Trwyddedu Sefydliadau Anifeiliaid

Trwyddedu Sefydliadau Anifeiliaid

Mae'r cyngor yn gyfrifol am sicrhau bod y mathau canlynol o sefydliadau anifeiliaid wedi cael eu trwyddedu. Byddwn yn ymweld â phob un yn flynyddol ac mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â'r amodau trwyddedu.

  • Siopau Anifeiliaid Anwes
  • Sefydliadau Lletya Anifeiliaid
  • Sefydliadau Bridio Cŵn
  • Sefydliadau Marchogaeth
  • Sŵau
  • Anifeiliaid Gwyllt Peryglus

Mewn rhai achosion, mae deddfwriaeth yn gofyn i bobl sy'n cadw Anifeiliaid Perfformio gofrestru gyda'r Cyngor.

Os ydych yn poeni am les unrhyw anifail o fewn sefydliad trwyddedig neu'n amau bod sefydliad yn masnachu heb drwydded yna cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Cynllun Gwobrwyo Sefydliad Sir Benfro

Mae'r Cyngor yn arloesi drwy gynnig gwobrau i annog dalwyr trwydded i gadw'u sefydliadau i safon uchel. Bydd y Gwobrau blynyddol, y cyntaf o'r fath yng Nghymru, yn gwobrwyo dalwyr trwydded sy'n mynd ymhellach na chydymffurfio ag amodau trwydded a safonau arfer gorau.

ID: 2425, adolygwyd 08/09/2022