Trwyddedu Sefydliadau Anifeiliaid

Sŵau

Lle cedwir anifeiliaid gwyllt ar gyfer cael eu harddangos, a lle mae mynediad i aelodau'r cyhoedd, am ddim neu gyda thâl mynediad, am saith diwrnod neu fwy mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis olynol, yna bydd y sefydliad hwnnw angen trwydded dan Ddeddf Trwyddedu Sŵau 1981 (yn agor mewn tab newydd).

Mae cwmpas eang y diffiniad hwn yn golygu bod sŵau yn amrywio o sŵau trefol traddodiadol a pharciau saffari i gasgliadau arbenigol bychain fel tai gloÿnnod byw ac acwariwm.

Beth sydd ddim yn sw?

  • Ar agor am lai na 7 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis
  • Casgliad o anifeiliaid domestig yn unig
  • Syrcas

Mae'r Ddeddf yn ceisio sicrhau, lle mae anifeiliaid yn cael eu cadw ar dir caeedig, bod ganddynt amgylchedd priodol i roi cyfle iddynt arddangos ymddygiad naturiol  ac i gadw'r cyhoedd yn ddiogel.

Os oes gennych unrhyw bryderon lles am anifeiliaid mewn sw neu'n meddwl bod person yn masnachu heb drwydded yna cysylltwch â ni'n uniongyrchol.

Cysylltwch â'r Tîm Iechyd & Lles Anifeiliaid am fwy o wybodaeth ar 01437 746551 neu AnimalWelfareMailbox@pembrokeshire.gov.uk  

 
 
ID: 2430, adolygwyd 10/10/2023