Trwyddedu Safleoedd Carafannau a Phebyll

Archwilio

Gall trwyddedai ddisgwyl cael archwiliad yn awr ac yn y man gan swyddog iechyd a diogelwch er mwyn gwneud yn siŵr bod amodau'r drwydded yn cael eu cynnal a bod risgiau iechyd a diogelwch eraill yn cael eu rheoli'n ddigonol.  Fel arfer bydd archwilwyr yn cerdded o amgylch y safle i wirio pellterau gwahanu, nifer yr unedau, strwythurau carafanau cyfagos, pwyntiau tân, ardaloedd storio LPG a bloc toiledau ac ati.  Bydd y drwydded drydanol gyfredol, trwyddedau diogelwch nwy landlord ac unrhyw gofnodion cynnal a chadw eraill yn cael eu harchwilio hefyd.  Gall methu â chydymffurfio ag amodau trwydded arwain at erlyniad.

Penderfynir ar amlder archwiliadau trwy ddefnyddio cynllun cyfradd risg, sy'n ystyried nifer yr unedau ar y safle a'u mathau, lefel cydymffurfio ag amodau'r safle a hyder yn y rheolwyr. O bryd i'w gilydd byddwn yn dosbarthu holiadur hunanasesu i benderfynu ar y gyfradd risg.

ID: 1522, adolygwyd 01/02/2023