Trosolwg a Chraffu

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau

Rôl Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau yw adolygu a chraffu ar wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor, sy'n wynebu’r cyhoedd, ac eithrio’r rheiny sydd o fewn cylch gorchwyl Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu a Gofal Cymdeithasol  Bydd y Pwyllgor yn craffu ar ansawdd a pherfformiad y gwasanaethau hyn.

Mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor mewn perthynas â gwasanaethau’r Cyngor, a'r is-adrannau o fewn y gwasanaethau hyn, fel a ganlyn:

  • Seilwaith
  • Yr amgylchedd ac Argyfyngau Sifil posibl
  • Tai
  • Cynnal a Chadw Adeiladau
  • Cynllunio
  • Eiddo
  • Diogelu'r Cyhoedd
  • Datblygu Economaidd ac Adfywio
  • Gwasanaethau Diwylliannol
  • Gwasanaethau Hamdden
  • Refeniw a Budd-daliadau

Mae gan y Pwyllgor 13 o aelodau a bydd yn cyfarfod bum gwaith y flwyddyn o leiaf. Gellir cael manylion aelodau'r Pwyllgor a chyfarfodydd yn y dyfodol, ynghyd â Rhaglen Waith y Pwyllgor drwy ddilyn y dolenni isod. 

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Wasanaethau

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasnaethau

  

14 Tachwedd 2023

Eitemau Pwyllgor Untro

  • Eitem: Maes Awyr Hwlffordd
  • Diben: Derbyn diweddariad ar y sefyllfa a'r gwasanaethau yn y Maes Awyr.

Eitemau Sefydlog / Cylchol

  • Eitem: Gwaith Atal Llifogydd 
  • Diben: I ddarparu unrhyw ddiweddariad os yw ar gael.
ID: 547, adolygwyd 09/11/2023