Trosolwg a Chraffu
Ymgysylltu ar Cyhoedd
Mae Adran 62 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2001 yn caniatáu i unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yn Sir Benfro ddod â sylwadau i sylw'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol am unrhyw fater sy'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor. Gellir gweld blaenraglenni sy'n manylu ar y materion y bydd pob Pwyllgor yn eu hystyried trwy'r dolenni isod.Rhaid i unrhyw Bwyllgor Trosolwg a Chraffu, wrth arfer ei swyddogaethau, ystyried unrhyw farn ddaw i'w sylw. Mae ffurflen, ‘Dod â sylwadau i sylw Pwyllgor Trosolwg a Chraffu', ar gael i'r diben hwn a gellir dod o hyd iddi drwy'r ddolen ar waelod y dudalen hon.
Er mwyn annog y rhai hynny sy'n byw ac yn gweithio yn y sir i ymwneud yn fwy â'r broses Craffu yn Sir Benfro, mae ffurflen hefyd wedi ei chreu lle gall aelodau o'r cyhoedd awgrymu testunau i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu eu hystyried. Gellir dod o hyd i'r ffurflen hon, ‘Awgrymwch destunau i'w hystyried gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu' drwy'r ddolen isod. Am y rheswm hwn, mae blaenraglenni gwaith wedi eu cynllunio i fod yn hyblyg a gallant newid er mwyn rhoi lle i unrhyw bynciau allai godi sydd o fewn cylch gwaith Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.
Datblygwyd protocol ar gyfer siarad cyhoeddus yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, ac fe’i gwelir drwy ddilyn y ddolen ar waelod y dudalen hon.
Dod a sylwadau i sylw Pwllgor Trosolwg a Chraffu
Awgrymu pynciau i`w hystyried gan Bwllgor Trosolwg a Chraffu
Hysbysiad Gwybodaeth ar gyfer Pwllgorau Trosolwg a Chraffu
Protocol ar gyfer Siarad Cyhoeddus
Protocol ar gyfer Siarad Cyhoeddus - Siart llif
Hysbysiad Gwybodaeth ar gyfer Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu
Pam rydym yn casglu a chadw eich gwybodaeth bersonol?
Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn gadarnhau eich bod yn breswylydd o’r Sir. Mae hyn rhoi hawl i chi awgrymu pynciau i’w hystyried mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu neu i ddwyn eich barn ar unrhyw fater sy’n cael ei ystyried gan bwyllgor i’w sylw. Mae prosesu eich data yn hanfodol i gyflawni’r dasg hon o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Rhan 6, Pennod 1, Adran 62).
Sut y defnyddir gwybodaeth amdanoch chi
Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn cael ei phrosesu yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 a'r Ddeddf Diogelu Data 2018. Mae gennym ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus a gaiff ei weinyddu gennym a gallwn ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych ar y ffurflen hon, er enghraifft, i wneud gwaith paru data neu i ganfod ac atal twyll. Efallai y byddwn yn croeswirio'r wybodaeth gyda chyrff, sefydliadau neu adrannau perthnasol eraill o Gyngor Sir Benfro a chynghorau eraill. Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac efallai y byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod/atal twyll neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a'i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost‐effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, gellir rhannu gwybodaeth ag adrannau mewnol eraill o fewn Cyngor Sir Benfro ac Archwilydd Cyffredinol Cymru. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd penodol i ni wneud hynny.
Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a byddwn ond yn casglu'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses drosolwg a chraffu. Pan fyddwch yn rhoi eich data personol i ni, bydd yn cael ei wneud yn gyhoeddus fel rhan o'r broses. Os byddwch yn mynd i gyfarfod, caiff eich enw ei arddangos a’i weddarlledu’n fyw (cedwir recordiadau o gyfarfodydd Pwyllgorau hefyd a gellir eu gweld ar‐lein), oni bai eich bod yn dewis peidio â chael eich ffilmio. Fodd bynnag, byddwch yn cael eich enwi yng nghofnodion y Pwyllgor oni bai eich bod wedi gwneud cais i beidio â chael eich enwi. Bydd y ffurflen gais rydych wedi’i llenwi ac sy’n cynnwys manylion eich enw a’ch cyfeiriad yn cael ei chadw am gyfnod o flwyddyn o’r dyddiad cyflwyno.
Pa mor hir rydym yn cadw eich gwybodaeth?
Byddwn yn cadw'r wybodaeth a ddarperir i ni am gyfnod o flwyddyn o ddyddiad cyfarfod y Pwyllgor a bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu'n ddiogel pan na fydd ei hangen bellach.
Mynediad at fy ngwybodaeth bersonol?
Gallwch gael gwybod a ydym yn dal unrhyw wybodaeth bersonol drwy wneud cais gwrthrych am wybodaeth o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (GDPR). I wneud cais am unrhyw wybodaethb bersonol y gallem fod yn ei dal, mae angen i chi gysylltu â:
Tîm Mynediad i Gofnodion
Cyngor Sir Benfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
Eich Hawliau
O dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau fel unigolyn y gallwch eu harfer mewn perthynas â'r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Ni fydd pob hawl yn berthnasol. Bydd yn dibynnu ar y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data.
- Yr hawl i gael eich Hysbysu – mae gan unigolion yr hawl i gael eu hysbysu am gasglu a defnyddio eu data personol. Mae hyn yn ofyniad tryloywder allweddol o dan y GDPR.
- Yr hawl i Fynediad – mae gennych hawl i holi am gael mynediad i, neu gael copi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch.
- Yr hawl i Gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn am gael cywiro eich gwybodaeth.
- Gall yr hawl i Gyfyngu prosesu fod yn berthnasol – gallwch ofyn i ni roi’r gorau i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, gall hyn oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond efallai y bydd angen i ni ddal neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i Wrthwynebu – nid yw hyn yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
Cwynion neu ymholiadau
Mae Cyngor Sir Benfro yn ymdrechu i gyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a dderbyniwn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i dynnu ein sylw os credant fod ein casglu neu ddefnydd o wybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion hollgynhwysfawr am bob agwedd ar ein casglu a'n defnydd o wybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn fodlon darparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i'r cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Benfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E‐bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cŵyn am y ffordd rydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio cyfraith diogelu data:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
E‐bost casework@ico.org.uk
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.
Protocol ar gyfer Siarad Cyhoeddus mewn Cyfarfodydd Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu (gan gynnwys cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu ar y cyd a chyfarfodydd galw i mewn)
Cyflwyniad
Mae Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu'r Cyngor yn chwarae rhan hanfodol mewn gwella gwasanaethau cyhoeddus, gan hyrwyddo lles cymunedau lleol, ymladd dros bryderon dinasyddion a chynyddu atebolrwydd y broses o wneud penderfyniad mewn ffordd agored ac eglur. Mae aelodau o’r cyhoedd yn gwneud cyfraniad pwysig i’r broses ac yn darparu ffynhonnell werthfawr o wybodaeth a thystiolaeth er mwyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu weithredu. Mae Cyngor Sir Penfro yn annog cyfranogiad weithgar ei ddinasyddion pryd bynnag y bydd yn
bosibl ac mae nifer o ffyrdd y gall y cyhoedd gymryd rhan mewn gwaith ein Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gofyn i gael mynychu cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a siarad os yw’r Pwyllgor yn trafod pwnc yr ydych yn teimlo’n gryf yn ei
gylcho. Yn yr un modd, gallai Pwyllgor eich gwahodd i fynychu cyfarfod i ddarparu tystiolaeth ar bwnc y mae’n ei ystyried (er enghraifft, pan allai penderfyniad y Cyngor gael effaith arwyddocaol ar ei ddinasyddion). Mae’r protocol canlynol yn darparu arweiniad i aelodau’r cyhoedd sy’n cyflwyno cwestiwn ac y maent yn cael eu gwahodd i siarad mewn Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, neu sy’n cael eu gwahodd gan Bwyllgor i roi tystiolaeth.
Sut i gyflwyno cais i siarad mewn Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
Mae cyfle i aelodau o’r cyhoedd siarad mewn Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yng nghyddestun eitem ar raglen waith y Pwyllgor neu eitem benodol ar yr agenda. Caiff dyddiadau cyfarfodydd sydd wedi eu hamserlennu eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ar ddechrau’r flwyddyn
ddinesig gan roi rhybudd ynglŷn â phryd bydd y Pwyllgor yn cwrdd. Y prif ffynonellau i bobl ynglŷn â sut i ddod yn rhan o’r broses graffu yw blaen raglenni gwaith y Pwyllgor. Mae’r rhain yn amlinellu pwrpas a ffocws pynciau craffu a’r dyddiad cyfarfod y bydd y pwnc yn cael ei ystyried. Mae blaen raglenni gwaith ar gael ar wefan y Cyngor ac maent yn rhoi rhybudd o flaen llaw i’r cyhoedd ynglŷn â chyfleoedd i ddod yn rhan o’r broses graffu. Yn ogystal â hyn, mae’r agenda ac adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd penodol ar gael i’r cyhoedd eu gweld ar wefan Cyngor Sir Penfro o leiaf 3 diwrnod gwaith llawn cyn y cyfarfod.
- Dylai aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno siarad neu ddarparu cyflwyniad ysgrifenedig i’w ystyried ar eitem agenda benodol gyflwyno sylwadau (yn gofyn i gael siarad, yn amlinellu pa Bwyllgor ac yn nodi beth yr ydych yn dymuno siarad amdano) i’r Tîm Cefnogi Partneriaeth a Chraffu o leiaf dau ddiwrnod gwaith llawn cyn y cyfarfod Pwyllgor. Glynir ynddiamod at y rheol hon. Dylid anfon ceisiadau o’r fath at Tîm Gwasanaethau Democrataidd a Craffu trwy gyfrwng e- bost: Democraticservices@pembrokeshire.gov.uk neu ar ffurf llythyr at: Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP.
- Caiff ceisiadau i siarad mewn cyfarfod ar bwnc penodol eu cydnabod ar ôl eu derbyn. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd unrhyw barti yn cael siarad a bydd Cadeirydd y Pwyllgor perthnasol yn penderfynu p’un ai i ganiatáu’r cais neu beidio ar ôl ystyried perthnasedd y cais i raglen waith y Pwyllgor neu i bwnc agenda penodol.
- Os oes nifer o bobl sy’n gwneud ceisiadau i siarad ar yr un pwnc efallai y gofynnir iddyn nhw enwebu siaradwr i siarad ar ran pawb.
Darparu tystiolaeth mewn cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
- Efallai y bydd Pwyllgor Troslwg a Chraffu yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd i ddarparu tystiolaeth a thrafod materion o bryder fel rhan o’r broses o graffu ar broblem, yn enwedig os oes gan y pwnc arwyddocâd lleol. Efallai bydd y Pwyllgor, er enghraifft, am glywed gan breswylwyr, aelodau, busnesau neu unrhyw randdeiliad perthnasol mewn perthynas â sut y gallai penderfyniadau’r Cyngor effeithio ar randdeiliaid. Os yw rhywun sydd wedi ei wahodd ddim yn dymuno mynychu, does dim rheidrwydd i wneud hynny.
- Pan fydd y Pwyllgor yn gwahodd rhywun i fynychu cyfarfod Pwyllgor, cysylltir â’r person dros y ffôn yn y lle cyntaf i sicrhau eu bod yn gallu dod i’r cyfarfod. Dilynir hyn gan wahoddiad ysgrifenedig ar ffurf llythyr neu e-bost, yn rhoi’r rhybudd hiraf posibl cyn y Pwyllgor perthnasol. Bydd y llythyr yn hysbysu’r person o’r pwnc sy’n cael ei drafod, yr eitem y gwahoddir y person i roi tystiolaeth amdano a, lle y bo’n briodol, rhestr o gwestiynau i’w hateb. Lle y bo’n berthnasol, bydd hefyd yn nodi a oes angen cyflwyno unrhyw ddogfennau neu adroddiadau ysgrifenedig gerbron y Pwyllgor. Yn dilyn y cyfarfod, caiff y person wybod beth yw canlyniad trafodaethau’r Pwyllgor, ynghyd ag unrhyw argymhellion sy’n deillio o’i ystyriaethau. Siarad cyhoeddus mewn cyfarfod Pwyllgor Troslwg a Chraffu pan fydd penderfyniad a alwyd i mewn.
- Gall Pwyllgor Troslwg a Chraffu hefyd fonitro penderfyniadau’r Adran Weithredol (Cabinet) trwy weithdrefn a elwir yn ‘galw i mewn’. Mae hyn yn galluogi Pwyllgor i ystyried a yw penderfyniad a wnaed gan yr Adran Weithredol (ond nad yw wedi ei weithredu eto) yn addas. Yn dilyn galw penderfyniad i mewn, gall y Pwyllgor argymell bod yr Adran Weithredol yn ailystyried y penderfyniad.
- Gall aelodau o’r cyhoedd siarad mewn cyfarfod Pwyllgor Troslwg a Chraffu pan fydd penderfyniad wedi ei alw i mewn. Bydd yr un weithdrefn ag uchod yn berthnasol yng nghyd-destun cyflwyno cais i siarad mewn cyfarfod o’r fath. Yn dilyn penderfyniad Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol a Democrataidd i alw i mewn bydd dyddiad y cyfarfod Pwyllgor yn cael ei osod ar wefan y Cyngor: Cynghorwyr Sir a Phwyllgorau Byddwch yn ymwybodol bod cyfnod byr fel arfer rhwng penderfyniad y Cabinet a chyfarfod y Pwyllgor Troslwg a Chraffu sy’n ystyried galw i mewn.
Beth i’w ddisgwyl mewn cyfarfod Pwyllgor
- Bydd Cadeirydd y Pwyllgor yn cyflwyno’r rheiny sydd wedi eu gwahodd i siarad yng nghyfarfod y Pwyllgor. Bydd y Cadeirydd hefyd yn darparu trosolwg o’r eitem dan archwiliad, gan gynnwys nodau, amcanion a chyfnod amser y gwaith, ac yn atgoffa’r person sydd wedi ei wahodd i roi tystiolaeth pam fod y pwyllgor wedi ei wahodd i’r cyfarfod. Bydd y Cadeirydd yn hysbysu’r person o brotocol ffilmio a chlywedol y Cyngor. Caiff cyfarfodydd Pwyllgor Troslwg a Chraffu eu darlledu ar y we ac, oni bai eich bod yn gwneud cais i beidio cael eich ffilmio/recordio’n glywedol, byddwch yn cael eich recordio.
- Rhaid i’ch cyflwyniad llafar/tystiolaeth ymdrin â’r materion sy’n berthnasol i’r mater y creffir arno yn unig. Mae unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n gwneud cyflwyniadau neu’n darparu tystiolaeth i’r Pwyllgor yn cael siarad am bum munud yn unig. Bydd y person yn cael gofyn un cwestiwn ychwanegol i’r Pwyllgor, trwy’r Cadeirydd. Yn dilyn hyn bydd gan y Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau i’r person sy’n darparu gwybodaeth. Bydd y Pwyllgor yn trafod ac yn adolygu’r dystiolaeth sydd wedi ei chyflwyno ger ei fron ac, os oes angen, yn darparu adborth ar unrhyw weithredu pellach y mae’n teimlo sy’n briodol.
- Pan fydd aelod o’r cyhoedd wedi gwneud cais i siarad gyda’r Pwyllgor ar bwnc penodol, bydd y Cadeirydd yn gwahodd y person i siarad ar bwynt priodol yn yr agenda ac yn dweud wrthyn nhw ble y gallan nhw eistedd. Gofynnir i’r person hwnnw roi ei enw a darparu manylion a allai fod yn berthnasol i’r eitem a drafodir, er enghraifft enw’r grŵp y gallen nhw fod yn ei gynrychioli.
- Os cewch chi eich gwahodd i siarad mewn cyfarfod Pwyllgor lle mae penderfyniad wedi ei alw i mewn, bydd y person dan sylw yn cael darparu gwybodaeth a gyflwynwyd yn ystod cwrs trafodaethau’r Pwyllgor.
- Os oes gan berson ddogfennau ategol fel lluniau neu arolygon y bydden nhw’n hoffi i’r Pwyllgor eu hystyried fel rhan o’u cyflwyniad, rhaid i’r rhain gael eu darparu i’r Tîm Gwasanaethau Democrataidd a Craffu o leiaf 24 awr cyn y cyfarfod. Ni chaniateir i unrhyw ddogfennau ategol gael eu dosbarthu yn ystod y cyfarfod.
Ymddygiad mewn Pwyllgor Craffu
- Dylai aelodau o’r cyhoedd sy’n siarad mewn Pwyllgor gofio bod cyfarfodydd yn cael eu darlledu’n fyw ar y we ar wefan y Cyngor a’u bod hefyd yn agored i’r cyhoedd a’r wasg. Mae’n bwysig bod unrhyw un sy’n dymuno siarad mewn cyfarfod Pwyllgor yn gwneud hynny mewn modd cyfrifol a pharchus. Ni ddylai tystiolaeth gynnwys unrhyw sylwadau personol sy’n ymwneud ag unrhyw barti, a bydd disgwyl i chi ymateb yn gwrtais i unrhyw gwestiynau gan y Cadeirydd a’r Pwyllgor. Bydd y Cadeirydd (os oes angen, yn dilyn cyngor cyfreithiol) yn gwneud penderfyniad terfynol ynglŷn â chyfranogiad y cyhoedd. Bydd y Pwyllgor yn cael cyngor i ddiystyru sylwadau y penderfynir eu bod yn sarhaus.
Y Gymraeg
- Gellir trefnu bod cyfleusterau ar gael i’r rhai hynny sy’n dymuno siarad Cymraeg. Gofynnir i chi amlygu eich dewis iaith pan fyddwch yn gwneud cais i siarad neu pan fyddwch yn derbyn gwahoddiad
Protocol ar gyfer siarad mewn cyfarfodydd trosolwg a chraffu
1. Cyflwyno cais i siarad mewn cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
Rhaid i gynrychiolaethau ysgrifenedig sy’n gwneud cais am yr hawl i siarad gael eu cyflwyno o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyfan cyn y Pwyllgor
2. Y cais wedi ei gydnabod a’i gyflwyno i Gadeirydd y Pwyllgor perthnasol
3. Y Cadeirydd i ystyried y cais, gan ystyried perthnasedd y cais i raglen waith y Pwyllgor neu’r eitem ar agenda’r Pwyllgor
Os oes nifer o bobl yn dymuno siarad am yr un pwnc, efallai y gofynnir iddyn nhw enwebu siaradwr i siarad ar ran pawb
4. Os caiff y cais ei ganiatáu gan y Cadeirydd, cysylltir drwy alwad ffôn i weld pryd fydd y person sy’n cyflwyno’r cais ar gael, gyda gwahoddiad ysgrifenedig ffurfiol i fynychu Pwyllgor
Bydd gwahoddiad swyddogol yn cynnwys cadarnhad o’r eitem o dan sylw, rhestr o gwestiynau i’w hateb (yn ôl yr angen) a ph’un ai bydd angen adroddiadau ysgrifenedig.
6. Mae’r aelod o’r cyhoedd/rhanddeiliad yn mynychu’r Pwyllgor er mwyn siarad ar y pwnc o dan ystyriaeth. Bydd y person yn cael siarad am 5 munud ac yn cael gofyn un cwestiwn ychwanegol
Os oes angen unrhyw adroddiadau ysgrifenedig, rhaid ’'r rhain gael eu cyflwyno heb fod yn hwyrach na 24 awr cyn y cyfarfod. Rhaid i unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig y mae’r person sy’n gwneud y cais i siarad yn dymuno ei darparu fod wedi ei chymeradwyo o flaen llaw gan y Cadeirydd. Ni ellir dosbarthu dogfennau ategol yn ystod y cyfarfod.
Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd, busnesau neu randdeiliaid eraill i fynychu cyfarfod er mwyn darparu tystiolaeth fel rhan o’r craffu ar sut y gallai penderfyniadau gan y Cyngor effeithio ar ddinasyddion. Os yw rhywun sydd wedi ei wahodd ddim yn dymuno mynychu does dim rheidrwydd i wneud hynny.
7. Bydd y Pwyllgor yn trafod tystiolaeth lafar/ysgrifenedig a gyflwynir ac yn darparu adborth yn ôl yr angen
Pwysig
Dylai aelodau o’r cyhoedd/rhanddeiliaid sy’n siarad mewn cyfarfodydd Pwyllgor fod yn ymwybodol bod;
- Cyfarfodydd yn cael eu darlledu’n fyw ar y we ac maen nhw’n agored i’r cyhoedd a’r wasg
- Ni ddylai cyflwyniadau/tystiolaeth gynnwys sylwadau personol neu sylwadau am unrhyw barti, rhaid iddynt fod yn berthnasol i’r pwnc o dan ystyriaeth ac ni ddylent fod yn llafurus. Gofynnir i’r Pwyllgor ddiystyru unrhyw sylwadau y mae’r Cadeirydd yn ystyried eu bod yn amherthnasol neu y penderfynir eu bod yn sarhaus.
- Dylai’r rhai hynny sy’n siarad mewn cyfarfodydd Pwyllgor ymateb yn gwrtais i gwestiynau gan y Cadeirydd neu’r Pwyllgor
Bydd Cadeirydd y Pwyllgor perthnasol (os yw’n angenrheidiol, yn dilyn cyngor cyfreithiol) yn gwneud penderfyniad terfynol ynglŷn â chyfranogiad y cyhoedd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu