Trwyddedu Tacsis

Gweithredwr Llogi Preifat

Os ydych yn bwriadu gweithredu cerbydau llogi preifat, yna bydd angen i chi wneud cais i ddod yn Weithredwr Llogi Preifat.
Mae’n ofynnol bod y dogfennau canlynol yn dod gyda’ch cais:

  • Ffurflen gais wedi’i llenwi
  • Y ffi

Nid oes modd prosesu unrhyw gais cyn derbyn y tâl priodol 

Nid yw caniatâd cynllunio’n rhagofyniad eich trwydded, ond rhaid i chi sicrhau eich bod yr awdurdod lleol yn rhoi’r caniatâd cynllunio priodol. Cysylltwch ag Adran Gynllunio Cyngor Sir Penfro i gael cyngor ar y mater hwn.

Dylid nodi hefyd, os yw eich eiddo’n perthyn i’r Cyngor, bod angen i chi gael caniatâd yr awdurdod lleol fel landlord. Nid yw hyn yn rhagofyniad eich trwydded ond mae’n amod o denantiaeth pawb sydd am redeg busnes o eiddo’r Cyngor eu bod yn cael y caniatâd perthnasol.

Yr amserlen ar gyfer penderfynu’r drwydded fydd 28 diwrnod heb wrthwynebiad a 42 diwrnod os bydd gwrthwynebiad. Pennwyd yr amserlenni hyn fel dangosyddion yng nghynllun perfformiad yr adran.

Mae holl faterion perthnasol i’ch cais yw gydgyfrinachol ac ni fydd neb yn cael eu trafod heblaw’r rhai sydd â rhan uniongyrchol ym mhrosesu eich cais.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, cofiwch ffonio 01437 764551.  

ID: 2072, adolygwyd 06/09/2024