Trwyddedu Tacsis
Cwestiynau Cyffredin ynghylch trwyddedu tacsis
Beth yw cerbyd llogi preifat?
Nid oes modd defnyddio cerbyd llogi preifat heblaw am deithiau a archebwyd o flaen llaw ac mae angen trwydded gweithredwr llogi preifat hefyd. Ni all cerbydau llogi preifat ddefnyddio safleoedd tacsis.
Beth yw cerbyd hur?
Mae cerbydau hur yn gallu cymryd archebion a gallant hefyd ddefnyddio safleoedd tacsis. Rhaid bod mesurydd ar gerbyd hur.
Beth yw gweithredwr llogi preifat?
Os trwyddedwyd cerbyd fel cerbyd llogi preifat, yna mae angen trwydded gweithredwr llogi preifat. Gwelwch y dudalen Sut mae dod yn Weithredwr Llogi Preifat.
ID: 2066, adolygwyd 08/02/2023