Trosolwg a Chraffu
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol
Rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol yw adolygu a chraffu ar wasanaethau sy'n ymwneud ag anghenion gofal, cymorth a lles plant ac oedolion.
Bydd y Pwyllgor yn craffu ar ansawdd a pherfformiad yr holl wasanaethau yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol a ddarperir gan y Cyngor.
Mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor mewn perthynas â gwasanaethau cysylltiedig â Gofal Cymdeithasol fel a ganlyn:
- Gofal i oedolion
- Gwasanaethau Plant
- Cyd-gomisiynu strategol
- Gofalwyr
- Gwasanaethau integredig a lles
- Gofal Cartref
- Gweithio gyda'r Trydydd Sector
- Cydymffurfio â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
- Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru
- Diogelu Rhanbarthol
- Maethu Rhanbarthol
- Mabwysiadu Rhanbarthol
Mae gan y Pwyllgor 13 o aelodau a bydd yn cyfarfod bum gwaith y flwyddyn o leiaf. Gellir cael manylion aelodau'r Pwyllgor a chyfarfodydd yn y dyfodol, ynghyd â Rhaglen Waith y Pwyllgor, drwy ddilyn y dolenni isod.
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol.
15 Mehefin 2023
Eitemau Pwyllgor Untro
- Eitem: Gweithio gyda’r 3ydd Sector
- Diben: Deall ac ystyried darpariaeth y 3ydd Sector.
Eitemau Sefydlog / Cylchol
- Eitem: Diweddariad gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru
- Diben: Perfformiad a chyflawni’r cynlluniau a ariannwyd trwy'r Gronfa Integreiddio Ranbarthol (RIF)
- Eitem: Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu
- Diben: Darparu adolygiad integredig o brif weithgarwch y Pwyllgor dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal ag edrych ymlaen at heriau’r dyfodol a meysydd i’w gwella.
14 Medi 2023
Eitemau Pwyllgor Untro
- Eitem: Cydweithio rhwng Cyngor Sir Penfro a'r Bwrdd Iechyd
- Diben: Diweddariad ar gynnydd y gwaith sydd wedi digwydd rhwng yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu, y Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol a Thai dros dro, y Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol a Thai newydd a'r Bwrdd Iechyd.
Eitemau Sefydlog / Cylchol
- Eitem: Diogelu
- Diben: Trosolwg a chraffu parhaus i sicrhau bod mesurau digonol ar waith i gydymffurfio â’n dyletswyddau statudol i ddiogelu a hybu lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed.
9 Tachwedd 2023
Eitemau Pwyllgor Untro
- Eitem: Cyngor Iechyd Cymuned Sir Benfro (CIC)
- Diben: Diweddariad ac adborth gan y CIC ynghyd â chynrychiolydd
Eitemau Sefydlog / Cylchol
Dim
ID: 549, adolygwyd 02/06/2023