Trwyddedu Tacsis
Cerbydau Hygyrch ar gyfer Cadeiriau Olwyn
Isod mae rhestr gyfredol o gerbydau hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn sydd wedi eu trwydded gan Gyngor Sir Penfro.
Rhestr Ddynodedig o Gerbydau Hygyrch ar Gyfer Defnyddwyr Cadeiriau Olwyn
Daeth Adran165 ac Adran 167 Deddf Cydraddoldeb 2010 (Y Ddeddf) i rym ar 6 Ebrill 2017.
Mae Adran 167 y ddeddf yn rhoi’r pŵer i’r Awdurdod Trwyddedu gadw rhestr o gerbydau tacsi sy’n hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn (cerbydau llog) a cherbydau llog preifat.
Mae unrhyw yrrwr tacsi (cerbyd llog) neu gerbyd llogi preifat sydd wedi ei ddynodi’n addas ar gyfer mynediad i gadair olwyn yn gorfod cydymffurfio â gofynion Adran 165 Deddf Cydraddoldeb 2010, os nad ydynt wedi cael tystysgrif eithrio.
Y dyletswyddau sydd yn dod o dan Adran 165 yw
- Cludo’r teithiwr tra mae yn y gadair olwyn;
- Peidio codi tâl ychwanegol am wneud hynny;
- Cludo’r gadair olwyn, os yw’r teithiwr yn dewis eistedd mewn sedd teithiwr yn y cerbyd;
- Cymryd camau priodol er mwyn sicrhau bod y teithiwr yn cael ei gludo yn ddiogel ac mor gyfforddus ag y bo modd;
- Rhoi cymorth i’r teithiwr symud fel sydd yn rhesymol i’w wneud.
Mae rhoi cymorth i symud yn cael ei ddiffinio fel:
- Galluogi’r teithiwr i fynd mewn ac allan o’r cerbyd;
- Os yw’r teithiwr yn dymuno aros yn ei gadair olwyn, galluogi’r teithiwr i fynd i mewn ac allan o’r cerbyd tra mae yn y gadair olwyn;
- Llwytho bagiau’r teithiwr i mewn neu allan o’r cerbyd
- Os nad yw’r teithiwr yn dymuno eistedd yn y gadair olwyn, llwytho’r gadair olwyn i mewn neu allan o’r cerbyd
Mae’n drosedd i yrrwr cerbyd hygyrch ar gyfer cadair olwyn sydd ar restr ddynodedig i beidio â chydymffurfio gyda’r dyletswyddau uchod. Mae unrhyw fethiant i gydymffurfio gyda’r dyletswyddau hyn yn fater difrifol , a gall arwain at erlyniad a/neu atgyfeiriad at yr Is-bwyllgor Trwyddedu er mwyn ail-ystyried eu trwydded gyrru cerbyd llog/llogi preifat.
Mae Adran 166 yn caniatáu i’r Awdurdod Trwydded eithrio gyrwyr o’u dyletswyddau i gynorthwyo teithwyr mewn cadeiriau olwyn os ydynt yn fodlon ei bod yn briodol i wneud hynny ar sail feddygol, neu os yw cyflwr corfforol y gyrrwr yn ei gwneud yn amhosib iddo gydymffurfio â’r dyletswyddau.
Mae unrhyw yrrwr cerbyd llog neu gerbyd llog preifat sydd ar y rhestr ddynodedig yn gallu cyflwyno cais i’w eithrio o ddyletswyddau Adran 165, trwy gwblhau’r ffurflen gais perthnasol. Bydd gofyn cael tystiolaeth feddygol er mwyn cefnogi’r cais.