Trwyddedu Sefydliadau Anifeiliaid

Anifeiliaid Gwyllt Peryglus

Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n cadw anifail sy'n cael ei ddiffinio fel un peryglus dan y Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (yn agor mewn tab newydd) gael trwydded gan y Cyngor. Bwriad y drwydded yw amddiffyn iechyd a lles yr anifail a sicrhau diogelwch pobl eraill.

Enghreifftiau o anifeiliaid gwyllt peryglus:

  • Rhai mathau o fwncïod
  • Nadroedd fenymig ac ymlusgiaid peryglus eraill
  • Baeddod
  • Estrys ac Emwiaid

Efallai bydd angen trwydded ar anifeiliaid croes-frid, sy'n ddibynnol ar ba mor bell mae'r anifail o'i hynafiad gwyllt.

Gweler y rhestr lawn o anifeiliaid arnoch angen trwydded ar gyfer (yn agor mewn tab newydd).

Cysylltwch â'r Tîm Iechyd & Lles Anifeiliaid am fwy o wybodaeth ar 01437 746551 neu AnimalWelfareMailbox@pembrokeshire.gov.uk  

ID: 2431, adolygwyd 06/11/2024