Trwyddedu
Bysiau i’w Tynnu gan Geffyl
Cyngor Sir Penfro sy’n gyfrifol am reoleiddio bysiau i’w tynnu gan geffyl o fewn Sir Benfro.
Diffiniad bws i’w dynnu gan geffyl yw bws, siarabáng, waganét, brêc, coets fawr neu gerbyd arall (anfodurol) yn gyrru neu’n sefyll i’w logi gan neu’n cael ei ddefnyddio i gludo teithwyr am bris tocynnau ar wahân i, o neu yn unrhyw ran o’r pellter penodedig yn amodol ar eithriadau penodedig. Mae bysiau i’w tynnu gan geffyl yn gweithredu ar lwybrau a ragdrefnwyd.
Yn ddiweddar, cyflwynodd Cyngor Sir Penfro is-ddeddfau i reoleiddio trwyddedu a gorfodi rheolau bysiau i’w tynnu gan geffyl yn Sir Benfro ac ni all bws felly weithredu cyn cael trwydded i’r gyrrwr a’r cerbyd.
Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu ar 01437 764551 neu e-bostio licensing@pembrokeshire.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth a’r ffurflenni cais priodol.