Trwyddedu Sefydliadau Anifeiliaid
Sefydliadau Lletya Anifeiliaid
Bydd unrhyw berson sydd am gynnal busnes yn darparu llety i gŵn a chathod pobl eraill yn gorfod cael trwydded gan y Cyngor dan y Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963 (yn agor mewn tab newydd).
Bydd angen trwydded os ydych yn cadw'r cŵn a'r cathod mewn amgylchedd cenel traddodiadol neu, fel sy'n gynyddol boblogaidd, yn eich cartref, lle mae'r anifeiliaid yn byw yng nghartref y lletywr.
Mae'n rhaid i'r Cyngor ystyried y canlynol wrth drafod cais:
- bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw bob amser mewn lle sy'n addas o ran adeilad, maint y lle, nifer sydd ynddo, cyfleusterau presennol, tymheredd, golau, awyriad a glanweithdra;
- bydd yr anifeiliaid gyda digon o fwyd, diod a deunydd gwely, yn cael ymarfer digonol, ac (fel y bo'n briodol) cael ymweliad ar adegau addas;
- bod pob rhagofalon priodol yn cael eu cymryd i atal a rheoli lledaeniad clefydau heintus neu gyffwrdd-ymledol ymysg anifeiliaid, yn cynnwys cyfleusterau arwahanu digonol;
- bydd camau priodol ar gyfer diogelu anifeiliaid os bydd tân neu argyfwng arall;
- bod yn rhaid cadw cofrestr yn cynnwys disgrifiad o unrhyw anifail ddaw i'r sefydliad, dyddiad cyrraedd a gadael, enw a chyfeiriad y perchennog.
Am fwy o wybodaeth:
Os oes gennych unrhyw bryderon lles am anifeiliaid mewn sefydliadau lletya anifeiliaid neu'n meddwl bod person yn masnachu heb drwydded yna cysylltwch â ni'n uniongyrchol.
Amodau Trwydded A Chanllawiau Ar Gyfer Llety Cathod
Amodau Trwydded A Chanllawiau Ar Gyfer Gofal Dydd Masnachol I Gŵn
Amodau Trwydded A Chanllawiau Ar Gyfer Cytiau Cŵn Preswyl
Amodau Trwydded A Chanllawiau Ar Gyfer Lletya Cŵn Yn Y Cartref