Trwyddedu Tacsis
Gyrrwr Hacni a Hurio Preifat
I ddechrau , mae angen i ymgeiswyr wneud cais ar y ffurflen gais briodol. Mae’r drwydded yn cael ei rhoi dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac yn ddilys am tair blynedd. I gael trwydded gyrrwr rhaid i’r Cyngor benderfynu a ydych yn “rhywun addas a phriodol” neu beidio yn ôl telerau’r Ddeddf. Mae hyn yn golygu gwneud cyfres o brofion a gwiriadau gydag amrywiol sefydliadau fel bod y Cyngor yn gallu penderfynu eich cais yn deg ac yn gyson. Os bydd materion yn codi o’r gwiriadau hyn, bydd y cais yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu i’w ystyried. Mae’r gwiriadau a phrofion a wnawn fel a ganlyn:
Prawf Gwybodaeth
Fel rhan o'r broses ymgeisio Mae Cyngor Sir Penfro wedi cyflwyno Prawf Gwybodaeth Lleol.
Bydd disgwyl i bob ymgeisydd i basio'r Prawf Gwybodaeth Lleol fel rhan o'r drefn ymgeisio cyn cael ei derbyn ar gyfer Cerbyd Hacnai Gyrwyr / Cerbyd Hurio Preifat Bathodyn.
Mae ffi o £49.00 yn daladwy cyn dyddiad y prawf. Dim ond ymgeiswyr sydd wedi talu'r ffi yn llawn, a gaiff sefyll yr arholiad.
Os hoffech archebu lle ,cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu drwy licensing@pembrokeshire.gov.uk
Ddeddf Mewnfudo 2016
Mewn grym o'r 1 Rhagfyr 2016, mae'r Ddeddf Mewnfudo 2016 yn atal pobl heb statws mewnfudo cyfreithlon a'r hawl i weithio yn y DU (cyfeirir ato fel yr Hawl i Drwyddedu) rhag cadw trwydded yrru cerbyd hacni neu logi preifat neu drwydded gweithredwr llogi preifat.
Mae'n rhaid i'r tîm trwyddedu, yn gyfreithiol, gwblhau gwiriad wyneb yn wyneb gyda HOLL ymgeiswyr trwydded i sicrhau nad ydi'r trwyddedau yn cael eu dosbarthu i unrhyw berson sydd heb y dogfennau ‘hawl i weithio' cywir.
Mae'r gyfraith newydd yn berthnasol i yrwyr cerbydau llogi preifat / cerbyd hacni a gweithredwyr llogi preifat.
Bydd rhaid i bob ymgeisydd, boed yn newydd neu ar gyfer adnewyddu, drefnu apwyntiad gyda'r Swyddog Trwyddedu er mwyn cyflwyno dogfennau gwreiddiol, a fynnir gan y Swyddfa Gartref.
Bydd y dogfennau a gyflwynir yn cael eu llungopïo, a bydd yr Adran Drwyddedu yn cadw copi.
Lle nad oes cyfyngiadau ar yr hawl i weithio yn y DU, ni fydd angen ailadrodd gwiriadau ‘Hawl i Drwyddedu' ar geisiadau adnewyddu dilynol.
Mae rhestr lawn o ddogfennau derbyniol ar gyfer gwiriad ‘Hawl i Drwyddedu' i'w gweld ar-lein ar Hawl i rhestr wirio yn gweithio (yn agor mewn tab newydd)
Os oes cyfyngiadau ar hyd yr amser y cewch weithio yn y DU, bydd eich trwydded yn terfynu'r un pryd. Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd y gwiriad yn cael ei ailadrodd bob tro y byddwch yn ymgeisio i adnewyddu neu ymestyn eich trwydded. Os, yn ystod y cyfnod hwn, rydych yn cael eich gwahardd rhag cadw trwydded am nad ydych wedi cydymffurfio gyda chyfreithiau mewnfudo'r DU, bydd eich trwydded yn terfynu a bydd yn rhaid i chi ei dychwelyd i'r cyngor - mae methu â gwneud hyn yn drosedd.
Os nad ydych yn cyflwyno dogfennau derbyniol ni fyddwch, yn gyfreithiol, yn medru adnewyddu neu ymgeisio am eich trwydded.
Gwiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol (DBS)
RHAID i holl ymgeiswyr i fod yn yrrwr cerbyd hur / llogi preifat wneud cais am wiriad uwch y Swyddfa Cofnodion Troseddol (DBS) (yn agor mewn tab newydd). Mae’r ffurflen gais ar gael oddi wrth Dîm Trwyddedu’r Cyngor (ffôn 01437 764551). Bydd angen i bob ymgeisydd wneud trefniant i fynd drwy ffurflen y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar ôl ei llenwi gydag Arolygydd Trwyddedu (boreau Mercher yn unig).
Mae’r gwirio’n cynnwys chwilio’ch hanes troseddol unigol i weld a ydych yn rhywun diogel i yrru’r cyhoedd, gan fod rhai ohonynt yn agored i niwed, yn oedrannus neu’n fethedig. Mae’r CRB yn sefydliad canolog sy’n delio â holl wiriadau o hanes troseddol ar ran y Cyngor.
Cyfeiriwch at ein polisi euogfarnau - Canllawiau ar addasrwydd yr ymgeiswyr - Polisi Euogfarnau
Archwiliad Meddygol
Bydd gofyn i bob ymgeisydd gael archwiliad meddygol Grŵp 2, fydd fel arfer yn cael ei wneud gan eich meddyg eich hun. Gall rhai anhwylderau meddygol olygu nad ydych yn gallu gyrru’n broffesiynol ac mae’n bwysig bod y Cyngor yn gwybod am broblemau o’r fath i sicrhau diogelwch y cyhoedd. Rhaid i yrwyr dan 65 gael prawf meddygol bob 3 blynedd a gyrwyr dros 65 bob blwyddyn.
Bydd angen ichi ddarparu'r eitemau canlynol:
- Ffurflen gais (gyda'r holl adrannau wedi'u cwblhau)
- Dau lun pasbort
- Tystysgrif feddygol gan eich Meddyg Teulu eich hun
- Tystysgrif ‘DBS’ uwch - a roddwyd gan Gyngor Sir Penfro yn ystod y 3 mis diwethaf
- Copi o ddwy ochr eich cerdyn-llun trwydded yrru (rhaid bod y drwydded wedi'i dal am o leiaf blwyddyn)
- Cod trwydded ‘DVLA’
- Prawf o'ch hawl i weithio
- Y ffi ar gyfer y cais - £240 /trwydded 3 blynedd