Trosolwg a Chraffu
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol
Rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yw adolygu a chraffu ar swyddogaethau corfforaethol a gwasanaethau cynorthwyol.
Bydd y Pwyllgor yn goruchwylio cyfeiriad strategol cyffredinol, polisïau, cynlluniau a blaenoriaethau’r Cabinet a'r Cyngor (yn dilyn penderfyniadau) ac yn monitro sut y cânt eu gweithredu. Bydd y Pwyllgor yn craffu ar y gwasanaethau corfforaethol gan ddefnyddio gwybodaeth reoli berthnasol megis Cynlluniau Gwella Gwasanaeth a'r Cofrestri Peryglon Busnes. Gellir cyfeirio unrhyw feysydd sy'n peri pryder penodol at Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau fel bo'n briodol. Bydd y Pwyllgor hefyd yn goruchwylio’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) a'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) drwy Banel Partneriaethau sefydlog, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor mewn perthynas â swyddogaethau a gwasanaethau Corfforaethol fel a ganlyn:
Swyddogaethau Corfforaethol
- Swydd yr Arweinydd
- Adroddiadau blynyddol Aelodau’r Cabinet
- Y Prif Weithredwr
- Monitro'r gyllideb (bob hanner blwyddyn)
- Monitro perfformiad corfforaethol (bob chwarter)
- Y Cynllun Gwella Corfforaethol a'r Adolygiad
- Cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
- Adroddiadau corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru
- Y Gymraeg
- Rheoli Risg
- Diogelu Corfforaethol
- Chwythu'r Chwiban
- Rheoli’r Rhaglen Drawsnewid
- Rheoli rhaglen y Fargen Ddinesig
Gwasanaethau Corfforaethol
- Gwasanaethau Ariannol
- Technoleg Gwybodaeth
- Gwasanaethau Archwilio, Risg a Gwybodaeth
- Gwasanaethau Cwsmeriaid
- Adnoddau Dynol
- Gwasanaethau Cyfreithiol a Phwyllgorau
- Caffael
- Polisi Corfforaethol
- Cymorth Partneriaeth a Chraffu
- Cyfathrebu Corfforaethol, y Wasg, Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata
- Gwasanaethau Etholiadol
Mae gan y Pwyllgor 13 o Aelodau a bydd yn cyfarfod bum gwaith y flwyddyn o leiaf. Gellir cael manylion aelodau'r Pwyllgor a chyfarfodydd yn y dyfodol, ynghyd â Rhaglen Waith y Pwyllgor drwy ddilyn y dolenni isod.
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol
Mehefin 2025
- Eitem: Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg
- Diben: Craffu ar fersiwn ddrafft o adroddiad blynyddol Safonau’r Gymraeg yr awdurdod cyn ei gyhoeddi ddiwedd Mehefin bob blwyddyn.
- Eitem: Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu
- Diben:Darparu adolygiad integredig o brif weithgarwch y pwyllgor dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal ag edrych ymlaen at heriau’r dyfodol a meysydd i’w gwella.
- Eitem: Cronfa Ffyniant Gyffredin
- Diben: Craffu sut y caiff y cyllid ei ddosbarthu, allbwn y cyllid a ddarperir i gymunedau ac a yw’n ategu’r agenda Ffyniant Bro.
Medi 2025
- Eitem: Cyllideb y Cyngor Sir – Adroddiad Monitro'r Alldro - 2024-25
- Diben: Craffu ar Adroddiad Alldro'r Gyllideb
- Eitem: Adroddiad Monitro Cyllideb y Cyngor Sir Chwarter 1 2025-26
- Diben:
- Sicrhau y caiff y gwariant a thargedau arbedion yn ystod y flwyddyn eu monitro'n amserol
- Craffu ar gynaladwyedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig
Tachwedd 2025
- Eitem: Hunanasesiad Corfforaethol Blynyddol Drafft
- Diben: Craffu ar hunanasesiad blynyddol y cyngor, gan ymgorffori adolygiad o amcanion llesiant
- Eitem: Partneriaethau Strategol – Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Cyd-bwyllgor Corfforaethol a Porthladd Rhydd Celtaidd.
- Diben: Derbyn a chraffu ar gofnodion y tair partneriaeth strategol
- Eitem: Adroddiad Monitro Cyllideb y Cyngor Sir ar gyfer ail chwarter 2024-2025
- Diben: Sicrhau monitro amserol o wariant a thargedau arbedion yn ystod y flwyddyn a chraffu ar gynaliadwyedd y cynllun ariannol tymor canolig
- Eitem: Rhaglen Gyfalaf
- Diben: Craffu ar y risgiau sy’n cael eu codi mewn perthynas â chostau cynyddol prosiectau a hirhoedledd realistig y rhaglen.
- Eitem: Monitro’r gwaith o fesur perfformiad yn chwarterol
- Diben: Craffu ar y cerdyn sgôr corfforaethol, sy’n rhan o fframwaith rheoli perfformiad diwygiedig y cyngor.