Trwyddedu Sefydliadau Anifeiliaid
Sefydliadau Marchogaeth
Lle cedwir ceffylau i gael eu hurio ar gyfer marchogaeth neu i gael eu defnyddio, am dâl, neu am hyfforddiant marchogaeth, yna bydd y sefydliad angen trwydded dan Ddeddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 (yn agor mewn tab newydd) and Ddeddf Sefydliadau Marchogaeth 1970 (yn agor mewn tab newydd).
Mae sefydliadau marchogaeth yn cael eu harchwilio gan filfeddyg ac Arolygwr Iechyd a Lles Anifeiliaid.
Cyn rhoi trwydded bydd y Cyngor yn archwilio'r lle i sicrhau:
- bod y ceffylau mewn iechyd da ac yn gallu gwneud y gwaith sydd ei angen ganddynt;
- bod yr holl offer marchogaeth yn ddiogel rhag unrhyw nam gweladwy a fyddai'n gallu achosi poen i'r ceffyl neu ddamwain i'r marchogwr;
- bod traed yr holl geffylau'n cael eu trimio ac os ydynt wedi'u pedoli, bod y pedolau'n ffitio'n iawn ac mewn cyflwr da;
- os bydd angen sylw milfeddyg ar geffyl yn ystod archwiliad, ni ddylid ei ddefnyddio i weithio;
- bod y ceffylau'n cael porfa, lloches, dŵr a phorthiant addas;
- bod ceffylau mewn stablau yn cael bwyd, ymarfer, dŵr a deunydd gwely addas a chael eu brwshio ar gyfnodau rheolaidd;
- bod camau'n cael eu cymryd i atal clefydau heintus a chyffwrdd-ymledol rhag lledaenu.
Am fwy o wybodaeth:
Amodau Trwydded Ar Gyfer Sefydliadau Marchogaeth
Os oes gennych unrhyw bryderon lles am anifeiliaid mewn sefydliadau marchogaeth anifeiliaid neu'n meddwl bod person yn masnachu heb drwydded yna cysylltwch â ni'n uniongyrchol
ID: 2429, adolygwyd 21/11/2023