Trwyddedu Digwyddiadau
Beth yw adloniant rheoledig?
Mae adloniant rheoledig yn un o'r gweithgareddau trwyddedadwy ac mae'n cynnwys y mathau canlynol o adloniant:
- Perfformio drama
- Arddangos ffilm
- Digwyddiad chwaraeon dan do
- Bocsio neu reslo
- Perfformio dawns
- Perfformio cerddoriaeth fyw
- Chwarae cerddoriaeth wedi'i recordio
Unrhyw adloniant tebyg i'r un a ddisgrifir yn 5, 6 neu 7 uchod
Os byddant yn digwydd:
- Ym mhresenoldeb cynulleidfa gyhoeddus i’w diddanu
- Yn arbennig i aelodau clwb cymwys, neu
- Yn breifat ac y codir tâl gyda golwg ar wneud elw.
ID: 4823, adolygwyd 12/06/2025