Trwyddedu Sefydliadau Anifeiliaid
Siopau Anifeiliaid Anwes
Mae cadw a rhedeg siop anifeiliaid anwes yn cael ei reoli gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 (yn agor mewn tab newydd)
I redeg busnes sy'n gwerthu anifeiliaid anwes byddwch angen trwydded gan yr awdurdod lleol. Mae hyn yn cwmpasu gwerthu anifeiliaid anwes yn fasnachol, yn cynnwys mewn siopau anifeiliaid anwes a busnesau'n gwerthu anifeiliaid ar y rhyngrwyd.
Mae'n rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canlynol wrth drafod cais am drwydded siop anifeiliaid anwes:
- bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn lle addas, er enghraifft rhaid edrych ar dymheredd, gofod, golau, awyriad a glanweithdra
- bod digon o fwyd a diod i'r anifeiliaid a rhywun yn edrych arnynt ar adegau addas
- nad yw unrhyw famal yn cael ei werthu'n rhy ifanc
- bod camau'n cael eu cymryd i atal clefydau rhag lledaenu ymysg yr anifeiliaid
- bod darpariaethau tân ac argyfwng mewn lle
Am fwy o wybodaeth: Amodau’r Drwydded a Chanllawiau I Siopau Anifeiliaid Anwes (yn agor mewn tab newydd)
Os oes gennych unrhyw bryderon lles am anifeiliaid mewn siop anifeiliaid anwes neu'n meddwl bod person yn gwerthu anifeiliaid anwes heb drwydded yna cysylltwch â ni'n uniongyrchol