Trwyddedu Tacsis
Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat
I drwyddedu cerbyd rhaid i chi benderfynu’n gyntaf a yw’r cerbyd y byddwch yn ei yrru yn gerbyd hur neu gerbyd llogi preifat. Nid oes modd defnyddio cerbyd llogi preifat heblaw am deithiau a archebwyd o flaen llaw ac mae angen trwydded Gweithredwr Llogi Preifat hefyd. Mae cerbydau hur yn gallu cymryd archebion ac maent hefyd yn gallu defnyddio safleoedd tacsis.
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais briodol a chyflwyno’r canlynol i gefnogi’ch cais:
- Y Ddogfen Gofrestru - byddwn angen y gwreiddiol er mwyn i ni gymryd llungopi.
- Tystysgrif Yswiriant / Nodyn Yswiriant - rhaid cyflwyno’r ddogfen wreiddiol er mwyn i ni gymryd llungopi. Rhaid i’r yswiriant fod ar gyfer gyrru tacsi / cerbyd llogi preifat a rhaid i’r yswiriant ddechrau, fan bellaf, ar y dyddiad ac amser y mae’r cerbyd yn cael ei brofi.
- Tystysgrif calibro mesurydd.
- Y ffi lawn - nes byddwch wedi gwneud y tâl priodol yn llawn ni fyddwch yn gallu archebu prawf eich cerbyd.
Sut mae gwneud trefniant i archwilio fy ngherbyd?
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich holl ddogfennau a’r taliad a’u bod yn dderbyniol bydd aelod o’r Tîm Trwyddedu’n gwneud trefniant i chi fynychu canolfan MOT y Cyngor. Mae trefniadau’n dibynnu ar beth sydd ar gael ac maent y tu hwnt i reolaeth y Tîm Trwyddedu.
Faint o amser mae’r broses yn ei gymryd?
Bydd y Tîm Trwyddedu’n delio â’ch cais mor gyflym ag y gall, fel arfer cyn pen 28 diwrnod gwaith.