Trwyddedu Sefydliadau Anifeiliaid
Anifeiliaid Perfformio
Os ydych yn arddangos neu hyfforddi anifeiliaid perfformio mae'n rhaid i chi gofrestru gyda'ch awdurdod lleol dan y Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoliad) 1925 (yn agor mewn tab newydd). Mae'n rhaid i chi ddatgelu manylion am yr anifeiliaid a natur gyffredinol y perfformiadau y byddan nhw'n cymryd rhan ynddynt.
Os byddwch yn cadw neu hyfforddi anifeiliaid ar gyfer perfformiadau cyhoeddus efallai mewn syrcas, ar gyfer ffilm neu deledu neu berfformiad theatr.
Ni fydd angen cofrestru os byddwch yn hyfforddi neu arddangos anifeiliaid a fydd yn cael eu defnyddio gan y fyddin neu'r heddlu, neu'n cael eu hyfforddi i'w defnyddio mewn amaethyddiaeth neu chwaraeon.
Cedwir cofrestr o'r holl bobl sydd wedi cofrestru dan y Ddeddf hon ac mae ar gael i'w archwilio gan y cyhoedd drwy apwyntiad o flaen llaw.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd arddangos bod:
- yr anifeiliaid wedi dod o le cyfrifol i leihau'r risg o glefydau;
- y mesurau priodol yn cael eu gwneud i amddiffyn yr anifeiliaid rhag tân neu argyfwng arall yn cynnwys darparu offer ymladd tân addas;
- y gofrestr yn cynnwys y mathau o anifeiliaid a fydd yn cael eu defnyddio mewn perfformiadau, y rhai i'w hyfforddi a'u harddangos;
- gwiriadau iechyd a diogelwch yn cael eu gwneud ar gyfer yr anifeiliaid a'r staff.
Os oes gennych unrhyw bryderon lles am unrhyw anifail perfformio neu'n meddwl bod person yn defnyddio anifail heb gofrestriad anifail perfformio yna cysylltwch â ni'n uniongyrchol.