ceidwadwyr Cymreig)

Y Cynghorydd  Chris Williams, Is-gadeirydd (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Steve Alderman (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Di Clements (Ceidwadwyr Cymreig)

Y Cynghorydd  Alan Dennison (Annibynnol)

Y Cynghorydd  Tim Evans (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Brian Hall (Annibynnol)

Y Cynghorydd  Rhys Jordan (Ceidwadwyr Cymreig)

Y Cynghorydd  Shon Rees (Annibynnol)

Y Cynghorydd  Viv Stoddart (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Thomas Tudor (Llafur)

Y Cynghorydd  Tony Wilcox (Llafur)

Y Cynghorydd  Mike Stoddart (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp) – Aelod Wrth Gefn 

Roedd presenoldeb yr Aelodau yng Nghyfarfodydd y Pwyllgor hwn yn 93.6%

 

Gwaith y Pwyllgor yn 2022-23

Mae datblygu Blaenraglen Waith y Pwyllgor yn cael ei lywio gan Aelodau’r Pwyllgor yn defnyddio data perfformiad ac ystod o wybodaeth reoli sy’n ymwneud â sut y mae gwasanaethau a thimau unigol yn cyflawni eu hamcanion a’u blaenoriaethau allweddol.  Mae hyn yn caniatáu i’r Pwyllgor a Swyddogion flaenoriaethu adrodd ar ychwanegu gwerth i waith y Cyngor a’r Swyddogion a darparu adborth a chymorth.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Aelodaeth y Pwyllgor wedi newid yn sgil etholiadau mis Mai 2022 a arweiniodd at newid wyth Aelod o'r Pwyllgor gan gynnwys Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd yn ogystal â chyflwyno Aelod Wrth Gefn.        

Mae’r Pwyllgor Gwasanaethau wedi cadw’r canolbwynt cryf ar graffu’n rheolaidd ar weithgarwch sy’n deillio o’r digwyddiad llifogydd a fu yn Lower Priory a Haven’s Head ym mis Tachwedd 2018.

Trwy edrych ar berfformiad gwasanaethau dros sawl mis, nododd y Pwyllgor ystod o wasanaethau neu feysydd gwasanaeth penodol i’w craffu a gofynnodd i’r rhain gael eu dwyn gerbron y Pwyllgor, fel a ganlyn:

Mehefin 2022

  • Diweddariad Atal Llifogydd yn Havens Head

Medi 2022

  • Cyflenwi’r Gwasanaeth Cynllunio
  • Diweddariad gorfodi
  • Adroddiad y Swyddogaeth Hamdden
  • Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2021-22

Tachwedd 2022

  • Ymwelwch â Sir Benfro
  • Gwaith Atal Llifogydd
  • Achosion o fandaliaeth ar eiddo’r Awdurdod
  • Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd - diweddariad

Ionawr 2023

  • Diweddariad Ymateb Brys
  • Diweddariad Gorfodi Troseddau Amgylcheddol
  • Cyflenwi’r Gwasanaeth Cynllunio
  • Cyllideb Cyngor Sir Ddrafft Amlinellol ar gyfer 2023-24 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig Drafft Amlinellol am y cyfnod rhwng 2023-24 a 2026-27 / Setliad Llywodraeth Leol Dros dro ar gyfer 2023-24
  • Adolygiad o Benderfyniad y Cabinet ar Gyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus – Cam 2 Adeiladu Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd (Galw i mewn penderfyniad y Cabinet)

Mawrth 2023

  • Rhaglen Adfywio
  • Astudiaeth Lliniaru Llifogydd yn Havens Head a Lower Priory – Diweddariad
  • Diweddariad perfformiad ar Gyngor Sir Penfro yn caffael cwmni bysiau a chludiant i’r ysgol
  • Partneriaeth Natur Sir Benfro

 

Pa wahaniaeth wnaeth y Pwyllgor?

Yn y flwyddyn ddiwethaf, cynhaliwyd pum cyfarfod Craffu a chyfarfod Galw i Mewn. 

Mae’r Pwyllgor wedi parhau i graffu’n rheolaidd ar waith gwahanol adrannau, gan gynnwys yr Adran Gynllunio; gan nodi’r anawsterau a wynebir wrth recriwtio a chadw staff a’r cynllun hyfforddi chwe mis newydd sydd bellach wedi’i ddatblygu i wella cadw staff.  Yr adran Gorfodi; trwy gynnal arolwg ynghylch troseddau amgylcheddol gyda’r holl Gynghorwyr Sir yn caniatáu adroddiadau wedi’u targedu i’r Pwyllgor ddarparu syniadau cadarn ac adborth yn nodi meysydd sy’n peri pryder penodol i Gynghorwyr a thrigolion.

Fel rhan o’i rôl craffu ar bartneriaid allanol, bu’r Pwyllgor yn parhau â’i waith craffu blynyddol ar nifer o ddarparwyr allanol sy’n derbyn cymorth/cyllid gan yr Awdurdod gan gynnwys gwaith Ymwelwch â Sir Benfro mewn perthynas â hyrwyddo a rheoli twristiaeth a Phartneriaeth Natur Sir Benfro, yn hyrwyddo bioamrywiaeth a rheolaeth ein Sir.

Cafodd penderfyniad y Cabinet mewn perthynas â’r Gyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus – Cam 2 Adeiladu Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd ei alw i mewn gan 11 Aelod o’r Ceidwadwyr Cymreig oherwydd costau cynyddol a statws anhysbys y cais am gyllid i gefnogi’r prosiect.  Ar ôl derbyn cyflwyniadau gan yr Aelod Cabinet a'r Swyddogion ar y materion a godwyd, penderfynodd y Pwyllgor y dylid dychwelyd y penderfyniad i'r Cabinet er mwyn i'r cyllid allanol angenrheidiol gael ei warantu cyn parhau â'r gwaith. Roedd y Galw i Mewn yn fater difrifol ond cynhaliwyd cyfarfod ardderchog fu’n mynd at wraidd y mater ac yn annog y Cabinet i wrando ar farn y pwyllgor a newid eu dull o ymdrin â’r mater mymryn.

Bu’r Pwyllgor hefyd yn craffu ar gaffaeliad cwmni bysiau lleol a darpariaeth cludiant i’r ysgol.  Roedd yr adroddiadau a dderbyniwyd yn llawn gwybodaeth ac yn cadarnhau mai’r penderfyniad oedd yr un cywir gan sicrhau nad oedd y ddarpariaeth cludiant i’r ysgol yn cael ei heffeithio.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi parhau i gadw canolbwynt ar Adfywio ac wedi trefnu diweddariadau rheolaidd ar ddatblygiadau ar draws y swyddogaethau adfywio a datblygu economaidd i roi sicrwydd i drigolion bod gwerth am arian yn cael ei gyflawni a bod unrhyw ailddatblygu er budd pennaf y Sir a’i thrigolion.

Trwy ei raglennu gwaith a goruchwylio gwybodaeth am berfformiad gwasanaethau, bydd y Pwyllgor yn parhau i roi sicrwydd bod goruchwylio priodol gan yr Aelodau a herio perfformiad a chyflenwi gwasanaethau.

 

Heriau’r dyfodol

Yn y flwyddyn i ddod, bydd y Pwyllgor yn parhau i ddefnyddio gwybodaeth berthnasol am berfformiad gwasanaethau i benderfynu ar ei raglen waith, eto gyda chanolbwynt penodol ar wasanaethau y gwelir eu bod yn tanberfformio.  

Un o'r prif heriau sy'n wynebu'r Pwyllgor yw ymgysylltu â'r cyhoedd ac mae hyn wedi cael ei annog yn weithredol drwy’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, Aelodau’r Pwyllgor a dull wedi’i dargedu drwy’r Cyfryngau Cymdeithasol.  Cyhoeddir Blaenraglen Waith y Pwyllgor ar dudalen we’r Cyngor ac ar y Cyfryngau Cymdeithasol i gynyddu ymgysylltu â thrigolion. 

Mae diweddariadau ar waith amrywiol brosiectau a gwasanaethau o bob rhan o'r Awdurdod wedi'u cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod gan brosiectau a gefnogir yn fewnol ac yn allanol gan gynnwys Ymwelwch â Sir Benfro a Phartneriaeth Natur Sir Benfro i gefnogi parhau â’r gwaith rhagorol a wnaed gan yr Awdurdod.

Bydd craffu drwy gydol y flwyddyn ar ddiweddariadau rheolaidd ar waith Atal llifogydd yn Havens Head a Lower Priory, achosion o fandaliaeth ar eiddo a Thai’r Awdurdod.

Mae’r her i ymgysylltu â thrigolion ac i gadw cyfarfodydd yn bwrpasol yn parhau gyda’n Blaenraglen Waith



Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn Penderfynu

Rôl a chylch gwaith

Rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn Penderfynu yw ymgymryd â chraffu cyn penderfynu ar bolisïau, cynlluniau a strategaethau er mwyn cyfrannu at ansawdd a chadernid penderfyniadau’r Cabinet. Mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor yn cynnwys:

  • Blaenraglen waith y Cabinet
  • Cynigion sy’n ymwneud â newid neu drawsnewid gwasanaethau, a / neu eu heffeithlonrwydd
  • Asesiadau Effaith Integredig
  • Strategaethau a chynlluniau, fel y bo’n briodol
  • Cynigion cyllideb blynyddol

 

Aelodaeth a Phresenoldeb

Roedd Aelodaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn Penderfynu ym mis Mawrth 2023 fel a ganlyn:

Y Cynghorydd Joshua Beynon, Cadeirydd (Llafur)

Y Cynghorydd  Michael Williams, Is-gadeirydd (Plaid Cymru)

Y Cynghorydd  Di Clements (Ceidwadwyr Cymreig)

Y Cynghorydd  Pat Davies (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Simon Hancock (Llafur)

Y Cynghorydd  Mike James (Annibynnol)

Y Cynghorydd  Elwyn Morse (Annibynnol)

Y Cynghorydd  Bethan Price (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Jordan Ryan (Llafur)

Y Cynghorydd  Aled Thomas (Ceidwadwyr Cymreig)

Y Cynghorydd  Michele Wiggins (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Steve Yelland (Ceidwadwyr Cymreig)

Y Cynghorydd  Mike Stoddart (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp) – Aelod Wrth Gefn

Roedd presenoldeb yr Aelodau yng Nghyfarfodydd y Pwyllgor hwn yn 81.7%.

 

Gwaith y Pwyllgor yn 2022-2023

Mae rhaglen waith y Pwyllgor wedi cwmpasu ystod eang o bynciau pwysig dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae wedi cynnwys meysydd a phynciau Polisi untro; fodd bynnag, mae hefyd wedi cynnwys meysydd pwnc  y mae’r Pwyllgor yn parhau i’w craffu a’u hadolygu. Mae meysydd pwnc o’r fath y bu’r Pwyllgor yn edrych arnynt eleni ac a fydd ar flaenraglen waith 2023-24 yn cynnwys y Strategaeth Toiledau Lleol, y Strategaeth Tlodi a’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.

Yn dilyn Etholiadau mis Mai 2022, penderfynodd Aelodaeth newydd y Pwyllgor barhau â gwaith y Panel Cyllid, gydag Aelodaeth newydd y Panel fel a ganlyn:

Y Cynghorydd Joshua Beynon (Cadeirydd)

Y Cynghorydd Simon Hancock

Y Cynghorydd Elwyn Morse

Y Cynghorydd Aled Thomas

Y Cynghorydd Michael Williams

Roedd hyn er mwyn sicrhau bod yr Aelodau Anweithredol yn parhau i ymgysylltu a chymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu cyllideb y Cyngor, a thrwy hynny galluogi’r Pwyllgor i gyflawni ei gylch gwaith i graffu ar gynigion cyllideb y Cyngor yn effeithiol.

Pan fydd y Cabinet yn wynebu penderfyniadau cynyddol heriol ynghylch sut a ble i ddyrannu adnoddau a sut olwg fydd ar wasanaethau’r Cyngor yn y dyfodol, bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn Penderfynu yn parhau i ddarparu’r cyfrwng i Aelodau Anweithredol gael llais a chynrychioli safbwyntiau a phryderon trigolion er mwyn llywio a llunio’r broses o wneud penderfyniadau.

Drwy gydol y flwyddyn, bu’r Pwyllgor yn craffu ar y canlynol:

 

Mehefin 2022

  • Y Panel Cyllid
  • Newid Hinsawdd
  • Tlodi Plant

Hydref 2022

  • Polisi Rheoli Cofnodion
  • Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Sir Benfro 2018-2028
  • Y Panel Cyllid
  • Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2021-22

Tachwedd 2022

  • Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru
  • Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd Ddrafft 2022 – 2027
  • Strategaeth Caffael Ddrafft
  • Diweddariad ar y Ffrydiau Gwaith sy’n arwain at Ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth
  • Cyfrif Refeniw Tai – Opsiynau Polisi Gosod Rhent ar gyfer 2023-2024

Ionawr 2023

  • Datganiad Polisi Tâl 2022 – 2023
  • Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Cyngor Sir Penfro 2022-2027
  • Datblygu Strategaeth Tlodi
  • Strategaeth Rheoli Asedau
  • Cyllideb Cyngor Sir Ddrafft Amlinellol ar gyfer 2023-24 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig Drafft Amlinellol am y cyfnod rhwng 2023-24 a 2026-27 / Setliad Llywodraeth Leol Dros dro ar gyfer 2023-24

Mawrth 2023

  • Cynllun Gwella Hawliau Tramwy
  • Diweddariad y Panel Cyllid
  • Strategaeth Toiledau 2023
  • Hysbysiad o Gynnig yn ymwneud ag Adfer Gweithgor Ffermydd Sirol

 

Pa wahaniaeth wnaeth y Pwyllgor?

Prif swyddogaethau’r Pwyllgor yw darparu ymgysylltu effeithiol gan Aelodau Anweithredol wrth ddatblygu cynigion mawr, cyn i’r Cabinet wneud penderfyniad yn eu cylch, drwy eu herio’n adeiladol ac yn briodol, ac wrth ddatblygu ac adolygu polisi a strategaeth y Cyngor. Trwy ddefnyddio ei bwysau a’i ddylanwad cadarnhaol, mae’r Pwyllgor yn cyfrannu at fframwaith penderfyniadau a pholisi cryfach a mwy cadarn, sy’n llawn cynrychioli anghenion a phryderon trigolion Sir Benfro.

Er bod llawer o waith y Pwyllgor yn digwydd mewn cyfarfodydd cyhoeddus ffurfiol, mae rhywfaint o’i waith mwyaf effeithiol yn digwydd o ganlyniad i sefydlu gweithgorau sy’n gweithredu ar ran y Pwyllgor llawn.  Mae’r gweithgorau hyn yn galluogi Aelodau i archwilio a deall yn iawn y rhesymeg a’r sbardunau sydd y tu ôl i newidiadau sylweddol posibl i wasanaeth neu bolisi, i lefel o fanylder nad yw’n bosibl mewn cyfarfod Pwyllgor untro.  Trwy’r broses o ddefnyddio gweithgorau mae’r Pwyllgor llawn yn gallu gwneud argymhellion clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth. 

Ers i'r Pwyllgor benderfynu parhau â gwaith y Panel Cyllid a sefydlu ei aelodaeth newydd, mae wedi cyfarfod ar dri achlysur, gyda chefnogaeth yr Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol, y Cyfarwyddwr Adnoddau a swyddogion eraill fel y bo'n briodol.  Mae'r cyfarfodydd wedi canolbwyntio ar y Rhaglen Gyfalaf, Prosiectau Adfywio, ac effaith opsiynau arfaethedig i arbed arian mewn Gofal Cymdeithasol. Mae'r Panel wedi gallu ymchwilio i'r materion a rhoi adborth gwerthfawr i Swyddogion a'r Pwyllgor. Meysydd allweddol a nodwyd am y dyfodol yw’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig a Chyllidebau Ysgolion.

Ym mis Gorffennaf 2018 cytunodd y Pwyllgor i gynnal adolygiad o’r polisi Ystad Ffermydd Sirol, a sefydlodd weithgor i gynnal yr adolygiad hwnnw.  Daeth y grŵp gorchwyl a gorffen â'u hadolygiad i ben ac adrodd eu hargymhellion a Pholisi Ffermydd Sirol drafft i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn Penderfynu ym mis Ionawr 2020. Cafodd y rhain eu cefnogi a’u hargymell i’r Cabinet. Ystyriodd y Pwyllgor Hysbysiad o Gynnig yn ymwneud ag adfer y Gweithgor Ffermydd Sirol ym mis Mawrth 2023 ac mae wedi penderfynu ffurfio gweithgor i edrych eto ar y mater hwn, a bydd hyn yn rhan bwysig o’r flaenraglen waith ar gyfer 2023-24.

Ystyriodd y Pwyllgor yn fanwl ddau Bolisi Tai pwysig, sef y Cyfrif Refeniw Tai – Opsiynau Polisi Gosod Rhent ar gyfer 2023-24 a'r Cynllun Ailgartrefu Cyflym Drafft. Mewn perthynas â’r Cynllun Ailgartrefu Cyflym Drafft, penderfynodd y Pwyllgor argymell i’r Cabinet y dylid cyflwyno Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Cyngor Sir Penfro i Lywodraeth Cymru i leddfu’r anawsterau eithriadol y mae trigolion Sir Benfro yn eu cael gyda thai.  Bu’r Pwyllgor hefyd yn chwarae rhan annatod wrth graffu ar yr Opsiynau Polisi Gosod Rhent a chyflwyno eu hargymhellion a’u hadborth i’r Cabinet.

Bu'r Pwyllgor hefyd yn ystyried yn fanwl y Strategaeth Rheoli Asedau. Nododd resymeg glir o ran cydweddu â strategaethau corfforaethol a nododd nifer o amcanion a fyddai’n llunio’r Cynllun Gweithredu Rheoli Asedau gan gynnwys ystod o fesuriadau perfformiad a oedd yn cael eu hystyried ar gyfer monitro perfformiad eiddo yn barhaus. Fe wnaeth yr Aelodau gefnogi mabwysiadu’r strategaeth ac argymell y Cabinet i ystyried cynnwys Aelodau yn y Grŵp Rheoli Asedau fel bod eu cyfraniad yn parhau. Fel rhan o’r strategaeth a nodwyd ganddo, byddai cynllun Datganiad Blynyddol yn cael ei greu, a byddai hwn yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn Flynyddol.

Cafwyd craffu adeiladol ar Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, gyda’r Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn mynychu’r Pwyllgor i nodi’r cynlluniau i gyflawni’r Strategaeth Dementia, a fyddai’n cael ei goruchwylio gan Grŵp Llywio Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru. Argymhellodd y Pwyllgor i'r Cabinet gymeradwyo'r Strategaeth, ac fe’i cymeradwywyd hefyd gan y Cabinet.

Er mwyn sicrhau goruchwylio datblygu’r Strategaeth Tlodi yn Sir Benfro, mae’r Pwyllgor wedi ystyried y mater hwn ar ddau achlysur dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae disgwyl iddo gael ei ddwyn yn ôl yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae'r Pwyllgor wedi edrych ar waith y Gweithgor Tlodi, sy'n is-grŵp o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac sy'n ddull 'sir gyfan'. Mae’r Pwyllgor wedi craffu ar y camau a gymerwyd gan y grŵp tuag at ddatblygu strategaeth gychwynnol ar gyfer tlodi, gyda gwybodaeth am strategaethau a ddatblygwyd mewn meysydd eraill, ac ymchwil o safbwyntiau cenedlaethol a lleol yn cyfrannu at y drafodaeth. Bydd y Pwyllgor yn parhau i edrych ar y mater hwn i geisio bwrw ymlaen â’r gwaith hwn a bydd goruchwylio parhaus ohono gan yr Aelodau.

 

 

Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol

Rôl a chylch gwaith

Mae'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol yn canolbwyntio ar anghenion gofal, cymorth a llesiant plant ac oedolion. Ei ddiben yw craffu ar ansawdd a pherfformiad yr holl wasanaethau sy’n gysylltiedig â Gofal Cymdeithasol y mae’r Cyngor yn eu cyflenwi, drwy ddatblygu dull sy’n seiliedig ar risg gan ddefnyddio gwybodaeth reoli berthnasol megis:

  • cynlluniau gwella gwasanaethau
  • gwybodaeth ariannol
  • mesuriadau perfformiad
  • risg busnes
  • hunanasesu
  • adborth / arolygon cwsmeriaid
  • adroddiadau arolygu / rheoleiddio allanol

 

Mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor yn darparu canolbwynt penodol ar y gwasanaethau, y swyddogaethau a’r trefniadau partneriaeth canlynol:

  • Gofal Oedolion
  • Gwasanaethau Plant
  • Cyd-gomisiynu Strategol
  • Gofalwyr
  • Gwasanaethau Integredig a llesiant
  • Gofal cartref
  • Gwaith gyda’r trydydd sector
  • Cydymffurfio â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
  • Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru
  • Diogelu Rhanbarthol 
  • Maethu Rhanbarthol
  • Mabwysiadu Rhanbarthol

  

Aelodaeth a Phresenoldeb

Roedd Aelodaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ym mis Mawrth 2023 fel a ganlyn:

 

Y Cynghorydd  David Bryan, Cadeirydd (Ceidwadwyr Cymreig)

Y Cynghorydd  Steve Alderman, Is-gadeirydd (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Maureen Bowen (Llafur)

Y Cynghorydd  Alistair Cameron (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)

Y Cynghorydd  Terry Davies (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Nicola Gwynn (Llafur)

Y Cynghorydd  Delme Harries (Annibynnol)

Y Cynghorydd  Mike James (Annibynnol)

Y Cynghorydd  Mel Phillips (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Vanessa Thomas (Dim ymlyniad i unrhyw grŵp)

Y Cynghorydd  Simon Wright (Annibynnol)

Y Cynghorydd  Danny Young (Ceidwadwyr Cymreig)

Roedd presenoldeb yr Aelodau yng Nghyfarfodydd y Pwyllgor hwn yn 90.3%

 

Gwaith y Pwyllgor yn 2022-23

Mae rhaglen waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol yn cael ei hysgogi i raddau helaeth gan y gofyniad i graffu ar ystod amrywiol o wasanaethau sy'n ymwneud ag anghenion gofal, cymorth a llesiant plant ac oedolion. 

Yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2022, bu newid yn Aelodaeth y Pwyllgor gyda dim ond dau o’r Aelodau yn cadw eu lle.

Mae’r Pwyllgor wedi parhau i ganolbwyntio’n gryf ar graffu ar Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac adroddiadau perfformiad y Gyfarwyddiaeth i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cyflenwi i feysydd allweddol.  Mae’r Pwyllgor wedi cymryd rhan mewn cyfweld a recriwtio Pennaeth Gwasanaethau Oedolion newydd yn ogystal â Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai. 

Drwy gydol y flwyddyn, bu’r Pwyllgor yn craffu ar y canlynol:

 

Mehefin 2022

  • Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru - Y Gronfa Integreiddio Ranbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Hysbysiad o Gynnig yn ymwneud â Chefnogi’r Frwydr i Gadw Gwasanaethau sy’n Hanfodol i Iechyd a Llesiant Trigolion
  • Strategaeth Lleihau Plant sy’n Derbyn Gofal a Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu
  • Diogelu

Medi 2022

  • Hysbysiad o Gynnig yn ymwneud â Chefnogi’r Frwydr i Gadw Gwasanaethau sy’n Hanfodol i Iechyd a Llesiant Trigolion
  • Arolygiaeth Gofal Cymru – Adroddiad Cyngor Sir Penfro ar Arolygiad Gwerthuso Perfformiad
  • Risg Gwasanaethau Cymdeithasol – Y Galw am Ofal Cymdeithasol
  • Dyled Defnyddwyr Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol
  • Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/22
  • Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2021-22

Tachwedd 2022

  •  Gofalwyr â Thâl a Gofalwyr Di-dâl
  • Adroddiad y Cyfarwyddwr 2020/21
  • Diogelu

Ionawr 2023

  • Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 Gwasanaethau Cymdeithasol 2022-23
  • Gweithgor Fframwaith Sicrhau Ansawdd
  • Cyllideb Cyngor Sir Ddrafft Amlinellol ar gyfer 2023-24 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig Drafft Amlinellol am y cyfnod rhwng 2023-24 a 2026-27 / Setliad Llywodraeth Leol Dros dro ar gyfer 2023-24

March 2023

  • Effaith yr argyfwng Costau Byw ar ofal â thal ac ar ofal di-dâl 
  • Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Gorllewin Cymru 2023-2027
  • Strategaeth ar gyfer Cadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd (a elwid gynt yn Strategaeth Lleihau Plant sy’n Derbyn Gofal) a Chynllun Gweithredu
  • Diogelu

Pa wahaniaeth wnaeth y Pwyllgor? 

Yn flynyddol, mae’r Pwyllgor yn craffu ar Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a bu’n ystyried yr adroddiad ar gyfer 2020-21. Treuliodd yr Aelodau gryn dipyn o amser yn craffu ar gynlluniau strategol allweddol y Gyfarwyddiaeth a meysydd gwaith presennol sydd â blaenoriaeth, ac ar sut y byddai’r Gyfarwyddiaeth yn ymateb i gynnal y gwaith o gyflenwi gwasanaethau gyda’r heriau ariannol parhaus o fodloni’r galw a waethygwyd oherwydd y pandemig. Bu’r Pwyllgor yn edrych ar adennill dyledion, recriwtio a chadw staff, taliadau uniongyrchol, oedi wrth drosglwyddo gofal a chyfleoedd am ofal dydd.  Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau bod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi darparu adolygiad cadarnhaol o ran cynnal darpariaeth gwasanaethau yn ystod y pandemig.

Ar ben hynny, bu’r Pwyllgor yn craffu ar adroddiadau perfformiad chwarterol ar drefniadau Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelu gan ofyn am sicrwydd bod gwasanaethau’n cael eu cynnal ar ôl y pandemig.  Ymrwymodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru am bryderon ynghylch trefniadau diogelu ar gyfer plant Addysg Ddewisol yn y Cartref.

Bu craffu parhaus gan y Pwyllgor ar y Strategaeth ar gyfer Cadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd (a elwid gynt yn Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal) a gofynnodd yr Aelodau am ddiweddariadau bob chwe mis i alluogi’r Pwyllgor i barhau i fonitro perfformiad.

Bu’r Pwyllgor yn adolygu adroddiadau ar Gynllun Gweithredu’r Gweithlu, y pedwar cynllun gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Tymor Canolig yn manylu ar asesiad o sefyllfa bresennol y gwasanaeth a’r heriau presennol ynghyd â’r meysydd i’w gwella; yn ogystal â’r Hyb Cymunedol amlasiantaeth a fu’n darparu gwasanaeth hanfodol yn ystod y pandemig.

Roedd y Pwyllgor wedi bod yn awyddus i dderbyn diweddariadau gan y Microfentrau a mentrau cymdeithasol ledled y Sir a datblygwyd yn ystod y Pandemig yn cyflawni prosiectau gofal cymdeithasol trwy weithio gyda’r Trydydd Sector.

 

Heriau’r dyfodol

Bydd cyflenwi gwasanaethau gofal cymdeithasol craidd, statudol yn gosod her gynyddol o ystyried y galw cynyddol amdanynt, poblogaeth sy’n  heneiddio, recriwtio a chadw staff a’r cyfyngiadau ariannol y mae’r Cyngor yn gweithredu oddi tanynt. 

Bydd y Pwyllgor yn parhau i graffu ar wahanol brosiectau gan gynnwys y Fenter Cysylltu Bywydau, Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru yn ogystal â diweddariadau gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth a chydweithrediadau â Chyngor Iechyd Cymuned (a elwir bellach yn Llais) a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

 

Edrych ymlaen at 2023-2024

Mae'r Cyngor wedi gwneud cryn dipyn o ymdrech wedi'i thargedu i wella'r swyddogaeth graffu dros nifer o flynyddoedd.  Er y gwelliannau gwirioneddol a’r cynnydd da a welwyd mewn sawl maes, mae gwaith i'w wneud o hyd i barhau i gryfhau a gwreiddio rôl craffu yn y Cyngor i fynd i’r afael â’r heriau nawr ac yn y dyfodol ac i gyflawni ein dyhead o gael ein gweld fel un o’r rhai sy’n perfformio orau yng Nghymru.

Etholwyd Cyngor newydd ym mis Mai 2022 ac etholwyd 25 o Aelodau newydd i'r Cyngor.  Mae'r Tîm Cymorth Democrataidd a Chraffu wedi bod yn gweithio gyda'r Pwyllgorau newydd i hwyluso hyfforddiant a chefnogaeth i'r garfan o Aelodau newydd.  Trefnwyd sesiynau datblygu ar gyfer yr Aelodau craffu newydd, a’r rhai presennol, fel rhan o Raglen Sefydlu’r Cyngor ar ôl mis Mai 2022.  Roedd hyn yn cynnwys hyfforddiant ar y rôl craffu, cwestiynu craffu a sgiliau cadeirio.  Bydd hyfforddiant pellach yn cael ei ddarparu fel y’i nodir gan Aelodau fel Pwyllgor neu drwy gwblhau’r Dadansoddiad Anghenion Dysgu. Bydd hyn yn cael ei ategu gan seminarau a gweithdai ar bynciau allweddol i gefnogi'r swyddogaeth graffu.

Yn amlwg, yr her fwyaf sy'n wynebu'r Cyngor dros y 12 mis nesaf (a thu hwnt o bosibl) yw sut y mae'r Cyngor yn delio â'i heriau cyllidebol ac ariannol gyda chyfraddau chwyddiant uwch na'r hyn a ragwelwyd yn flaenorol yn arwain at bwysau costau ar gyllidebau cyfalaf a refeniw.  Bydd gostyngiad mewn termau real yn y gyllideb ar gyfer 2023-24 (rhagwelir gorwariant ar hyn o bryd), a’r angen am ostyngiadau sylweddol mewn termau real i’r gyllideb dros gyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, yn her wirioneddol.

Bydd Craffu yn parhau i ganolbwyntio ar bynciau lle bydd mewnbwn yr Aelodau yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol i ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau.

 

Arolwg Aelodau

Gofynnwyd i'r Aelodau gwblhau dau arolwg yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn.

Yn gyntaf, gofynnwyd i'r Aelodau am eu barn ar amseru, hyd ac amlder cyfarfodydd y Cyngor a'i Bwyllgorau.     

Sefydlwyd arolwg electronig a’i ddosbarthu i bob Aelod etholedig ym mis Awst. Bu 47 o Aelodau yn cwblhau’r arolwg (78%).  Nododd 80% o'r ymatebwyr eu bod o'r farn bod y trefniadau presennol yn foddhaol.

Mae’r canlyniadau wedi’u cyhoeddi yma.  Penderfynodd y Cyngor gynnal y status quo.  Roedd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cefnogi arolygu Aelodau eto, unwaith y byddai’r Aelodau yn meddu ar ddealltwriaeth fwy llawn o effaith amseroedd cyfarfodydd.

Yn fwy diweddar, gwahoddwyd pob Aelod o'r Cyngor, gan gynnwys Aelodau Gweithredol, i gwblhau arolwg electronig ar drefniadau'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cwmpasu ystod o ffactorau yn ymwneud â swyddogaeth ac ymarfer.

Roedd y gyfradd ymateb i’r arolwg yn 67% (40 ymateb) sy’n gadarnhaol ac yn adlewyrchu ymrwymiad cadarn mwyafrif yr Aelodau i barhau i gryfhau effeithiolrwydd craffu, ac yn cydnabod y rôl allweddol y mae’n rhaid i'r Aelodau eu hunain ei chwarae yn y broses.

Gallwch ddod o hyd i ganlyniadau'r arolwg diweddar hwn o'r adroddiad a aeth i'r Cyngor ym mis Gorffennaf 2023.

 

Tîm Cymorth Democrataidd a Chraffu

Susan Sanders — Rheolwr

Jenny Capitao — Swyddog

Lydia Evans — Swyddog

Jackie Thomas — Swyddog

Elieze Hinchcliffe — Swyddog

Kate Matthews - Cynorthwyydd

Cyswllt: Democraticservices@pembrokeshire.gov.uk

 

 

ID: 8539, adolygwyd 09/11/2023