Trwyddedu Sefydliadau Anifeiliaid

Sefydliadau Bridio Cŵn

Bydd pawb sy'n rhedeg sefydliad bridio cŵn yn gorfod cael eu trwyddedu dan Rholiadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) Cymru 2014 (yn agor mewn tab newydd).

Daeth Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 i rym ar 30ain Ebrill 2015. Bellach mae'r rheoliadau newydd yn datgan bod angen trwydded bridio cŵn pan fo rhywun yn cadw 3 neu fwy o eist bridio ac; yn bridio 3 o dorllwythi neu fwy y flwyddyn NEU yn hysbysebu 3 o dorllwythi neu fwy y flwyddyn NEU yn cyflenwi cŵn bach a aned o 3 o dorllwythi neu fwy NEU yn hysbysebu busnes bridio neu werthu cŵn bach.

Bydd gofyn Rhaglen Wella a Chyfoethogi a Rhaglen Gymdeithasu ysgrifenedig gan y ceisydd yn ogystal ag adroddiad gan Filfeddyg y ceisydd bod y geist bridio a'r cŵn bridio'n addas i'w defnyddio yn y sefydliad bridio cyn y bydd archwiliad trwyddedu'n cael ei gynnal.

Cyn rhoi trwydded bydd y Cyngor yn archwilio'r lleoliad i sicrhau y bydd:

  • y cŵn bob amser yn cael eu cadw mewn adeilad addas o ran adeiledd, maint y lle, nifer sydd ynddo, cyfleusterau ymarfer, tymheredd, golau, awyriad a glanweithdra;
  • digon o fwyd a diod a deunydd gwely gyda'r cŵn, eu bod yn cael ymarfer rheolaidd a chael ymweliadau cyson;
  • rhagofalon priodol yn cael eu cymryd i atal a rheoli lledaeniad clefydau heintus neu gyffwrdd-ymledol ymysg cŵn;
  • camau priodol ar gyfer diogelu'r cŵn os bydd tân neu argyfwng arall;
  • camau priodol i sicrhau bod y cŵn yn cael bwyd, a deunydd gwely addas a'u bod yn cael ymarfer rheolaidd wrth gael eu cludo i ac o'r sefydliad;
  • geist ddim yn cael paru os ydyn nhw'n llai na blwydd oed;
  • geist yn rhoi genedigaeth i ddim mwy na chwe thorllwyth o gŵn bach;
  • geist ddim yn rhoi genedigaeth i gŵn bach cyn diwedd y cyfnod o ddeuddeg mis sy'n dechrau ar y diwrnod gawson nhw gŵn bach diwethaf;
  • cofnodion cywir fel y rhagnodwyd yn y rheoliadau yn cael eu cadw ar y safle.
  • y gymhareb staffio ofynnol yn cael ei chadw

Am fwy o wybodaeth:     
  
RSPCA (yn agor mewn tab newydd)

Croes Las Anifeiliaid Anwes (yn agor mewn tab newydd)

Os oes gennych unrhyw bryderon lles am anifeiliaid mewn sefydliad bridio neu'n meddwl bod person yn masnachu heb drwydded yna cysylltwch â ni'n uniongyrchol.  

 
 
 
 
ID: 2428, adolygwyd 14/08/2024