Trwyddedu Digwyddiadau
Trwyddedu Digwyddiadau
Mae'n arferol i ddigwyddiadau fod angen Trwydded Eiddo am gyfnod y digwyddiad dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Ond ar gyfer digwyddiadau llai (llai na 500 o bobl) am gyfnod byr (llai na 168 awr) efallai na fydd angen i drefnwyr gael Trwydded Eiddo ond gallant roi Rhybudd i’r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (TEN).
Awdurdod Trwyddedu. Os yw'ch digwyddiad arfaethedig yn cynnwys un neu ragor o'r gweithgareddau canlynol, mae'n debygol y bydd angen i chi gael trwydded (neu hysbysiad digwyddiad dros dro).
- Gwerthu alcohol
- Cyflenwi lluniaeth yn hwyr y nos - hy gwerthu bwyd poeth neu ddiod boeth rhwng 11.00pm a 5.00am i'w fwyta ar y safle neu oddi arno. Mae hyn yn cynnwys bwyd tecawê, caffis, faniau bwyd poeth symudol ac unrhyw leoliad arall sy'n darparu bwyd poeth neu ddiod boeth
- Darparu 'Adloniant Rheoledig'.
I gysylltu ag aelod o Dîm Trwyddedu i drafod manylion eich digwyddiad arfaethedig. Yna byddwn yn gallu rhoi cyngor mwy penodol i chi.
Tîm Trwyddedu yw: 01437 764551 e-bost licensing@pembrokeshire.gov.uk
ID: 4822, adolygwyd 09/03/2023