Trosolwg a Chraffu
Pwyllgor Ysgolion a Dysgu
Rôl Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu yw adolygu a chraffu ar y gwasanaethau a ddarperir er mwyn gwella’r canlyniadau i blant, pobl ifanc a dysgwyr sy'n oedolion ac i gefnogi codi safonau addysgol a chanlyniadau.
Mae cylch gwaith a chwmpas y Pwyllgor fel a ganlyn:
- Canlyniadau addysgol ar bob cam, yn enwedig yng Nghyfnod Allweddol 4
- Perfformiad ysgolion, gan gynnwys y cymorth a ddarperir i ysgolion
- Categoreiddio ysgolion
- Cynorthwyo ysgolion drwy weithio’n rhanbarthol (h.y. ERW)
- Ysgolion Unigol (drwy Banel Craffu Ysgolion)
- Gwasanaethau Cynhwysiant
- Cymorth Ieuenctid a gwasanaethau eraill yn y gymuned (gan gynnwys Dysgu Oedolion)
- Dysgu, sgiliau a hyfforddiant ôl-16
- Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Choleg Sir Benfro
- Y Gwasanaeth Cerdd
- Datblygu Chwaraeon
- Llais a chyfranogiad plant
- Trefniadau ariannol mewn perthynas ag ysgolion a dysgu
- Diogelu ym maes Addysg
Mae gan y Pwyllgor 13 o Aelodau a phedwar aelod cyfetholedig statudol a bydd yn cyfarfod bum gwaith y flwyddyn o leiaf. Gellir cael manylion aelodau'r Pwyllgor a chyfarfodydd yn y dyfodol, ynghyd â Rhaglen Waith y Pwyllgor drwy ddilyn y dolenni isod.
ID: 550, adolygwyd 06/08/2026