Trwyddedu Tacsis
Rhoi gwybod am ddamwain yn ymwneud & thacsi trwyddedig neu gerbyd hurio preifat
Mae'r Rhoi gwybod am ddamwain yn ymwneud & thacsi trwyddedig neu gerbyd hurio preifat ffurflen hon dim ond i'w ddefnyddio gan berchnogion cerbydau hacni neu gerbydau hurio preifat sydd wedi'u trwyddedu gan Gyngor Sir Penfro.
Rhaid i berchnogion cerbydau trwyddedig hysbysu'r awdurdod trwyddedu os yw eu cerbyd trwyddedig wedi bod mewn damwain sy'n achosi difrod i'r cerbyd, gan effeithio ar ddiogelwch, perfformiad neu olwg y cerbyd.
Dylid rhos gwybod am hyn cyn gynted â phosible, ac o fewn 72 awr fan bellaf. Gallwch gyrchu'r ffurflen hon 24 awr y dydd.
Mae methu ag adrodd o fewn 72 awr yn torri amodau eich trwydded a gallai arwain at gamau gweithredu megis cael eich atgyfeirio at is-bwyllgor trwyddedu
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'r adroddiad, bydd aelod o'r tîm trwyddedu'n cysylltu â chi. Mae'n bosibl y gofynnir i chi gyflwyno'ch cerbyd i swyddog i'w archwilio, a allai arwain at atal platiau trwydded eich cerbyd nes bod y difrod wedi'i unioni, a nes bod y cerbyd yn pasio prawf garej. Os yw'ch cerbyd wedi'i atal, ni ddylai't cerbyd gael ei ddefnyddio i gludo teithwyr sy'n talu.