Trwyddedu
Trwyddedu
Mae'r Tîm Trwyddedu yn dosbarthu trwyddedau, cofrestriadau a hawlenni ar gyfer llawer o wahanol weithgareddau gyda'r nod o sicrhau diogelwch y cyhoedd. Unwaith y bydd trwydded wedi ei dosbarthu, rydym yn ymweld ag adeiladau trwyddedig i'w harchwilio ac yn archwilio cerbydau trwyddedig.
ydym yn gweithio law yn llaw â Heddlu Dyfed-Powys ac Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â thelerau ac amodau trwyddedau yn ogystal â deddfwriaeth berthnasol arall.
Mae gennym hefyd systemau monitro i ddarganfod ac atal gweithgareddau didrwydded. Yn ogystal â’r gwaith gorfodi hwn, rydym yn cymryd rhan hefyd mewn mentrau addysg a gwybodaeth ar gyfer trwyddedigion a'u gweithwyr i hybu eu hymwybyddiaeth o faterion diogelwch cyhoeddus. I gael gwybodaeth a ffurflenni cais ar gyfer trwyddedau a hawlenni penodol, dewiswch y cysylltiad priodol os gwelwch yn dda.
Adran Diogelwch Cyhoeddus
Ffôn: 01437 764551
E-bost: licensing@pembrokeshire.gov.uk
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn.