Trwyddedu Safleoedd Carafannau a Phebyll
Trwyddedu Safleoedd Carafanau
Mae carafan yn cynnwys carafanau gwyliau, carafanau preswyl, carafanau teithio a faniau â gwelyau
Mae Deddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 yn gwahardd defnyddio tir yn safle carafanau oni bai fod gan y meddiannydd drwydded safle wedi ei ddosbarthu gan yr awdurdod lleol. Mae nifer o eithriadau i'r gofyn trwyddedu hwn, sef:
- Defnyddio o bryd i'w gilydd oddi mewn i ffiniau tŷ preswyl
- Safleoedd sydd wedi'u cymeradwyo gan sefydliadau arbennig, fel y clwb carafanio ac ati.
- Safleoedd adeiladu a pheirianwaith
- Safleoedd pobl sioeau teithiol
- Safleoedd ym meddiant yr awdurdod lleol
ID: 1516, adolygwyd 01/02/2023