Trwyddedu Digwyddiadau
Trwyddedu ar gyfer digwyddiadau am un tro yn unig ac achlysuron arbennig
Os ydych chi'n cynnal digwyddiad gyda gweithgareddau trwyddedadwy ar gyfer llai na 500 o bobl yn mynychu ac yn para am ddim mwy na 168 awr, gallwch gynnal eich digwyddiad trwy gyflwyno Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (TEN) i'r Awdurdod Trwyddedu.
Mae'r hysbysiad hwn yn caniatáu i chi gynnal gweithgaredd trwyddedadwy ar safleoedd nad ydynt wedi'u trwyddedu ar hyn o bryd, neu i gynnal gweithgareddau nad yw trwydded bresennol yn eu caniatáu.
Byddai hyn yn cynnwys er enghraifft:
- Gwerthu alcohol mewn ffair ysgol - bydd angen TEN hefyd arnoch os ydych chi'n bwriadu cynnal digwyddiad lle mae tocynnau yn cael eu gwerthu gan nodi bod alcohol 'am ddim' ee gwydraid o win am ddim wrth fynd i mewn
- Darparu adloniant rheoledig mewn tafarn lle nad yw'r drwydded gyfredol yn caniatáu hyn
- Aros ar agor i werthu bwyd poeth yn hwyr y nos ar achlysur arbennig (ee Nos Galan)
- Gwerthu alcohol ar ôl yr oriau y mae eich trwydded arferol yn caniatáu, (ee ar gyfer achlysur arbennig).
ID: 4825, adolygwyd 09/03/2023