Trosolwg a Chraffu

Pwllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol

Rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yw adolygu a chraffu ar swyddogaethau a gwasanaethau cymorth corfforaethol.

Bydd gan y Pwyllgor oruchwyliaeth dros gyfeiriad strategol cyffredinol, polisïau, cynlluniau a blaenoriaethau'r Cabinet a'r Cyngor (ar ôl gwneud penderfyniadau) a bydd yn monitro eu gweithredu.Bydd y Pwyllgor hefyd yn craffu ar wasanaethau corfforaethol gan ddefnyddio gwybodaeth rheoli berthnasol fel Cynlluniau Gwella Gwasanaethau a Chofrestrau Risg Busnes. Gellir cyfeirio unrhyw feysydd o gonsyrn penodol i'r  Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau yn ôl yr angen.

Dyma gylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor mewn perthynas â swyddogaethau a gwasanaethau corfforaethol:

Swyddogaethau Corfforaethol

  • Swyddfa'r Arweinydd
  • Adroddiadau blynyddol Aelodau Cabinet
  • Prif Weithredwr
  • Monitro cyllidebau (bob blwyddyn a phob chwarter)
  • Monitro perfformiad corfforaethol (bob blwyddyn a phob chwarter)
  • Cynllunio corfforaethol
  • Adroddiadau corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru
  • Gwella gwasanaethau
  • Diogelu
  • Trawsnewid

Gwasanaethau corfforaethol

  • Gwasanaethau Ariannol
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Archwilio a Risg
  • Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • Adnoddau Dynol
  • Gwasanaethau Cyfreithiol a Phwyllgor
  • Caffael
  • Marchnata a Chyfathrebu
  • Gwasanaethau Etholiadol

Mae gan y Pwyllgor 13 aelod a bydd yn cwrdd o leiaf bum gwaith y flwyddyn.

Gellir cael manylion am aelodau'r Pwyllgor a chyfarfodydd yn y dyfodol drwy'r ddolen isod.

Pwllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol (Mewn ffenest newydd)

Pwllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Cylch Gorchwyl   

Rhaglen Gwaith - Corfforaethol

ID: 546, adolygwyd 05/07/2018