Trwyddedu Digwyddiadau
Adloniant nad oes angen trwydded arnoch
Mae dadreoleiddio sylweddol wedi bod ers i Ddeddf Trwyddedu 2003 (yn agor mewn tab newydd) ddod i rym.
Daeth hyn i fod o ganlyniad i:
- Ddeddf Cerddoriaeth Fyw 2012 (yn agor mewn tab newydd)
- Gorchymyn Deddf Trwyddedu 2003 (Disgrifiadau o Adloniant) (Diwygiad) 2013 (yn agor mewn tab newydd)
- Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Trwyddedu Adloniant) 2014 (yn agor mewn tab newydd)
- Deddf Dadreoleiddio 2015 (yn agor mewn tab newydd)
Mae canllawiau ar wefan GOV.UK (yn agor mewn tab newydd) yn rhoi manylion am ba weithgareddau a ystyrir fel darparu adloniant rheoledig a phryd y maent yn drwyddedadwy a'r rhai sydd wedi'u heithrio.
ID: 4824, adolygwyd 29/11/2023